Mae’r gynghrair wedi ei hollti’n ddwy ac mae clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop, tra bod timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.
CHWECH UCHAF
Met Caerdydd (4ydd) v Y Drenewydd (6ed) | Nos Wener – 19:45 (S4C arlein)
Er colli eu dwy gêm ddiwethaf mae Met Caerdydd yn dal mewn safle cryf i gystadlu am le’n Ewrop eleni, ac mae hynny’n bennaf oherwydd eu record arbennig gartref yng Nghampws Cyncoed.
Dyw’r myfyrwyr ond wedi colli dwy o’u 24 gêm gartref ddiwethaf, ac mae’r tîm o’r brifddinas eisoes wedi curo’r Seintiau Newydd, Cei Connah, Y Bala a’r Drenewydd yng Nghyncoed y tymor yma.
Dyw’r Robiniaid erioed wedi ennill oddi cartref yng Nghampws Cyncoed, ac mae Met Caerdydd ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn Y Drenewydd (ennill 4, cyfartal 3), yn cynnwys tair buddugoliaeth y tymor hwn.
Ond fe gafodd Y Drenewydd ddathlu triphwynt allweddol yn eu gêm ddiwethaf gan drechu’r Bala o 3-2 i gadw eu gobeithion o gyrraedd y tri uchaf yn fyw.
Honno oedd buddugoliaeth gyntaf y Robiniaid yn 2023, a pe bae’r Drenewydd yn ennill eto nos Wener fe allai clwb Chris Hughes ddechrau breuddwydio am gyrraedd Ewrop.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌❌✅✅✅
Y Drenewydd: ✅❌➖❌➖
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (5ed) | Nos Wener – 20:00 (Wedi ei ohirio)
Ar ôl curo Cei Connah a Phen-y-bont y penwythnos diwethaf, mae’r Bala a’r Seintiau Newydd wedi sicrhau mae nhw fydd yn cystadlu yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD ar y 29ain o Ebrill.
Llwyddodd Y Bala i guro’r Seintiau yn rownd derfynol 2016/17, a bydd Hogiau Gwynedd yn gobeithio achosi sioc arall eleni i gwblhau’r dwbl, gan iddyn nhw eisoes godi Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr.
Ond dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 12 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 8, cyfartal 4), a dyw tîm Colin Caton erioed wedi ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc.
Mae’r Seintiau Newydd angen uchafswm o saith pwynt o’u saith gêm sy’n weddill i gipio’r bencampwriaeth am y 15fed tro yn eu hanes.
Dyw’r Seintiau heb golli gêm ddomestig yn Neuadd y Parc ers bron i flwyddyn (YSN 0-1 Dre), gan ennill 12 o’u 13 gêm gartref yn y gynghrair y tymor yma (1-1 vs Pen-y-bont).
Am y tro cyntaf ers Tachwedd 2021 mae’r Bala wedi mynd ar rediad o bum gêm gynghrair heb fuddugoliaeth, ond bydd curo Cei Connah o 3-2 yn y gwpan y penwythnos diwethaf wedi rhoi hwb i’w hyder.
Hon fydd 1,000fed gêm Y Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru, a pe bae canlyniadau’n mynd o’u plaid mae’n bosib y gall tîm Craig Harrison godi’r tlws y penwythnos nesaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ➖✅❌✅✅
Y Bala: ❌➖➖❌➖
Pen-y-bont (3ydd) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Torrodd y newyddion fis diwethaf bod Pen-y-bont yn debygol o golli chwe phwynt ar ôl chwarae chwaraewyr anghymwys yn y gynghrair.
Bydd hon yn ergyd fawr i obeithion Pen-y-bont o geisio gorffen yn yr 2il safle er mwyn sicrhau lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Cei Connah sydd yn 2il ar hyn o bryd, ond gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu saith gêm gynghrair ddiwethaf mae angen i’r Nomadiaid fod yn wyliadwrus a pheidio gorffwys ar eu rhwyfau cyn cadarnhau eu lle’n Ewrop.
Roedd Pen-y-bont wedi mynd ar rediad o 10 gêm heb golli cyn cael eu trechu gan Y Seintiau Newydd yn y gwpan, a bydd y ddau glwb eisiau ymateb positif yn dilyn eu siom y penwythnos diwethaf.
Bydd hi’n dalcen caled i Ben-y-bont sydd ond wedi sgorio unwaith yn eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah, ac sydd erioed wedi ennill gartref yn erbyn y Nomadiaid (cyfartal 3, colli 2).
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont:➖ ✅➖✅✅
Cei Connah: ✅➖➖❌➖
CHWECH ISAF
Aberystwyth (11eg) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Yn y Chwech Isaf, dim ond chwe phwynt sy’n gwahanu Aberystwyth yn safleoedd y cwymp, a Chaernarfon (7fed) sy’n anelu i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Anthony Williams yn awyddus i beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r tîm o Geredigion i’r ail haen.
Ond bydd yr hyder yn uchel ar Goedlan y Parc ar ôl i Aberystwyth chwalu Airbus bythefnos yn ôl (Air 1-7 Aber) gyda chanlyniad oedd yn hafal â’u buddugoliaeth fwyaf erioed yn y gynghrair.
Wedi dweud hynny, mae Aberystwyth yn dal i aros am eu llechen lân gyntaf yn y gynghrair y tymor yma, ac mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi ildio tair gôl neu fwy mewn 11 o’u 25 gêm (44%).
Mae Hwlffordd wedi dangos fflachiau o safon y tymor yma, ond mae eu record oddi cartref yn eu cosbi’n eithriadol gyda’r Adar Gleision bellach wedi colli eu chwe gêm ddiwethaf oddi cartref.
Mae’r timau wedi cyfarfod ddwywaith y tymor yma gyda’r ddau dîm yn ennill eu gemau cartref, ond mae bron blwyddyn union wedi pasio ers i Hwlffordd sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn y gynghrair, ac hynny oddi cartref yn erbyn Aberystwyth gyda Touray Sisay yn taro hatric i’r Adar Gleision (Aber 0-6 Hwl).
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ✅➖❌✅❌
Hwlffordd: ❌✅❌✅❌
Pontypridd (10fed) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Pontypridd a Chaernarfon ydi’r ddau dîm gyda’r record orau’n y gynghrair gyfan ers yr hollt (ennill 2, cyfartal 1), a dim ond pum pwynt sy’n eu gwahanu yn y Chwech Isaf.
Mae Caernarfon wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ond bydd y Cofis yn benderfynol o ddal gafael ar y 7fed safle er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle i gystadlu am docyn i Ewrop ar ddiwedd y tymor.
Mae Pontypridd wedi ennill eu pedair gêm gartref ddiwethaf, gan roi gobaith gwirioneddol i’r clwb ddal eu tir yn y gynghrair yn eu tymor cyntaf erioed yn y brif haen.
Ac mae Caernarfon wedi colli oddi cartref yn erbyn pob un o glybiau’r Chwech Isaf y tymor yma (oni bai am Airbus), yn cynnwys y golled o 3-1 ym Mhontypridd ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ✅➖✅❌❌
Caernarfon: ➖✅✅❌✅
Y Fflint (9fed) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar 22 Hydref 2022 fe gymrodd Jamie Reed yr awennau yn ei gêm gyntaf fel rheolwr Airbus UK gyda’r clwb yn eistedd ar waelod y gynghrair gyda -2 o bwyntiau ar ôl derbyn cosb o driphwynt am chwarae chwaraewr anghymwys.
Collodd Airbus y gêm agos honno o 1-0 oddi cartref yn erbyn Y Fflint, ac ers hynny, nid yn unig y mae Jamie Reed wedi methu a chipio dim un pwynt ychwanegol i’r clwb, ond yn hytrach mae bechgyn Brychdyn mewn perygl o dderbyn triphwynt arall o gosb am dorri’r rheolau eilyddio am yr eildro’r tymor yma.
Felly mae Airbus yn sicr o orffen y tymor ar waelod y gynghrair, a’r her i’r clwb erbyn hyn ydi ceisio sicrhau bod carfan safonol yn ei le yn barod i gystadlu yng nghynghrair y JD Cymru North tymor nesaf.
Mae gan Y Fflint record dda gartref gyda’r Sidanwyr ond wedi colli un o’u o’u saith gêm ddiwethaf ar Gae-y-Castell, ac honno yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Does neb wedi sgorio mwy o goliau yn eu tair gêm ers yr hollt na’r Fflint (11 gôl), gyda’r blaenwr ifanc, Zack Clarke, ar fenthyg o Gaer, yn sgorio pump o’r 11 goliau rheiny.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ➖❌✅✅❌
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.