S4C

Navigation

Mae’r gynghrair wedi ei hollti’n ddwy a bydd ail ran y tymor yn dechrau brynhawn Sadwrn gyda’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop, a’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp. 

 

Dydd Sadwrn, 11 Chwefror 

CHWECH UCHAF 

 Met Caerdydd (4ydd) Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C arlein) 

Mae’r byd pêl-droed yn gallu bod yn un creulon ar reolwyr, ond anaml y mae rheolwr yn gadael ei swydd ar ôl gorgyflawni. 

 

Ond oherwydd pwysau gwaith mae Ryan Jenkins wedi gorfod camu lawr fel rheolwr Met Caerdydd  a gan i’r clwb sicrhau lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2017/18 mae angen rheolwr â thrwydded ‘UEFA Pro’ os am gystadlu am le’n Ewrop. 

 

Dr Christian Edwards sydd wedi dychwelyd i’r clwb fel rheolwr dim ond naw mis ers iddo adael y rôl, a byddai ddim wedi gallu gofyn am gêm anoddach i ddechrau ei gyfnod newydd wrth y llyw. 

 

Mae gorffen yn y 3ydd safle wedi bod yn ddigon i selio lle’n Ewrop ym mhob un o’r wyth tymor diwethaf, a gan mae dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu’r pedwar clwb rhwng yr 2il a’r 5ed safle, mae’n mynd i fod yn gystadleuaeth gyffrous yn y Chwech Uchaf y tymor hwn. 

 

Mae’r Seintiau wedi gorffen rhan gynta’r tymor 16 pwynt yn glir o’r gweddill gan dorri’r record am y nifer fwyaf o goliau a sgorwyd (83) a’r nifer lleiaf o goliau a ildwyd (8) ar yr hollt. 

 

Daeth 11 o’r goliau rheiny yn eu dwy gêm yn erbyn Met Caerdydd gyda’r myfyrwyr yn dioddef eu colled drymaf erioed yn y gynghrair y tro diwethaf i’r Seintiau ymweld â Champws Cyncoed (Met 0-7 YSN). 

 

Ers eu colled yn erbyn Dundee yng Nghwpan Her yr Alban ym mis Medi, dyw’r Seintiau Newydd heb golli mewn 20 o gemau ym mhob cystadleuaeth (ennill 18, cyfartal 2), ac mae ‘na bosibiliad gwirioneddol y bydd cewri Croesoswallt yn ennill y bencampwriaeth cyn diwedd y mis. 

 

Ond wedi rhediad rhagorol o naw gêm gynghrair heb golli (ennill 7, cyfartal 2), bydd Met Caerdydd yn awyddus i fod y tîm cyntaf i guro carfan Craig Harrison yn y gynghrair y tymor yma. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ✅✅➖✅✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
 

 Y Bala (5ed) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae pedwar tocyn i Ewrop ar gael eleni, a bydd rheiny’n cael eu dosbarthu i’r ddau glwb uchaf yn y tabl, enillwyr Cwpan Cymru ac enillwyr y gemau ail gyfle. 

Pe bae un o’r ddau uchaf yn ennill Cwpan Cymru, yna bydd y tîm sy’n 3ydd yn derbyn pas i Ewrop, a gan bod y ddau dîm yma eisoes wedi cyrraedd rownd gynderfynol y gwpan, a dim ond un pwynt yn eu gwahanu’n y gynghrair, mae hon yn gaddo i fod yn frwydr dyngedfennol yn y ras am Ewrop. 

 

Mae gan Y Bala record gartref ragorol gyda 12 buddugoliaeth ac 11 llechen lân yn eu 15 gêm ddiwethaf ar Faes Tegid ym mhob cystadleuaeth, a dyw criw Colin Caton erioed wedi colli gartref yn erbyn Pen-y-bont. 

 

Ar ôl chwarae’n Ewrop mewn wyth o’r 10 tymor diwethaf mae’r Bala’n hynod brofiadol ar y llwyfan Ewropeaidd, ond eto i greu argraff ar ôl ennill dim ond unwaith mewn naw rownd. 

Mae Pen-y-bont, ar y llaw arall, yn benderfynol o gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf erioed, ac mae tîm Rhys Griffiths yn llawn hyder ar ôl ennill chwe gêm yn olynol, gan gadw naw llechen lân yn eu 13 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

Pen-y-bont gafodd y gorau o’r gornestau yn erbyn Y Bala yn rhan gynta’r tymor gan ennill 2-0 ar y penwythnos agoriadol cyn y gêm gyfartal 1-1 ar Faes Tegid ym mis Hydref. 

 

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌➖✅❌✅ 

Pen-y-bont: ✅✅✅✅➖
 

Y Drenewydd (6ed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Nomadiaid Neil Gibson 16 pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd, ond sicrhau’r ail safle fydd y nod i Gei Connah er mwyn selio tocyn i Ewrop. 

Daeth cyfnod anhygoel Cei Connah o 21 gêm heb golli i ben bythefnos yn ôl, a dyw’r hwyliau ddim cweit cystal yng Nglannau Dyfrdwy erbyn hyn gyda’r Nomadiaid heb ennill mewn pedair gêm gynghrair. 

Er hynny, mae Cei Connah wedi cadw saith llechen lân yn eu wyth gêm ddiwethaf, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 5-0 yn erbyn Airbus yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD ddydd Sadwrn. 

Mae diffyg goliau wedi bod yn broblem i’r Drenewydd yn ddiweddar gyda’r Robiniaid heb sgorio mewn tair gêm ac yn dal i aros am eu gôl gyntaf yn 2023.  

Mae’r Drenewydd yn dechrau ail ran y tymor 11 pwynt y tu ôl i Gei Connah a dyw’r Robiniaid ond wedi ennill un o’u 14 gêm flaenorol yn erbyn y Nomadiaid (cyfartal 2, colli 11). 

 

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌➖✅✅❌ 

Cei Connah: ❌➖➖➖✅
 

 CHWECH ISAF 

 

Caernarfon (8fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Caernarfon wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ond bydd y Cofis yn benderfynol o hawlio’r 7fed safle er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle i gystadlu am docyn i Ewrop ar ddiwedd y tymor. 

Ond Hwlffordd sy’n arwain y ffordd yn yr hanner isaf, yn dechrau ail ran y tymor ddau bwynt yn glir o’r gweddill yn dilyn eu buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Cei Connah yn eu gêm olaf cyn yr hollt. 

Dyw Caernarfon ond wedi ennill un o’u 12 gêm ddiwethaf (cyfartal 1, colli 10) gyda’r unig fuddugoliaeth yn dod yn erbyn Airbus UK sydd ar waelod y tabl. 

Ond mae’r Cofis wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 2-1 ar yr Oval ym mis Medi. 

Does gan Hwlffordd ddim record wych oddi cartref y tymor hwn ar ôl ennill dim ond dwywaith mewn 13 gêm oddi cartref ym mhob cystadleuaeth, gyda’u buddugoliaeth ddiwethaf yn Airbus nôl ym mis Tachwedd (ennill 2, cyfartal 1, colli 10 oddi cartref). 

 

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌✅❌❌❌ 

Hwlffordd: ✅❌➖❌  

 

Pontypridd (11eg) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd y ddau isaf yn cyfarfod ym Mhontypridd ddydd Sadwrn ond mae gobeithion y newydd-ddyfodiaid o oroesi’r cwymp yn dra gwahanol. 

Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Pontypridd a diogelwch y 10fed safle, tra bod Airbus 24 pwynt y tu ôl i Aberystwyth (10fed), ac mi fyddai’n wyrth pe bae Jamie Reed yn gallu achub bechgyn Brychdyn rhag syrthio i Gynghrair y Gogledd. 

Ar ôl derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn erbyn Caernarfon ym mis Medi mae Airbus yn parhau ar -2 o bwyntiau eleni ar ôl colli 21 o’u 22 gêm gynghrair gan dorri’r record fel y clwb gyda’r nifer lleiaf o bwyntiau ar ddiwedd rhan gynta’r tymor. 

 

Mae Pontypridd eisoes wedi curo Airbus ddwywaith y tymor hwn gyda Ben Ahmun yn taro hatric hanner cyntaf y tro diwethaf i’r timau gyfarfod ym mis Hydref (Air 0-4 Pont). 

 

Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ❌❌✅➖✅
Airbus UK:❌❌❌❌❌ 

 

  Y Fflint (9fed) v Aberystwyth (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Gall canlyniad y gêm yma benderfynu os mae edrych i fyny tuag at y 7fed safle, yntau edrych dros eu hysgwyddau ar safleoedd y cwymp bydd y clybiau yma’n eu gwneud am weddill y tymor. 

Mae chwech allan o saith gêm ddiwethaf Y Fflint wedi bod yn gemau cartref, a dyw’r Sidanwyr ond wedi colli un o rheiny ar Gae-y-Castell, ac honno yn erbyn Y Seintiau Newydd. 

Mae’n gyfnod pryderus i Aberystwyth sydd ond wedi ennill un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf ac mewn perygl o lithro i safleoedd y cwymp. 

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Anthony Williams yn awyddus i beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r Gwyrdd a’r Duon i’r ail haen. 

Dyw Aberystwyth heb gadw llechen lân yn y gynghrair y tymor yma, ond fe gafon nhw’r gorau o’r Fflint yn rhan gynta’r tymor gan ennill 2-1 gartref cyn eu gêm gyfartal 1-1 ar Gae-y-Castell fis diwethaf. 

 

Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅❌➖➖❌
Aberystwyth: ✅❌➖❌❌ 

 Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:05. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?