S4C

Navigation

Y Bala oedd enillwyr tlws cynta’r tymor wedi i dîm Colin Caton guro Cei Connah ar giciau o’r smotyn brynhawn Sadwrn i godi Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes. 

 

Ond mae’r sylw’n troi yn ôl at y gynghrair rwan a bydd rhan gynta’r tymor yn dod i ben nos Fawrth a thabl y Cymru Premier JD yn cael ei hollti’n ddwy, ond cyn hynny mae dwy gêm ar ôl i’w chwarae yn dilyn gohiriadau diweddar oherwydd y tywydd oer.  

 

Nos Fawrth, 31 Ionawr 

Hwlffordd (8fed) v Cei Connah (2il) | Nos Fawrth – 19:45 

Wedi’r siom o golli rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ddydd Sadwrn bydd Cei Connah yn gobeithio am ymateb cadarnhaol ar Ddôl y Bont nos Fawrth. 

Roedd Cei Connah wedi mynd ar rediad anhygoel o 21 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth cyn y golled ar y Graig ddydd Sadwrn, ac honno oedd colled gyntaf y Nomadiaid yng Nghwpan Nathaniel MG ers 2018.  

Mae Nomadiaid Neil Gibson 13 pwynt y tu ôl i’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd, ond sicrhau’r ail safle fydd y nod i Gei Connah er mwyn selio tocyn i Ewrop, ac fe all dynion Glannau Dyfrdwy fynd chwe phwynt yn glir o Ben-y-bont (3ydd) pe bae nhw’n curo Hwlffordd nos Fawrth. 

Does gan Hwlffordd ond un buddugoliaeth yn eu chwe gêm ddiwethaf ac felly bydd angen troi’r gornel os am gystadlu am y 7fed safle yn hytrach na chael eu tynnu tua’r gwaelodion. 

 

Mae Cei Connah ar rediad o 10 gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd (ennill 8, cyfartal 2), ac er colli ar giciau ar smotyn brynhawn Sadwrn, di-sgôr oedd hi wedi 90 munud, felly dyw’r Nomadiaid yn dal heb ildio gôl mewn chwe gêm. 

 

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌➖❌ ✅❌ 

Cei Connah: ➖➖➖✅➖
 

 Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Roedd Y Bala wrth eu boddau brynhawn Sadwrn gan i’r clwb godi Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf erioed, ac hynny ar ôl chwarae rhan fwyaf o’r gêm gyda dyn yn brin yn dilyn cerdyn coch Lassana Mendes yn yr hanner cyntaf. 

Dyna ail gerdyn coch Mendes mewn dwy gêm wedi i’r chwaraewr creadigol gael ei hel o’r maes yn erbyn Pontypridd yng Nghwpan Cymru yn ei gêm flaenorol, felly bydd angen gwell disgyblaeth gan y garfan os am gyrraedd Ewrop eleni. 

Ers y golled o 0-3 yn erbyn Dundee yng Nghwpan Her yr Alban ym mis Medi, dyw’r Seintiau Newydd heb golli mewn 18 o gemau ym mhob cystadleuaeth (ennill 16, cyfartal 2), yn cynnwys eu buddugoliaeth o 0-5 yn erbyn Y Bala ym mis Hydref. 

 

Cafodd Y Seintiau gêm ddi-sgôr ym Mhen-y-bont ym mis Tachwedd, ond ers hynny mae’r pencampwyr wedi bod yn rhwydo’n ddi-stop gan sgorio 46 gôl yn eu wyth gêm ddiwethaf (5.75 gôl y gêm). 

 

Dyw’r Seintiau ond angen chwe gôl arall i gyrraedd eu cyfanswm goliau ar ddiwedd y tymor diwethaf (86), ond bydd angen i dîm Craig Harrison rwydo 22 gôl mewn 11 gêm os am dorri record eu hunain o 101 o goliau mewn tymor (2016/17).  

 

Dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 11 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 7, cyfartal 4), ond bydd criw Colin Caton yn llawn hyder yn dilyn eu llwyddiant dros y penwythnos. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Bala: ➖✅❌✅✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar gyfrifon cymdeithasol Sgorio.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?