Mae penwythnos cyffrous arall o’n blaenau ni wrth i’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf ddechrau cynhesu yn Uwch Gynghrair Cymru.
Nos Wener, 4 Rhagfyr
Aberystwyth v Cei Connah | Nos Wener – 19:45
Mae’r pencampwyr wedi dechrau’r tymor yn gryf gan ennill 10 o’u 13 gêm hyd yma, ac mae gan y Nomadiaid bum pwynt yn fwy nac oedd ganddyn nhw ar yr adeg yma’r tymor diwethaf.
Wedi dweud hynny mae Cei Connah chwe phwynt y tu ôl i’r Seintiau ar frig y tabl, ond gan nad ydi’r Seintiau’n chwarae’r penwythnos yma bydd Andy Morrison yn benderfynol o fanteisio ar y cyfle i gau’r bwlch.
Mae Aberystwyth wedi cael dechrau caled i’r tymor ac ar ôl ennill dim ond un o’u naw gêm ddiwethaf dyw’r Gwyrdd a’r Duon bellach ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Dyw Aberystwyth ond wedi ennill dwy gêm y tymor hwn, a rheiny yn erbyn y ddau glwb isa’n y tabl, ond gan mae hon fydd y gyntaf o bedair gêm gartre’n olynol i Aberystwyth mi fydd Gavin Allen yn gobeithio y gall ei dîm ddringo’r tabl cyn y Nadolig.
Dyw Cei Connah heb golli dim un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (ennill 5, cyfartal 1), ac ar ôl ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn olynol mi fydd hi’n sioc pe na fyddai’r Nomadiaid yn gadael Ceredigion gyda’r triphwynt.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌➖➖❌❌
Cei Connah: ❌✅✅✅✅
Dydd Sadwrn, 5 Rhagfyr
Pen-y-bont v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:15 (S4C)
Bydd Pen-y-bont a Caernarfon yn llygadu lle’n y Chwech Uchaf eleni a gyda dim ond triphwynt yn gwahanu’r ddau dîm mae hon yn mynd i fod yn gêm allweddol yn y ras i gyrraedd yr hanner uchaf cyn yr hollt.
Mae’r ddau glwb yn dod i’r gêm yn dilyn gemau cyfartal – Pen-y-bont yn siomedig o ildio’n hwyr yn erbyn y Derwyddon ddydd Sul, a Caernarfon yn codi pwynt gwerthfawr yn erbyn Y Bala nos Fawrth.
Mae Caernarfon ar eu rhediad hiraf heb fuddugoliaeth ers dwy flynedd (6 gêm), ond bydd y Cofis yn cymryd hyder o’r ffaith eu bod erioed wedi colli yn erbyn Pen-y-bont (ennill 1, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅❌✅❌➖
Caernarfon: ❌➖❌❌➖
Hwlffordd v Derwyddon Cefn | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Hwlffordd wedi saethu i fyny i’r 5ed safle ar ôl dwy fuddugoliaeth ragorol yn erbyn Caernarfon ac Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf.
Ond y Derwyddon sy’n parhau ar waelod y domen ar ôl ennill dim ond un o’u 11 gêm y tymor yma.
Dyw’r clybiau heb gwrdd ers Ebrill 2010 a bydd pawb yn croesi bysedd na fydd rhaid gohirio’r gêm rhwng y ddau dîm am y trydydd tro’r tymor hwn oherwydd canllawiau Covid-19.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌➖❌✅✅
Derwyddon Cefn: ✅❌❌➖❌
Met Caerdydd v Y Bala | Dydd Sadwrn – 14:30
Fel Hwlffordd, mae Met Caerdydd wedi cael wythnos adeiladol gan gasglu chwe phwynt o’u gemau yn erbyn Y Fflint a’r Drenewydd a codi o’r 10fed i’r 7fed safle.
Mae’r Bala ar rediad cryf o naw gêm heb golli (ennill 6, cyfartal 3) – eu cyfnod gorau ers pedair blynedd, pan aeth y clwb ar rediad o 11 o gemau heb golli.
Ar ôl esgyn i’r uwch gynghrair yn 2016 fe gollodd Met Caerdydd pob un o’u saith gêm gynghrair gyntaf yn erbyn Y Bala.
Ond ers 2019 mae’r myfyrwyr wedi ennill pob un o’u pum gêm yn erbyn Y Bala, yn cynnwys buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2018/19 i sicrhau lle Met Caerdydd yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ✅➖❌✅✅
Y Bala: ➖➖✅✅➖
Y Barri v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl cael dechrau da i’r tymor mae’r Barri bellach wedi colli gafael ar y tri uchaf yn dilyn rhediad o chwe gêm heb ennill gan sgorio dim ond tair gôl mewn chwe gêm.
Mae’r Fflint yn parhau i fod mewn perygl yn y ddau isaf ar ôl colli naw o’u 10 gêm ddiwethaf.
Y Barri enillodd y gêm gyfatebol gyda Kayne McLaggon yn rhwydo unig gôl y gêm o’r smotyn yng Nghae y Castell ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌➖❌➖❌
Y Fflint: ❌❌✅❌❌