S4C

Navigation

Dwy rownd o gemau sydd ar ôl yn nhymor y Cymru Premier JD, a gan fod Y Seintiau Newydd eisoes wedi selio’r bencampwriaeth, mae’r sylw wedi troi at y ras am Ewrop a’r frwydr i osgoi’r cwymp.

Mae pedwar tocyn ar gael i Ewrop eleni, a gyda’r Seintiau Newydd wedi cipio’r cyntaf drwy ennill y bencampwriaeth bydd y tri arall yn mynd i’r clwb sy’n gorffen yn 2il, enillwyr y gemau ail gyfle, ac enillwyr Cwpan Cymru.

Os bydd Y Seintiau Newydd yn curo’r Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru, yna bydd y tîm fydd wedi gorffen yn 3ydd yn sicrhau’r safle olaf yn Ewrop.

 

 

CHWECH UCHAF

Y Bala (5ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45

Mae’r Bala wedi mynd ar rediad o 10 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth am y tro cyntaf ers Medi 2010, ac mae’n ymddangos y bydd criw Colin Caton yn gorffen y tymor o dan y tri uchaf am y tro cyntaf ers pedair blynedd.

Dyw’r Bala erioed wedi mynd 11 gêm gynghrair heb ennill ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair, a bydd Hogiau’r Llyn yn benderfynol o osgoi hynny nos Wener.

Y Seintiau Newydd yw’r pencampwyr, 17 pwynt yn glir o’r gweddill ac wedi torri’r record am y nifer fwyaf o goliau mewn tymor yn y fformat presennol (106 gôl).

Dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 13 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 9, cyfartal 4) ac mae dros pedair blynedd wedi pasio ers y tro diwethaf i’r Bala drechu cewri Croesoswallt.

Bydd y clybiau’n cyfarfod yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD ar 30 Ebrill, a bydd y ddau dîm yn awyddus i gwblhau’r dwbl ar y diwrnod hwnnw gyda’r Seintiau eisoes wedi ennill y gynghrair, a’r Bala wedi cipio Cwpan Nathaniel MG.

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌❌➖➖❌

Y Seintiau Newydd: ͏✅✅✅➖✅

Cei Connah (2il) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Cei Connah yw’r unig glwb o’r gynghrair sydd heb golli yn ail ran y tymor, a byddai gêm gyfartal yn erbyn Pen-y-bont brynhawn Sadwrn yn ddigon i sicrhau’r ail safle i’r Nomadiaid, a selio eu lle yn Ewrop.

Mae Cei Connah ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn Pen-y-bont (ennill 3, cyfartal 3) ac felly bydd Neil Gibson yn hyderus y gall ei garfan groesi’r linell y penwythnos yma.

Roedd y clwb o Lannau Dyfrdwy wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop am chwe tymor yn olynol cyn derbyn cosb o 18 pwynt y tymor diwethaf am dorri rheolau’r gynghrair gan fethu a hawlio lle am y tro cyntaf ers 2016.

Mae Pen-y-bont yn benderfynol o gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, ac er yr holl ansicrwydd oddi ar y cae ynglŷn â cholli pwyntiau, mae tîm Rhys Griffiths wedi parhau i berfformio ar y cae, a nhw sy’n hawlio’r 3ydd safle gyda dwy gêm ar ôl i’w chwarae.

Collodd Pen-y-bont 2-0 ar eu hymweliad diwethaf i Gei Connah, ond ers hynny dyw bechgyn Bryntirion ond wedi colli un mewn 16 gêm oddi cartref ym mhob cystadleuaeth, ac honno yn Hwlffordd ‘nôl ym mis Rhagfyr.

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ✅✅✅➖➖
Pen-y-bont: ❌✅➖✅➖

Y Drenewydd (6ed) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Am ond yr eildro yn 2023 roedd y Drenewydd yn dathlu’r penwythnos diwethaf ar ôl sicrhau eu hail buddugoliaeth ers troad y flwyddyn, a’r ddwy yn erbyn Y Bala.

Doedd Y Drenewydd heb ennill oddi cartref ers mis Rhagfyr cyn curo’r Bala ddydd Gwener, a honno oedd eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair ar Faes Tegid ers Ebrill 2015.

Mae’r 3ydd safle allan o afael Y Drenewydd, ac felly mi fydd y Robiniaid yn ddibynnol ar y gemau ail gyfle os am gyrraedd Ewrop am y trydydd tymor yn olynol.

Mae Met Caerdydd ar rediad o saith gêm heb fuddugoliaeth, ond mi fydd y myfyrwyr yn llygadu lle’n Ewrop am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Ers curo’r Seintiau Newydd ym mis Chwefror dyw Met Caerdydd ond wedi ennill dau bwynt allan o 21 posib diolch i ddwy gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Drenewydd a’r Bala.

Ond mae’r myfyrwyr ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn Y Drenewydd (ennill 4, cyfartal 4), yn cynnwys tair buddugoliaeth y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅❌❌❌➖

Met Caerdydd: ❌❌❌➖➖

CHWECH ISAF

Airbus UK (12fed) v Y Fflint (11eg) | Nos Wener – 19:45

Daeth Airbus yn agos i ennill gêm gynghrair am y tro cyntaf y tymor hwn cyn ildio cic o’r smotyn wedi 86 munud yn erbyn Aberystwyth y penwythnos diwethaf.

Er hynny, honno oedd dim ond yr eildro i Airbus osgoi colli mewn 30 gêm gynghrair y tymor hwn, felly roedd o’n bwynt i’w drysori i fechgyn Brychdyn.

Gwelwyd golygfeydd brawychus yn Y Fflint brynhawn Sadwrn diwethaf gyda’u gêm yn erbyn Caernarfon yn gorfod cael ei gohirio wedi 15 munud oherwydd ymladd afreolus yn y dorf.

Roedd Y Fflint wedi mynd 2-0 ar y blaen yn erbyn Caernarfon wedi llai na 10 munud ar y cloc, ond yn dilyn anafiadau difrifol i rai unigolion ymysg y dorf bu’n rhaid i’r gêm ddod i stop, ac felly mae’r Fflint yn parhau i fod yn yr 11eg safle ac mewn perygl o lithro i’r ail haen.

Mae’r Fflint wedi curo Airbus deirgwaith y tymor hwn, a byddai dim llai na thriphwynt yn gwneud y tro i garfan Lee Fowler nos Wener.

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ➖❌❌❌❌

Y Fflint: ❌❌➖✅➖

Caernarfon (8fed) v Pontypridd (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu Caernarfon a Phontypridd yn y Chwech Isaf, a byddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn gam anferthol at sicrhau eu lle’n y gynghrair y tymor nesaf, ond byddai colled yn eu gadael mewn trwbwl tua’r gwaelodion.

Mae Caernarfon wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ac mae’r rheolwr newydd Richard Davies yn benderfynol o gadw’r Cofis yn yr uwch gynghrair.

Daeth rhediad rhagorol Pontypridd i ben yn Hwlffordd ddydd Gwener diwethaf gyda tîm Andrew Stokes yn colli am y tro cyntaf ers yr hollt.

Hon fydd y bedwaredd gêm rhwng y clybiau’r tymor yma ac ar ôl i Gaernarfon guro Ponty o 2-0 ar yr Oval ym mis Awst, y newydd-ddyfodiaid gafodd y gorau o bethau wedi hynny gan ennill eu dwy gêm gartref yn erbyn y Caneris.

Bydd Caernarfon yn awyddus i roi profiadau pryderus y penwythnos diwethaf y tu ôl iddyn nhw, ac mae Sgorio’n dymuno gwellhad buan i’r sawl a gafodd eu hanafu yn y dorf ar Gae-y-Castell.

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅➖❌❌➖

Pontypridd: ͏❌➖✅➖✅

Hwlffordd (7fed) v Aberystwyth (10fed) | Dydd Sadwrn – 17:15

Aberystwyth yw dim ond yr ail dîm i ollwng pwyntiau yn erbyn Airbus y tymor hwn a gall y gêm gyfartal hwnnw y penwythnos diwethaf brofi’n hynod gostus i’r clwb o Geredigion.

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ond gyda dim ond dwy gêm ar ôl i’w chwarae dyw’r Gwyrdd a’r Duon ond dau bwynt uwchben Y Fflint yn safleoedd y cwymp, ac mae gan y Sidanwyr gêm wrth gefn.

A’r newyddion drwg i Anthony Williams yw bod dwy gêm olaf Aberystwyth yn erbyn y ddau dîm uchaf yn y Chwech Isaf, sef Hwlffordd a Chaernarfon.

Mae Hwlffordd wedi bod yn gadarn yn eu gemau cartref ac heb golli ar Ddôl y Bont ers mis Hydref gan guro Pen-y-bont a Chei Connah ymhlith eraill ers hynny (ennill 6, cyfartal 2).

Mae’r Adar Gleision yn sicr o orffen yn uwch na’r ddau isaf, ond problemau oddi ar y cae sy’n eu poeni nhw gan nad yw’r clwb wedi derbyn y drwydded ddomestig i chwarae’n y gynghrair y tymor nesaf.

Ar hyn o bryd, does dim digon o seddi ar Ddôl y Bont i sicrhau’r drwydded, ond mae’r clwb wedi rhyddhau datganiad i ddweud y bydd y broblem yn cael ei datrys mewn da bryd.

Dyw Aberystwyth ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf, ond fe ddaeth y golled honno yn erbyn Hwlffordd ar Goedlan y Parc fis diwethaf.

Record cynghrair diweddar:

Hwlffordd: ✅✅➖✅✅

Aberystwyth: ➖➖✅✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?