S4C

Navigation

Penwythnos allweddol ar y gweill gyda’r ddau ar y brig yn cyfarfod yng Nglannau Dyfrdwy, tra bydd Neil Gibson yn cymryd yr awennau am y tro cyntaf fel rheolwr newydd Y Fflint.

Dydd Sadwrn, 12 Rhagfyr

Caernarfon v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30

Roedd ‘na ryddhad i’r ddau reolwr yn eu gemau diwethaf wrth i’r ddau glwb ddod a rhediadau hir heb fuddugoliaethau i ben.

Roedd Caernarfon wedi mynd ar rediad o saith gêm heb ennill cyn trechu’r Derwyddon ar y Graig nos Fawrth.

Cafodd gêm Y Barri yn erbyn Hwlffordd ei gohirio yng nghanol wythnos, ond ar ôl curo’r Fflint o 6-3 ddydd Sadwrn diwethaf bydd Gavin Chesterfield yn gobeithio am berfformiad cystal yn erbyn y Cofis y penwythnos yma.

Mae Caernarfon wedi ennill pedair o’u pum gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Barri, ond y Dreigiau enillodd y gêm gyfatebol yn gynharach y tymor hwn gyda Kayne McLaggon yn rhwydo ddwywaith i’r Barri mewn buddugoliaeth o 3-1 ar Barc Jenner.

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ❌❌➖❌✅

Y Barri: ➖❌➖❌✅

 

Derwyddon Cefn v Hwlffordd | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae cyfnod rhwystredig y Derwyddon yn parhau ar ôl dioddef colled o 2-1 gartref yn erbyn Caernarfon nos Fawrth.

Mae tîm Bruno Lopes bedwar pwynt o dan diogelwch y 10fed safle ar ôl ennill dim ond un o’u 13 gêm y tymor hwn.

Ar ôl tair gêm heb golli mae Hwlffordd wedi codi i’r hanner uchaf a bydd yr Adar Gleision yn llawn hyder gan nad ydyn nhw wedi colli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon.

Record cynghrair diweddar:

Derwyddon Cefn: ❌➖❌➖❌

Hwlffordd: ➖❌✅✅➖

 

Pen-y-bont v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 14:30

Daeth cyfnod Niall McGuinness fel rheolwr Y Fflint i ben yn dilyn eu colled yn erbyn Y Barri brynhawn Sadwrn diwethaf.

Mae’r Fflint un safle o’r gwaelod yn y tabl ar ôl colli 11 o’u 14 gêm gynghrair y tymor yma ac mae’r clwb wedi penodi cyn-reolwr Prestatyn, Neil Gibson i geisio arwain y tîm allan o safleoedd y cwymp.

Mae’n glwb newydd i Neil Gibson ond bydd y garfan yn un cyfarwydd iawn iddo, gan fod nifer o dîm presennol Y Fflint wedi ennill cynghrair Cymru North gyda Phrestatyn y tymor diwethaf o dan arweiniad Gibson.

Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb ac ar ôl chwalu Caernarfon 6-0 yn eu gêm ddiwethaf bydd Pen-y-bont yn awyddus am driphwynt arall i atgyfnerthu eu lle yn yr hanner uchaf.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ❌✅❌➖✅

Y Fflint: ❌✅❌❌❌

 

Y Bala v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30

Wythnos ar ôl y gêm gyfartal 1-1 rhwng y timau yng Nghampws Cyncoed bydd Met Caerdydd a’r Bala yn cwrdd eto ar Faes Tegid ddydd Sadwrn.

Dyw Met Caerdydd heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Bala ac mae gan y myfyrwyr gyfle i ddringo i’r hanner uchaf y penwythnos yma yn dilyn rhediad o dair gêm heb golli.

Ar ôl curo Aberystwyth nos Fercher dyw’r Bala bellach heb golli mewn 11 gêm a bydd Colin Caton yn gobeithio ymestyn y rhediad hwnnw, a fyddai’n golygu bod y clwb ar eu rhediad hiraf heb golli ers 2013.

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ✅✅➖➖✅

Met Caerdydd: ➖❌✅✅➖

 

Cei Connah v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 16:30 (S4C)

Teg dweud mae hon yw gêm fwya’r tymor hyd yma, wrth i’r ddau ar y brig baratoi am frwydr hollbwysig yng Nglannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn.

Mae’r Seintiau Newydd yn dechrau’r penwythnos driphwynt uwchben y Nomadiaid ac felly bydd Scott Ruscoe yn ysu i gael agor bwlch o chwe phwynt ar y copa.

Ond dyw Cei Connah ond wedi colli un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Seintiau yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy, a bydd Andy Morrison yn benderfynol o ddringo’n hafal ar bwyntiau gyda’u gwrthwynebwyr ddydd Sadwrn.

Y Seintiau ydi’r unig dîm sydd heb golli gêm yn y gynghrair y tymor yma, a dim ond unwaith mae Cei Connah wedi colli hefyd, hynny yn erbyn y Seintiau wrth gwrs.

Louis Robles sgoriodd yr unig gôl yn y gêm gyfatebol yn Neuadd y Parc ym mis Hydref, ond roedd Cei Connah yn teimlo bod y canlyniad heb adlweyrchu’r gêm, felly bydd y Nomadiaid yn barod i dalu’r pwyth yn ôl y penwythnos yma.

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah:  ✅✅✅✅✅

Y Seintiau Newydd: ➖✅✅✅✅

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:30.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?