Pum rownd o gemau sydd ar ôl yn nhymor y Cymru Premier JD, a gyda’r Seintiau Newydd eisoes wedi selio’r bencampwriaeth y penwythnos diwethaf, mae’r sylw nawr yn troi at y ras am yr ail safle a’r frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae pedwar tocyn ar gael i Ewrop eleni, a gyda’r Seintiau Newydd wedi cipio’r cyntaf drwy ennill y bencampwriaeth bydd y tri arall yn mynd i’r clwb sy’n gorffen yn 2il, enillwyr y gemau ail gyfle, ac enillwyr Cwpan Cymru.
Os bydd Y Seintiau Newydd yn curo’r Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru, yna bydd y tîm fydd wedi gorffen yn 3ydd yn derbyn y tocyn olaf i Ewrop.
CHWECH UCHAF
Cei Connah v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45 (S4C arlein)
Cei Connah sydd yn arwain y ras i gipio’r ail docyn i Ewrop, ac yr amddiffyn sydd i’w ganmol am eu safle’n y tabl gan i’r Nomadiaid ildio dim ond chwe gôl yn eu naw gêm gynghrair ddiwethaf.
Er hynny, dim ond un o’r gemau rheiny mae’r Nomadiaid wedi ei hennill, gan eu bod ond wedi llwyddo i sgorio chwe gôl yn ystod eu rhediad diweddar (Chwarae 9 – ennill 1, cyfartal 7, colli 1).
Does neb wedi cael mwy o gemau cyfartal na Chei Connah y tymor hwn (9), ac mae 15% o’u gemau cynghrair y tymor yma wedi gorffen yn ddi-sgôr.
Er y diffyg buddugoliaethau bydd Neil Gibson yn falch nad yw ei dîm wedi colli dim un o’u 20 gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair, ers Ionawr 2022 (Cei 2-3 Barri).
Ar ôl colli 0-1 gartref yn erbyn Pen-y-bont y penwythnos diwethaf bydd rhaid i’r Drenewydd ddibynnu ar y gemau ail gyfle i geisio cyrraedd Ewrop eleni.
Mae’r Robiniaid wedi cynrychioli Cymru’n Ewrop am ddwy flynedd yn olynol, ond ar ôl ennill dim ond un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 3, colli 3) mae’r safleoedd awtomatig wedi llithro o’u gafael.
Hon fydd y bedwaredd gêm rhwng y timau’r tymor yma, ac er i’r ddwy gêm ddiwethaf orffen yn gyfartal, Cei Connah fydd y ffefrynnau ar ôl colli dim ond un o’u 15 gornest flaenorol yn erbyn Y Drenewydd (ennill 10, cyfartal 4).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖➖✅➖➖
Y Drenewydd: ❌➖✅❌➖
Pen-y-bont v Y Bala | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl chwarae eilyddion anghymwys mewn dwy gêm gynghrair mae Pen-y-bont yn debygol o dderbyn chwe phwynt o gosb.
Er hynny, byddai tîm Rhys Griffiths ond dau bwynt y tu ôl i’r 3ydd safle, ac fel sydd wedi digwydd yn yr wyth tymor diwethaf, fe allai gorffen yn 3ydd fod yn ddigon i sicrhau lle’n Ewrop.
Mae Pen-y-bont ar rediad o 10 gêm gynghrair heb golli (ennill 6, cyfartal 4), ac yn benderfynol o gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Arwahan i Airbus, does neb wedi ennill cyn lleied o bwyntiau a’r Bala ers yr hollt (3pt allan o 15 posib), ac ar ôl methu ag ennill mewn saith gêm gynghrair mae tîm Colin Caton ar eu rhediad hiraf heb fuddugoliaeth ers Medi 2012.
Mae’r ddwy gêm flaenorol rhwng y timau wedi gorffen yn gyfartal, ond Pen-y-bont oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r clybiau gyfarfod yn Stadiwm Gwydr SDM gyda Rhys Kavanagh yn sgorio ddwywaith ar y penwythnos agoriadol (Pen 2-0 Bala).
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅➖➖✅➖
Y Bala: ➖❌❌➖➖
Y Seintiau Newydd v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu 15fed pencampwriaeth ar ôl gêm ddi-sgôr yn erbyn Cei Connah y penwythnos diwethaf.
Hon yw 10fed pencampwriaeth y clwb mewn 12 tymor, ac ar ôl colli’r tlws i Gei Connah yn 2020 a 2021, mae’r Seintiau wedi adennill eu lle ar y copa am yr ail flwyddyn yn olynol, a gwneud hynny mewn steil.
Gorffennodd Y Seintiau Newydd 21 pwynt uwchben Y Bala ar ddiwedd y tymor diwethaf, a gyda 17 pwynt yn eu gwahanu nhw a Chei Connah (2il) ar hyn o bryd, mi fydd cewri Croesoswallt yn siwr o orffen ym mhell o flaen y gweddill unwaith yn rhagor.
Y targed i dîm Craig Harrison bellach fydd ceisio sgorio 11 gôl arall er mwyn cyrraedd 100 o goliau cynghrair am y tro cyntaf ers tymor 2016/17.
Mae Met Caerdydd ar rediad o bedair gêm heb fuddugoliaeth, ond nhw yw’r unig dîm i guro’r Seintiau Newydd yn y gynghrair y tymor hwn wedi i’r myfyrwyr frwydro ‘nôl o fod 0-2 ar ei hôl hi i ennill 3-2 ar Gampws Cyncoed ym mis Chwefror.
Ond mae’r Seintiau wedi sgorio 19 gôl yn eu pum gêm flaenorol yn erbyn y myfyrwyr (3.8 gôl y gêm), gan gynnwys eu dwy buddugoliaeth swmpus yn rhan gyntaf y tymor hwn (Met 0-7 YSN, YSN 4-0 Met).
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ͏➖✅➖✅❌
Met Caerdydd: ➖➖❌❌✅
CHWECH ISAF
Aberystwyth (11eg) v Y Fflint (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Cafodd Aberystwyth ganlyniad gwych yn erbyn Caernarfon nos Wener diwethaf gan gadw llechen lân am y tro cyntaf y tymor yma wrth ennill 0-1 ar yr Oval a chadw eu gobeithion o aros yn y gynghrair yn fyw.
Mae’r triphwynt i’r Gwyrdd a’r Duon wedi golygu mae dim ond triphwynt bellach sy’n gwahanu Aberystwyth (11eg) a Chaernarfon (8fed), felly mae pedwar clwb mewn perygl gwirioneddol o fod y tîm i ymuno gyda Airbus yn safleoedd y cwymp ar ddiwedd y tymor.
Y Fflint yw un o’r cybiau rheiny, gyda’r Sidanwyr hefyd dim ond triphwynt yn glir o’r ddau isaf gyda pum gêm ar ôl yn y tymor.
Mae gan Y Fflint record erchyll oddi cartref eleni, a dyw tîm Lee Fowler heb ennill gêm gynghrair oddi cartref ers mis Awst gan gipio dim ond dau bwynt o’r 27 posib yn eu naw gêm ers hynny.
Ond Y Fflint oedd yn fuddugol yn y frwydr ddiwethaf rhwng y timau gan ennill 5-0 yn gyfforddus ar Gae-y-Castell, a dyw’r Sidanwyr ond wedi colli unwaith yn eu wyth gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth (ennill 5, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ✅❌✅➖❌
Y Fflint: ➖✅➖❌✅
Airbus UK (12fed) v Pontypridd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Does neb wedi ennill mwy o bwyntiau yn ail ran y tymor na Phontypridd (11pt), ond mae’r newydd-ddyfodiaid yn parhau i fod ond dau bwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Ac er bod hi’n gyfnod nerfus i Bontypridd, mae nhw’n sicr wedi creu mwy o argraff na’r clwb arall esgynodd i’r uwch gynghrair yr haf diwethaf, sef Airbus UK.
Ar ôl colli 26 o’u 27 gêm gynghrair y tymor hwn, a cholli pwyntiau am dorri rheolau eilyddio, mae Airbus eisoes yn sicr o syrthio i’r ail haen.
Pontypridd yw’r unig glwb o’r Chwech Isaf sydd heb ildio yn erbyn Airbus y tymor hwn (Pont 1-0 Air, Air 0-4 Pont, Pont 4-0 Air).
Ben Ahmun sydd wedi sgorio chwech o’r naw gôl i Bontypridd yn erbyn Airbus y tymor yma, gan iddo daro hatric yn ei ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn bechgyn Brychdyn.
Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Pontypridd: ➖✅✅➖✅
Hwlffordd (7fed) v Caernarfon (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Huw Griffiths wedi colli ei swydd fel rheolwr Caernarfon yn dilyn eu colled gartref yn erbyn Aberystwyth y penwythnos diwethaf.
Cafodd Griffiths ei apwyntio yn reolwr ar y Cofis yn Ionawr 2020 gan arwain y clwb i ennill y gemau ail gyfle yn 2022, ond am y tro cyntaf ers 1995 dim ond tri safle’n Ewrop oedd gan Gymru y tymor hwnnw ar ôl llithro i lawr yn rhestr y detholion, ac felly ni chafodd Caernarfon chwarae’n Ewrop, na chael derbyn y rhodd ariannol sy’n dod law yn llaw â hynny.
Eleni, mae’r Canerîs wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ac ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf mae’r clwb wedi colli gafael ar y 7fed safle hollbwysig, ac oherwydd hynny mae Huw Griffiths wedi colli ei swydd.
Yr is-reolwr Richard Davies fydd yn cymeryd yr awennau tan ddiwedd y tymor, a’i dasg gyntaf fydd ceisio ysbrydoli’r Cofis i gau’r bwlch o bedwar pwynt sydd rhyngddyn nhw a Hwlffordd yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Mae Hwlffordd wedi bod yn gadarn yn eu gemau cartref ac heb golli ar Ddôl y Bont ers mis Hydref gan guro Pen-y-bont a Chei Connah ymhlith eraill ers hynny (ennill 5, cyfartal 1).
Mae Caernarfon wedi colli pump o’u saith gêm ddiwethaf oddi cartref, gan ennill y ddwy gêm arall yn erbyn Airbus.
Ond mae gan y Cofis record dda yn erbyn yr Adar Gleision ar ôl ennill pedair o’r pum gêm flaenorol rhwng y clybiau gyda’r unig golled yn dod ar eu hymweliad diwethaf â Dôl-y-Bont ar benwythnos agoriadol y tymor (Hwl 1-0 Cfon).
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅✅❌✅❌
Caernarfon: ❌❌➖✅✅