Y frwydr i osgoi’r cwymp fydd yn cael y brif sylw dros y penwythnos a gyda dim ond pwynt yn gwahanu’r tri isaf bydd Y Fflint, Y Drenewydd ac Aberystwyth i gyd yn chwarae’n fyw ar Sgorio.
Nos Wener, 18 Rhagfyr
Caernarfon v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45 (Facebook Live)
Ar ôl tair colled yn olynol mae’r Drenewydd wedi llithro i safleoedd y cwymp, ond gyda gêm wrth gefn o’i gymharu â’r timau o’u hamgylch bydd Chris Hughes yn hyderus y gall y Robinaid ddringo’r tabl yn ystod eu rhediad nesaf o gemau yn erbyn Caernarfon, Aberystwyth a Met Caerdydd.
Yn dilyn colled drom yn erbyn Pen-y-bont bythefnos yn ôl, mae Caernarfon wedi ymateb yn gadarn gan ennill tair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr diwethaf.
Mae’r Cofis wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd a byddai buddugoliaeth nos Wener yn eu codi i’r pedwerydd safle dros nos.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ➖❌✅✅✅
Y Drenewydd: ✅➖❌❌❌
Dydd Sadwrn, 19 Rhagfyr
Cei Connah v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd y pencampwyr yn ysu i ddychwelyd i’r maes yn dilyn eu buddugoliaeth ragorol yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn diwethaf, eu chweched buddugoliaeth yn olynol.
Met Caerdydd sydd â’r record sgorio salaf yn y gynghrair y tymor yma (13 gôl mewn 15 gêm), a bydd hi’n her i dîm Christian Edwards yn erbyn y Nomadiaid sydd ond wedi ildio pedair gôl mewn wyth gêm gartref y tymor yma.
Dyw Met Caerdydd erioed wedi ennill gêm gynghrair oddi cartref yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy, ond fe enillodd y myfyrwyr yno yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru y tymor diwethaf.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅✅✅
Met Caerdydd: ✅✅➖❌❌
Y Barri v Derwyddon Cefn | Dydd Sadwrn – 14:30
Enillodd Y Barri bump o’u chwe gêm agoriadol y tymor yma, ond ers hynny dyw hogiau Gavin Chesterfield ond wedi curo un mewn naw gan golli gafael ar y ceffylau blaen.
Mae hi wedi bod yn wythnos fawr i’r Derwyddon sydd wedi codi o waelod y domen i’r 9fed safle yn dilyn dwy fuddugoliaeth o’r bron.
Mae’r Dreigiau wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon ond mae’n gaddo i fod yn ornest agos ar Barc Jenner brynhawn Sadwrn.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ➖❌✅❌❌
Derwyddon Cefn: ❌➖❌✅✅
Y Fflint v Aberystwyth | Dydd Sadwrn – 16:15 (S4C)
Bydd dau o’r tri isa’n cwrdd yn fyw ar Sgorio brynhawn Sadwrn a bydd Neil Gibson yn awyddus i sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr Y Fflint o flaen y camerau.
Mae Aberystwyth wedi colli eu pum gêm ddiwethaf ac yn stryffaglu tua’r gwaelodion ar ôl ennill dim ond dwy o’u 15 gêm y tymor hwn.
Ond Aber enillodd y gêm gyfatebol gyda Jonathan Evans, Mathew Jones a Lee Jenkins yn rhwydo i’r Gwyrdd a’r Duon ar Goedlan y Parc ym mis Medi (Aber 3-1 Fflint).
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅❌❌❌❌
Aberystwyth: ❌❌❌❌❌
Y Seintiau Newydd v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau wedi ennill pob un o’u pedair gêm flaenorol yn erbyn Pen-y-bont ac ar ôl sgorio pedair yn erbyn Y Drenewydd yng nghanol wythnos mi fydd criw Scott Ruscoe yn hyderus o hawlio’r triphwynt ddydd Sadwrn.
Dyw tîm Rhys Griffiths ond wedi colli yn erbyn y tri uchaf y tymor hwn (YSN, Cei Connah, Y Bala) a gyda sawl gêm wrth gefn mae Pen-y-bont mewn safle cryf i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf.
Mae’r Seintiau wedi ennill pob un o’u gemau cartref y tymor yma ac yn benderfynol o beidio colli eu lle ar frig y tabl.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅❌✅
Pen-y-bont: ✅❌➖✅✅