Tair rownd o gemau sydd ar ôl yn nhymor y Cymru Premier JD, a gan fod Y Seintiau Newydd eisoes wedi selio’r bencampwriaeth, mae’r sylw wedi troi at y ras am yr ail safle a’r frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae pedwar tocyn ar gael i Ewrop eleni, a gyda’r Seintiau Newydd wedi cipio’r cyntaf drwy ennill y bencampwriaeth bydd y tri arall yn mynd i’r clwb sy’n gorffen yn 2il, enillwyr y gemau ail gyfle, ac enillwyr Cwpan Cymru.
Os bydd Y Seintiau Newydd yn curo’r Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru, yna bydd y tîm fydd wedi gorffen yn 3ydd yn derbyn y tocyn olaf i Ewrop.
CHWECH UCHAF
Y Bala (5ed) v Y Drenewydd (6ed) | Nos Wener – 14:30
Mae’r Bala wedi mynd ar rediad o naw gêm gynghrair heb fuddugoliaeth am y tro cyntaf ers Medi 2010, ac os na fydd y rhediad hwnnw yn dod i ben fe all criw Colin Caton orffen o dan y tri uchaf am y tro cyntaf ers pedair blynedd.
Tydi pethau ddim yn mynd yn dda i’r Drenewydd chwaith gyda’r Robiniaid wedi colli eu tair gêm ddiwethaf ac heb sgorio mewn pedair gêm.
Dyw’r Drenewydd ond wedi ennill un o’u 10 gem yn 2023, a daeth y fuddugoliaeth honno yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Y Bala ym mis Chwefror (Dre 3-2 Bala).
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌➖➖❌❌
Y Drenewydd: ❌❌❌➖✅
Met Caerdydd (4ydd) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Met Caerdydd ar rediad o chwe gêm heb fuddugoliaeth, ond mi fydd y myfyrwyr yn llygadu lle’n Ewrop am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Mae Cei Connah yn un o bedwar o glybiau sydd heb golli ers y toriad (gyda’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Phontypridd) ac mae’r Nomadiaid yn dechrau’r penwythnos driphwynt uwchben Pen-y-bont yn y ras am yr ail safle.
Dyw Met Caerdydd ond wedi ennill un o’u 21 gêm gynghrair flaenorol yn erbyn Cei Connah (cyfartal 7, colli 13), ond daeth y fuddugoliaeth honno ar benwythnos agoriadol y tymor hwn (Met 2-0 Cei).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌❌➖➖❌
Cei Connah: ✅✅➖➖✅
Pen-y-bont (3ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Er bod 13 wythnos wedi pasio ers i Ben-y-bont dorri rheolau eilyddio’r gynghrair, does dal dim cadarnhad eto os bydd y clwb yn derbyn chwe phwynt o gosb neu beidio.
Mae Pen-y-bont ar rediad o 12 gêm gynghrair heb golli (ennill 7, cyfartal 5), ac er yr ansicrwydd am eu safle’n y tabl, mae’r clwb yn ysu i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ar ôl taro pump yn erbyn Y Drenewydd y penwythnos diwethaf mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd 101 o goliau cynghrair gan ddod yn hafal â’u record blaenorol yn nhymor 2016/17.
Mae’r clybiau wedi cyfarfod 16 gwaith, ac er bod y gemau’n tueddu i fod yn rhai agos dyw’r Seintiau erioed wedi colli yn erbyn tîm Rhys Griffiths (ennill 12, cyfartal 4).
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅➖✅➖➖
Y Seintiau Newydd: ͏✅✅➖✅➖
CHWECH ISAF
Hwlffordd (7fed) v Pontypridd (9fed) | Nos Wener – 14:30
Hwlffordd sy’n arwain y ras am y 7fed safle, ac mae’r Adar Gleision yn anelu i gystadlu’n y gemau ail gyfle am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae Hwlffordd wedi bod yn gadarn yn eu gemau cartref ac heb golli ar Ddôl y Bont ers mis Hydref gan guro Pen-y-bont a Chei Connah ymhlith eraill ers hynny (ennill 5, cyfartal 2).
Does neb wedi ennill mwy o bwyntiau yn ail ran y tymor na Phontypridd (15pt allan o 21 posib), ond ar ôl ildio’n hwyr yn erbyn Aberystwyth ddydd Sadwrn diwethaf mae’r newydd-ddyfodiaid yn parhau i fod mewn perygl o lithro ‘nôl i Gynghrair y De.
Pontypridd sydd wedi cael y gorau o’r dair gornest flaenorol rhwng y ddau dîm y tymor yma gan ennill ddwywaith a chael un gêm gyfartal yn erbyn yr Adar Gleision.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅➖✅✅❌
Pontypridd: ͏➖✅➖✅✅
Aberystwyth (10fed) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Sgoriodd Aberystwyth gyda chic ola’r gêm yn erbyn Pontypridd ddydd Sadwrn diwethaf i gipio pwynt a dringo allan o’r ddau isaf, a’r golwr Matthew Turner oedd yr arwr annisgwyl yn sgorio’r gôl hollbwysig ar ôl dod i fyny o’r cefn ar gyfer cic gornel wedi 97 o funudau.
Dyw Aberystwyth felly ond wedi colli un o’u chwe gêm ddiwethaf ac mae’r clwb yn benderfynol o beidio syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ar ôl colli 28 o’u 29 gêm gynghrair, a cholli chwe phwynt am dorri rheolau, mae Airbus eisoes yn sicr o syrthio i’r ail haen.
Mae hi wedi bod yn dymor i’w anghofio i Airbus fydd yn mynd mewn i’r llyfrau hanes am dorri’r record fel y clwb gyda’r nifer lleiaf o bwyntiau yn holl hanes y gynghrair.
Mae Aberystwyth wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Airbus UK gan gynnwys eu buddugoliaeth o 1-7 ym Mrychdyn ym mis Chwefror.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ➖✅✅❌✅
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Y Fflint (11eg) v Caernarfon (8fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C arlein)
Mae’r Fflint mewn perygl mawr o ddisgyn o’r uwch gynghrair gyda’r clwb wedi llithro i’r ddau isaf ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf ac heb sgorio mewn tair gêm.
Cododd Y Fflint i’r uwch gynghrair yn 2020, ac er gorffen eu tymor cyntaf yn yr 11eg safle ni syrthiodd y Sidanwyr gan nad oedd neb yn codi o’r ail haen oherwydd gohiriadau Covid.
Y tymor diwethaf fe orffennodd Y Fflint yn y Chwech Uchaf o dan arweiniad Neil Gibson a chyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle cyn colli yn erbyn Caernarfon.
Ond eleni, mae’r Fflint a Chaernarfon yn cyfarfod mewn amgylchiadau bur wahanol gyda’r ddau glwb yn brwydro i aros yn y gynghrair.
Mae Caernarfon wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ond byddai buddugoliaeth ar Gae-y-Castell ddydd Sadwrn yn cadarnhau lle’r Cofis yn y gynghrair ar gyfer tymor nesaf.
Mae’r rheolwr newydd Richard Davies wedi cael dechrau addawol i’w gyfnod wrth y llyw gyda gêm gyfartal yn Hwlffordd cyn curo Airbus yn gyfforddus y penwythnos diwethaf (Cfon 4-0 Air).
Hon fydd y bedwaredd gêm rhwng y clybiau’r tymor yma ac mae wedi bod yn amhosib eu gwahanu hyd yn hyn gyda un buddugoliaeth yr un ac un gêm gyfartal.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌❌➖✅➖
Caernarfon: ✅➖❌❌➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.