Pedair rownd o gemau sydd ar ôl yn nhymor y Cymru Premier JD, a gan fod Y Seintiau Newydd eisoes wedi selio’r bencampwriaeth, mae’r sylw wedi troi at y ras am yr ail safle a’r frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae pedwar tocyn ar gael i Ewrop eleni, a gyda’r Seintiau Newydd wedi cipio’r cyntaf drwy ennill y bencampwriaeth bydd y tri arall yn mynd i’r clwb sy’n gorffen yn 2il, enillwyr y gemau ail gyfle, ac enillwyr Cwpan Cymru.
Os bydd Y Seintiau Newydd yn curo’r Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru, yna bydd y tîm fydd wedi gorffen yn 3ydd yn derbyn y tocyn olaf i Ewrop.
CHWECH UCHAF
Met Caerdydd (4ydd) v Pen-y-bont (3ydd) | Nos Wener – 19:45
Er bod 12 wythnos wedi pasio ers i Ben-y-bont dorri rheolau eilyddio’r gynghrair, does dal dim cadarnhad eto os bydd y clwb yn derbyn chwe phwynt o gosb neu beidio.
Mae Pen-y-bont ar rediad o 11 gêm gynghrair heb golli (ennill 6, cyfartal 5), ac er yr ansicrwydd am eu safle’n y tabl, mae’r clwb yn benderfynol o gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae Met Caerdydd ar rediad o bum gêm heb fuddugoliaeth, ond mi fydd y myfyrwyr yn llygadu lle’n Ewrop am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Hon fydd y bedwaredd gêm rhwng y clybiau’r tymor yma, ac hyd yma mae’r record benben wedi bod yn gyfartal gyda Met Caerdydd yn ennill unwaith, Pen-y-bont yn ennill unwaith a’r gêm arall yn gorffen yn ddi-sgôr.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌➖➖❌❌
Pen-y-bont: ➖✅➖➖✅
Y Bala (5ed) v Cei Connah (2il) | Nos Wener – 19:45
Mae Cei Connah yn un o bedwar o glybiau sydd heb golli ers y toriad (gyda’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Phontypridd) a gall y Nomadiaid gymryd cam mawr at selio’r ail safle nos Wener.
Mae tîm Neil Gibson driphwynt uwchben Pen-y-bont (3ydd), ond gan fod criw Rhys Griffiths yn wynebu chwe phwynt o gosb, mae’n bosib y gall Cei Connah sicrhau’r 2il safle gyda buddugoliaeth yn erbyn Y Bala (pe bae’r gêm rhwng Met Caerdydd a Pen-y-bont yn gorffen yn gyfartal).
Mae’r Bala wedi mynd ar rediad o wyth gêm gynghrair heb fuddugoliaeth am y tro cyntaf ers Medi 2010, ac mae angen dod â’r rhediad hwnnw i ben os am orffen yn y tri uchaf am y pedwerydd tymor yn olynol.
Yn rhyfeddol, hon fydd y chweched ornest rhwng y ddau dîm y tymor yma, gyda’r clybiau wedi cwrdd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ac yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD eleni.
Y Bala oedd yn fuddugol yn y ddwy gêm gwpan, ond Cei Connah sydd wedi cael y gorau o bethau’n y gynghrair gan ennill unwaith a chael dwy gêm gyfartal.
Ond 4-4 ydi cyfanswm y goliau dros y bum gêm hyd yma, felly mae’n anodd darogan pwy fydd yn mynd a hi nos Wener.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖➖❌❌➖
Cei Connah: ✅➖➖✅➖
Y Drenewydd (6ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Os oeddech chi’n meddwl y byddai’r Seintiau’n tynnu eu troed oddi ar y sbardun ar ôl sicrhau’r bencampwriaeth, yna roeddech chi’n anghywir gan i’r pencampwyr sgorio saith gôl yn erbyn Met Caerdydd y penwythnos diwethaf i ddod â’u cyfanswm goliau i 96 mewn 28 gêm gynghrair (3.4 gôl y gêm).
Y targed i dîm Craig Harrison ydi cyrraedd y cant, a gobeithio torri record eu hunain o 101 o goliau yn nhymor 2016/17.
Er hynny, di-sgôr oedd hi rhwng y ddau dîm yma ar Barc Latham ar y penwythnos agoriadol, ond mae’r Seintiau wedi ennill tair gêm gartref yn erbyn y Robiniaid ers hynny gan sgorio 12 gôl.
Dyw’r Drenewydd ond wedi sgorio un gôl yn eu chwe gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd, a gyda’r safleoedd awtomatig i Ewrop allan o’u gafael, bydd y Robiniaid yn dechrau paratoi am y gemau ail gyfle.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌❌➖✅❌
Y Seintiau Newydd: ͏✅➖✅➖✅
CHWECH ISAF
Caernarfon (9fed) v Airbus UK (12fed) | Nos Wener – 19:45
Roedd hi’n ddechrau addawol i Richard Davies wrth y llyw i Gaernarfon gyda’r Cofis yn cipio pwynt gwerthfawr oddi cartref yn Hwlffordd y penwythnos diwethaf.
Er hynny, dyw Caernarfon ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp ac felly mae hon yn gêm sy’n rhaid ei hennill os am ddal eu tir yn yr uwch gynghrair.
Ar ôl colli 27 o’u 28 gêm gynghrair, a cholli pwyntiau am dorri rheolau eilyddio, mae Airbus eisoes yn sicr o syrthio i’r ail haen.
Byddai dim llai na thriphwynt i Airbus nos Wener yn cadarnhau eu statws fel y clwb gwaethaf yn holl hanes yr uwch gynghrair.
Naw pwynt ydi’r cyfanswm isaf erioed gan dîm yn Uwch Gynghrair Cymru, ac hynny gan Bae Cemaes yn 1997/98 (38 gêm) a Derwyddon Cefn ddwywaith – yn 2009/10 (34 gêm), ac eto yn 2022/23 (32 gêm).
Mae’r Caneris wedi ennill eu chwe gêm flaenorol yn erbyn Airbus, yn cynnwys tair buddugoliaeth yn y gynghrair y tymor yma.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ➖❌❌➖✅
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Y Fflint (10fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Fflint mewn perygl mawr o ddisgyn o’r uwch gynghrair gyda’r clwb yn hafal ar bwyntiau gydag Aberystwyth yn safleoedd y cwymp.
Ond mae gan y Sidanwyr record dda ar Gae-y-Castell gyda tîm Lee Fowler ond wedi colli un o’u naw gêm gartref ddiwethaf (ennill 4, cyfartal 4).
Hwlffordd sy’n arwain y ras am y 7fed safle, ac mae’r Adar Gleision yn anelu i gystadlu’n y gemau ail gyfle am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae’r timau wedi cyfarfod deirgwaith y tymor yma ac Hwlffordd yn sicr sydd wedi gorchfygu gan ennill saith pwynt allan o naw posib yn erbyn Y Fflint hyd yn hyn.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌➖✅➖❌
Hwlffordd: ➖✅✅❌✅
Pontypridd (8fed) v Aberystwyth (11eg) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Ar ddiwedd rhan gynta’r tymor wedi 22 gêm roedd Pontypridd yn yr 11eg safle, dau bwynt y tu ôl i Aberystwyth.
Bellach, mae’r sefyllfa wedi ei throi ar ei phen, ac Aberystwyth sydd yn y gwaelodion, ddau bwynt y tu ôl i Bontypridd.
Does neb wedi ennill mwy o bwyntiau yn ail ran y tymor na Phontypridd (14pt allan o 18 posib), ond mae’r newydd-ddyfodiaid yn parhau i fod mewn perygl o lithro ‘nôl i Gynghrair y De.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Anthony Williams yn awyddus i beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r tîm o Geredigion i’r ail haen.
Ac mae record diweddar Aber yn profi eu bod yn barod i frwydro am eu lle yn y gynghrair wedi i’r clwb ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf.
Mae Ponty wedi ennill eu pum gêm gartref ddiwethaf, ond mae record benben y timau yn gyfartal gyda’r clybiau wedi cyfarfod deirgwaith y tymor yma ac Abersytwyth yn ennill unwaith, Pontypridd yn ennill unwaith, a’r gêm flaenorol rhwng y ddau dîm yn gorffen yn gyfartal 3-3 wedi diweddglo dramatig ar Goedlan y Parc.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ✅➖✅✅➖
Aberystwyth: ✅✅❌✅➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.