S4C

Navigation

Mae’n benwythnos olaf tymor cyffredin y Cymru Premier JD, ac erbyn diwedd prynhawn Sadwrn mi fyddwn ni’n gwybod os mae Aberystwyth yntau’r Fflint fydd yn syrthio o’r gynghrair gydag Airbus UK.

Yn yr hanner uchaf mae’r Seintiau Newydd wedi selio’r bencampwriaeth, a Cei Connah wedi cipio’r ail safle gan gadarnhau eu lle hwythau yn Ewrop, ond mae dau docyn ar ôl i gyrraedd Ewrop eleni a bydd rheiny yn mynd i’r clwb sy’n ennill y gemau ail gyfle, ac enillwyr Cwpan Cymru.

Os bydd Y Seintiau Newydd yn curo’r Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru wythnos nesaf, yna bydd y tîm fydd wedi gorffen yn 3ydd yn sicrhau’r safle olaf yn Ewrop, a gyda dim ond un gêm i’w chwarae, gwahaniaeth goliau’n unig sydd rhwng Pen-y-bont a Met Caerdydd yn y 3ydd a’r 4ydd safle.

 

CHWECH UCHAF

Met Caerdydd (4ydd) v Y Bala (5ed) | Dydd Sadwrn – 12:45

Mae Met Caerdydd wedi sicrhau eu bod am orffen yn eu safle uchaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru, ond byddai codi uwchben Pen-y-bont ar y diwrnod olaf yn eu rhoi mewn safle ffafriol i hawlio lle yn Ewrop am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Mae gorffen yn y 3ydd safle wedi bod yn ddigon i sicrhau lle’n Ewrop ym mhob un o’r wyth tymor diwethaf, ac os gall y myfyrwyr gael canlyniad gwell na Phen-y-bont ddydd Sadwrn yna nhw fydd yn gorffen yn 3ydd.

Mae’r Bala wedi mynd ar rediad o 11 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair, sy’n golygu bod tîm Colin Caton am orffen y tymor o dan y tri uchaf am y tro cyntaf ers pedair blynedd.

Ond, dyw Hogiau’r Llyn ond un gêm i ffwrdd o gyrraedd Ewrop – curo’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol yr wythnos nesaf, a bydd Y Bala yn cael eu dwylo ar eu hail gwpan eleni ac yn hawlio eu lle yn rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa.

Ac os mae’r Seintiau fydd yn fuddugol yn Nantporth ddydd Sul nesaf, yna bydd y tîm sy’n 3ydd yn dathlu hefyd, ac felly bydd Met Caerdydd yn awyddus i guro a gwanhau eu gwrthwynebwyr y penwythnos yma.

Mae’r record benben wedi bod yn ddigon hafal rhwng y ddau dîm yn ddiweddar, ond y tîm sy’n chwarae gartref sy’n tueddu i fynd a hi, ac yn y naw gêm flaenorol rhwng y clybiau dim ond dwy gôl sydd wedi ei sgorio gan y tîm oddi cartref.

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ✅❌❌❌➖
Y Bala: ❌❌❌➖➖

Pen-y-bont (3ydd) v Y Drenewydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 12:45

Mae saga pwyntiau Pen-y-bont yn parhau, ac er i’r gynghrair ddatgan yr wythnos hon eu bod wedi tynnu chwe phwynt oddi ar y clwb am dorri rheolau eilyddio, mae Pen-y-bont wedi cyhoeddi eu bod am fynd a’r apêl ymhellach.

Ond am y tro mae Pen-y-bont wedi colli’r chwe phwynt sy’n eu gadael yn hafal ar bwyntiau gyda Met Caerdydd yn y frwydr i orffen yn 3ydd.

Y Seintiau Newydd yw’r unig dîm i guro Pen-y-bont ym mhob cystadleuaeth ers troad y flwyddyn (ennill 9, cyfartal 5, colli 2), ac mae tîm Rhys Griffiths yn benderfynol o gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae’r Drenewydd fwy neu lai yn sicr o orffen yn y 6ed safle, ac ar ôl colli pedair o’u pum gêm ddiwethaf bydd angen codi gêr os ydi’r Robiniaid yn bwriadu bod yn gystadleuol yn y gemau ail gyfle.

Mae Pen-y-bont eisoes wedi curo’r Drenewydd deirgwaith y tymor hwn, a byddai un fuddugoliaeth arall yn golygu bod y clwb yn gorffen yn eu safle uchaf erioed.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ➖❌✅➖✅

Y Drenewydd: ❌✅❌❌❌

Y Seintiau Newydd (1af) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 12:45

Gall Y Seintiau Newydd a Chei Connah fynd mewn i’r penwythnos olaf yn teimlo’n hollol hamddenol ar ôl selio eu lle yn Ewrop.

Ond dyw hynny ddim yn natur y ddau dîm yma, a bydd Cei Connah yn benderfynol o orffen y tymor fel yr unig dîm i beidio colli gêm ers yr hollt.

Mae’r Seintiau Newydd wedi torri’r record am y nifer fwyaf o goliau mewn tymor yn y fformat presennol (108 gôl) a bydd y prif sgoriwr Declan McManus (27 gôl) yn awyddus i ychwanegu at y cyfanswm.

Chris Venables (28) sy’n dal y record am y nifer fwyaf o goliau mewn tymor ers newid i’r fformat 12-tîm, a bydd yr Albanwr McManus yn ysu i dorri’r record hwnnw.

Ryan Brobbel sy’n arwain y ras ar frig rhestr y creuwyr eleni (18) ond dyw ei gyd-chwaraewr Daniel Redmond ond un gôl ar ei hôl hi (17), felly efallai fydd hi’n frwydr rhyngddyn nhw o ran pwy fydd yn cymryd y ciciau gosod ddydd Sadwrn!

Ac yn yr ornest am y Faneg Aur does dim yn gwahanu Connor Roberts nac Andy Firth gyda golwyr Y Seintiau Newydd a Chei Connah wedi cadw 18 llechen lân yr un eleni.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ͏✅✅✅✅➖
Cei Connah: ➖✅✅✅➖

CHWECH ISAF

Aberystwyth (11eg) v Caernarfon (8fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C)

Am y tro cyntaf yng nghyfnod y fformat 12-tîm rydyn ni’n mynd i gêm ola’r tymor heb wybod pwy fydd yn disgyn o’r gynghrair drwy orffen yn yr 11eg safle.

Aberystwyth yw’r clwb anlwcus sy’n dechrau’r prynhawn yn y safle anffodus hwnnw, ond gwahaniaeth goliau’n unig sydd rhwng y Gwyrdd a’r Duon a’r Fflint yn niogelwch y 10fed safle, felly mae’r cyfan yn y fantol ar y penwythnos olaf.

Mae gwahaniaeth goliau’r Fflint +22 yn well nac Aberystwyth, felly bydd yn rhaid i dîm Anthony Williams sicrhau canlyniad gwell na’r Sidanwyr os am osgoi’r cwymp ddydd Sadwrn.

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac yn ei dymor cyntaf fel rheolwr bydd Anthony Williams yn benderfynol o beidio arwain Aber i’r ail haen.

Roedd yna ryddhad enfawr i Gaernarfon nos Fercher wrth i Joe Faux rwydo gôl hwyr i gipio buddugoliaeth ar Gae-y-Castell (Ffl 2-3 Cfon) gan sicrhau lle’r Cofis yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.

Mae Aberystwyth ar rediad o bum gêm heb golli, ac wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, ac felly bydd selogion Coedlan y Parc yn ysu am un fuddugoliaeth arall er mwyn aros ymhlith yr elît yn yr uwch gynghrair.

Record cynghrair diweddar:

Aberystwyth: ➖➖➖✅✅

Caernarfon: ✅❌✅➖❌

Airbus UK (12fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:45

Wedi’r ansicrwydd oddi ar y cae ynglŷn â sefyllfa trwydded Hwlffordd roedd yr Adar Gleision yn falch o gyhoeddi yr wythnos yma eu bod wedi ticio’r bocsys angenrheidiol i gael cystadlu yn yr uwch gynghrair y tymor nesaf.

Ar ôl ennill dim ond dau bwynt allan o 93 posib, a cholli chwe phwynt am dorri rheolau’r gynghrair bydd Airbus yn falch o weld y tymor yn dod i ben.

Mae Airbus UK wedi torri’r record fel y tîm gwaethaf yn holl hanes y gynghrair, a does yna r’un clwb arall erioed wedi mynd trwy’r tymor heb ennill un gêm, ond bydd y staff cyfan yn awyddus i roi un perfformiad dewr olaf yn y gobaith o orffen ar nodyn cadarnhaol.

Mae Hwlffordd wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Airbus, ac yn paratoi i gystadlu’n y gemau ail gyfle am y tro cyntaf yn eu hanes.

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌➖❌❌❌

Hwlffordd: ➖✅✅➖✅

Pontypridd (9fed) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 12:45

Derbyniodd Y Fflint ergyd drom i’w gobeithion o gael goroesi’r cwymp drwy golli’n hwyr yn erbyn Caernarfon nos Fercher, ac hynny’n golygu eu bod yn hafal ar bwyntiau gydag Aberystwyth (11eg) cyn eu gêm olaf yn y tymor.

Cododd Y Fflint i’r uwch gynghrair yn 2020, ac er gorffen eu tymor cyntaf yn yr 11eg safle ni syrthiodd y Sidanwyr gan nad oedd neb yn codi o’r ail haen oherwydd gohiriadau Covid.

Y tymor diwethaf fe orffennodd Y Fflint yn y Chwech Uchaf o dan arweiniad Neil Gibson a chyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle cyn colli yn erbyn Caernarfon.

Dros yr haf, fe adawodd y tîm rheoli a’r garfan gyfan, a bu rhaid i’r rheolwr newydd Lee Fowler adeiladu tîm o’r newydd cyn eu gêm gyntaf oddi cartref ym Mhontypridd ar 13 Awst, 2022.

Enillodd Y Fflint y gêm honno (0-1) a bydd y Sidanwyr yn dyheu am driphwynt arall i gloi’r tymor ddydd Sadwrn, gan y byddai buddugoliaeth yn cadarnhau eu lle yn y gynghrair.

Yn fathemategol, dyw Pontypridd ddim yn gwbl ddiogel o’r cwymp cyn y gêm olaf, ond gan bod eu gwahaniaeth goliau gymaint gwell nac Aberystwyth, byddai’n cymryd gwyrth i’r Gwyrdd a’r Duon gau’r bwlch o 19 gôl sydd rhyngddyn nhw a Phontypridd.

Mae’r Fflint yn sicr wedi cael y gorau o bethau yn erbyn Pontypridd y tymor yma, gan ennill dwy a chael un gêm gyfartal yn eu tair gornest blaenorol.

Record cynghrair diweddar:

Pontypridd: ͏✅❌➖✅➖
Y Fflint: ❌✅❌❌➖

Mae’n gaddo i fod yn brynhawn cyffrous a gyda’r gemau i gyd yn dechrau ar yr un pryd, bydd y ddrama gyfan i’w gweld yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn am 12:30.

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:30.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?