Gall Y Seintiau Newydd sicrhau’r bencampwriaeth gyda gêm gyfartal yng Nghei Connah nos Wener.
CHWECH UCHAF
Cei Connah v Y Seintiau Newydd | Nos Wener – 19:45 (S4C arlein)
Chwe gêm sydd i fynd yn nhymor y Cymru Premier JD, a gyda’r Seintiau Newydd 17 pwynt yn glir o Gei Connah yn yr ail safle, byddai gêm gyfartal yn ddigon i selio’r bencampwriaeth nos Wener.
Dyw’r Seintiau ond wedi colli un o’u 26 gêm gynghrair y tymor yma, ac fe fyddai’n fuddugoliaeth felys i griw Croesoswallt pe bae nhw’n gallu cipio’r bencampwriaeth yng nghartref eu gelynion pennaf, Cei Connah.
Y Seintiau Newydd sydd wedi ennill naw o’r 11 pencampwriaeth diwethaf, gyda Cei Connah yn codi’r tlws ddwywaith yn olynol yn 2019/20 ac yn 2020/21.
Hon fyddai’r 15fed pencampwriaeth i’r Seintiau ei hennill, sef clwb mwyaf llwyddiannus holl hanes y gynghrair, ac mae’r capten Chris Marriott yn debygol o dorri’r record fel y chwaraewr mwyaf medalog yn hanes y gynghrair os caiff ei ddwylo ar y tlws am yr 11eg tro.
Yn y 10 gêm ddiwethaf rhwng y clybiau mae Cei Connah wedi ennill pedair, Y Seintiau Newydd wedi ennill pedair a dwy gêm wedi gorffen yn gyfartal, felly er bod 17 pwynt yn eu gwahanu’n y tabl mae eu record benben diweddar yn hafal.
Wedi dweud hynny, dyw Cei Connah ond wedi ennill un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 6, colli 1), tra bod y Seintiau wedi ennill wyth o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 1, colli 1).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖✅➖➖❌
Y Seintiau Newydd: ✅➖✅❌✅
Y Bala v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Triphwynt sy’n gwahanu’r Bala a Met Caerdydd yn y frwydr am Ewrop, a gyda’r Bala eisoes wedi sicrhau lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru mae tîm Colin Caton yn gwybod y byddai gorffen yn y 3ydd safle yn gwarantu eu tocyn i Ewrop.
Mae Met Caerdydd yn dechrau’r penwythnos bum pwynt y tu ôl i Gei Connah, felly dyw’r ail safle yn sicr ddim allan o’u gafael eto.
Am y tro cyntaf ers Tachwedd 2021 mae’r Bala wedi mynd ar rediad o chwe gêm gynghrair heb fuddugoliaeth, a bydd Hogiau Gwynedd yn benderfynol o beidio ymestyn y rhediad i saith gêm gynghrair, gan nad ydyn nhw wedi cael cyfnod mor sâl a hynny ers Medi 2012.
Roedd Met Caerdydd wedi mynd ar rediad o naw gêm heb golli rhwng mis Rhagfyr a Chwefror, ond ar ôl dod y tîm cyntaf i guro’r Seintiau Newydd y tymor yma, mae bechgyn y brifddinas wedi methu ennill mewn tair gêm ers hynny (colli 2, cyfartal 1).
Mae’r clybiau eisoes wedi cyfarfod deirgwaith y tymor yma gyda’r Bala’n ennill y ddwy gêm ar Faes Tegid o 2-0, a Met Caerdydd yn ennill 1-0 ar Gampws Cyncoed.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌❌➖➖❌
Met Caerdydd: ➖❌❌✅✅
Y Drenewydd v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl chwarae eilyddion anghymwys mewn dwy gêm gynghrair mae Pen-y-bont yn debygol o dderbyn chwe phwynt o gosb gan lithro o’r 3ydd i’r 5ed safle.
Mae Pen-y-bont ar rediad o naw gêm gynghrair heb golli (ennill 5, cyfartal 4), tra bod Y Drenewydd ond wedi ennill un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf (cyfartal 3, colli 2).
Pen-y-bont oedd y tîm i sgorio’r nifer fwyaf o goliau yn eu dwy gêm gynghrair yn erbyn Y Drenewydd yn rhan gynta’r tymor (Dre 2-3 Pen, Pen 3-0 Dre).
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ➖✅❌➖❌
Pen-y-bont:➖➖✅➖✅
CHWECH ISAF
Caernarfon (8fed) v Aberystwyth (11eg) | Nos Wener – 19:45
Bydd Caernarfon ac Aberystwyth yn awyddus am ymateb cadarnhaol yn dilyn canlyniadau siomedig y penwythnos diwethaf.
Collodd Caernarfon 1-0 oddi cartref ym Mhontypridd gan agor y drws i Hwlffordd gael dringo uwch eu pennau i’r 7fed safle wedi i’r Adar Gleision ennill 0-1 yn Aberystwyth.
Mae’r golled ddiweddaraf i Aberystwyth yn eu gadael bedwar pwynt o dan diogelwch y 10fed safle, a gyda dim ond chwe gêm ar ôl yn y tymor mae’r Gwyrdd a’r Duon mewn perygl gwirioneddol o syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Anthony Williams yn awyddus i beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r tîm o Geredigion i’r ail haen.
Uwchben Aber, does dim ond triphwynt yn gwahanu’r pedwar clwb yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle trwy orffen yn 7fed.
Mae Caernarfon ac Aberystwyth wedi cyfarfod ddwywaith yn rhan gynta’r tymor gyda’r ddau dîm yn ennill eu gemau cartref o 2-1.
Wedi 26 gêm gynghrair, dyw Aberystwyth yn dal heb gadw llechen lân y tymor yma, ond fe lwyddon nhw i guro Caernarfon ym mis Ionawr ac mae angen gwneud hynny eto i gadw eu gobeithion o aros i fyny yn fyw.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌➖✅✅❌
Aberystwyth: ❌✅➖❌✅
Hwlffordd (7fed) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Hwlffordd sy’n arwain y ras yn y Chwech Isaf gyda’r Adar Gleision yn anelu i gyrraedd y gemau ail gyfle am y tro cyntaf.
Mae Hwlffordd wedi bod yn gadarn yn eu gemau cartref ac heb golli ar Ddôl y Bont ers mis Hydref gan guro Pen-y-bont a Chei Connah ymhlith eraill ers hynny.
Mae Hwlffordd wedi ennill eu tair gêm flaenorol yn erbyn Airbus, yn cynnwys eu dwy buddugoliaeth yn rhan gyntaf y tymor hwn (Hwl 3-0 Air, Air 1-2 Hwl).
Ar ôl colli 25 o’u 26 gêm gynghrair y tymor hwn mae Airbus eisoes yn sicr o syrthio i’r ail haen.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅❌✅❌✅
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Y Fflint (9fed) v Pontypridd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Fflint a Pontypridd yng nghanol y Chwech Isaf a byddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn gallu eu rhoi mewn safle cryf i gystadlu am y 7fed safle.
Mae gan Y Fflint record dda ar Gae-y-Castell gyda’r Sidanwyr ond wedi colli un o’u wyth gêm gartref ddiwethaf.
Pontypridd ydi’r tîm gyda’r record orau’n y gynghrair gyfan ers yr hollt (ennill 3, cyfartal 1), ac mae ganddynt obaith gwirioneddol bellach o ddal eu tir yn y gynghrair yn eu tymor cyntaf erioed yn y brif haen.
Mae’r Fflint eisoes wedi curo Pontypridd ddwywaith y tymor hwn, ac yn y gêm ddiwethaf rhwng y clybiau fe sgoriodd Zack Clarke hatric yn ei ymddangosiad cyntaf i’r Sidanwyr (Ffl 4-1 Pont).
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅➖❌✅✅
Pontypridd: ✅✅➖✅❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00.