S4C

Navigation

Mae hi’n benwythnos olaf rhan gynta’r tymor yn y Cymru Premier JD cyn bydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy, ac mae sylw clybiau’r Chwech Uchaf eisoes wedi troi at geisio hawlio lle’n Ewrop, tra bod y Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair. 

 

Dydd Sadwrn, 21 Ionawr 

 Aberystwyth (11eg) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Mae Caernarfon wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ond bydd y Cofis yn benderfynol o hawlio’r 7fed safle er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle i gystadlu am docyn i Ewrop ar ddiwedd y tymor. 

Byddai buddugoliaeth i Gaernarfon yn eu codi naw pwynt yn glir o’r ddau isaf ac yn galluogi Huw Griffiths i ganolbwyntio ar edrych i fyny yn hytrach nac i lawr am y 10 gêm gynghrair sy’n weddill yn ail ran y tymor. 

Mae’n gyfnod pryderus i Aberystwyth sydd ond wedi ennill un pwynt o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf gan syrthio i safleoedd y cwymp. 

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Anthony Williams yn awyddus i beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r Gwyrdd a’r Duon i’r ail haen. 

Dyw Aberystwyth heb gadw llechen lân yn y gynghrair y tymor yma, felly bydd Caernarfon yn ffyddiog cyn teithio i Goedlan y Parc gyda’r Cofis ond wedi colli un o’u 10 gêm ddiwethaf yn erbyn carfan Ceredigion (ennill 6, cyfartal 3). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ❌➖❌❌❌
Caernarfon: ✅❌❌❌❌ 

 

 Hwlffordd (8fed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Mae Cei Connah ar rediad anhygoel o 21 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 16, cyfartal 5), a gyda rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG i ddod y penwythnos nesaf mae cyfle gwirioneddol i Neil Gibson gael ei ddwylo ar dlws neu ddau yn ei dymor cyntaf wrth y llyw i’r Nomadiaid. 

 

Enillodd Cei Connah 0-2 oddi cartref yn Llanelli ddydd Sadwrn diwethaf gan gadw llechen lân am y pumed gêm yn olynol a chamu ‘mlaen i rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD ble bydd y Nomadiaid yn croesawu Airbus UK fis nesaf. 

 

Does gan Hwlffordd ond un buddugoliaeth yn eu chwe gêm ddiwethaf ac felly bydd angen troi’r gornel os am gystadlu am y 7fed safle yn hytrach na chael eu tynnu tua’r gwaelodion. 

 

Mae Cei Connah ar rediad o 10 gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd (ennill 8, cyfartal 2), ac felly bydd y Nomadiaid yn hyderus o allu ymestyn eu rhediad di-guro ddydd Sadwrn. 

 

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌➖❌ ✅❌ 

Cei Connah: ➖➖➖✅➖
 

 

Met Caerdydd (5ed) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Ar ôl methu ag ennill dim un o’u 21 gêm gynghrair ers eu dyrchafiad, mae Airbus am dorri’r record fel y clwb gyda’r nifer lleiaf o bwyntiau ar ddiwedd rhan gynta’r tymor. 

Y tymor diwethaf fe orffennodd Derwyddon Cefn rhan gynta’r tymor gyda dim ond dau o bwyntiau, sef y cyfanswm isaf erioed ar yr hollt, ond ar ôl derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn erbyn Caernarfon ym mis Medi mae Airbus yn parhau ar -2 o bwyntiau eleni ar ôl colli 20 o’u 21 gêm gynghrair. 

 

Wedi rhediad rhagorol o wyth gêm gynghrair heb golli (ennill 6, cyfartal 2), mae Met Caerdydd wedi hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2017/18. 

Mae gorffen yn y 3ydd safle wedi bod yn ddigon i selio lle’n Ewrop ym mhob un o’r wyth tymor diwethaf, a gan mae dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r Bala (3ydd) a Met Caerdydd (5ed) mae’n mynd i fod yn gystadleuaeth gyffrous yn y Chwech Uchaf y tymor hwn. 

Yn Awst 2016 fe chwaraeodd Met Caerdydd eu gêm gyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru gan golli 1-0 oddi cartref yn erbyn Airbus, ond dyw’r myfyrwyr heb golli mewn pum gêm yn erbyn bechgyn Brychdyn ers hynny (ennill 3, cyfartal 2). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ✅➖✅✅✅
Airbus UK:❌❌❌❌❌ 

 

 Pen-y-bont (4ydd) v Y Drenewydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Ar ôl trechu Gresffordd 0-2 ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru ddydd Sadwrn bydd Pen-y-bont yn croesawu Treffynnon yn rownd yr wyth olaf fis nesaf. 

Mae hogiau Rhys Griffiths wedi ennill pedair gêm yn olynol, wedi cadw wyth llechen lân yn eu 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ac yn benderfynol o gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf erioed. 

Bydd Y Drenewydd hefyd yn llygadu lle’n Ewrop ac yn gobeithio cynrychioli Cymru ar y cyfandir am y trydydd tymor yn olynol. 

Mae pedwar tocyn i Ewrop ar gael eleni, a bydd rheiny’n cael eu dosbarthu i’r ddau glwb uchaf yn y tabl, enillwyr Cwpan Cymru ac enillwyr y gemau ail gyfle. 

Ond yn dilyn eu crasfa o 7-0 gan Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn, mae’r Drenewydd allan o Gwpan Cymru ac mae’r llwybr honno i Ewrop wedi cau i griw Chris Hughes.  

Pe bae un o’r ddau uchaf yn ennill Cwpan Cymru, yna bydd y tîm sy’n 3ydd yn derbyn pas i Ewrop, ac felly cau’r bwlch o saith pwynt rhyngddyn nhw a’r Bala (3ydd) bydd y nod i’r Drenewydd yn ail ran y tymor. 

Dyw’r Drenewydd ond wedi colli un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf (ennill 7, cyfartal 1), a dyw’r Robiniaid heb golli yn eu tair gêm ddiwethaf oddi cartref ym Mhen-y-bont (ennill 2, cyfartal 1).  

 

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ✅✅✅➖❌
Y Drenewydd: ➖✅✅❌✅ 

 

Y Fflint (9fed) v Pontypridd (10fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 

11 rownd o gemau sydd i fynd yn nhymor y Cymru Premier JD, ac mae hon yn chwe-phwyntar go iawn rhwng dau dîm sy’n brwydro i osgoi’r cwymp. 

Un pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Fflint a Pontypridd – dau glwb oedd wedi gweld newidiadau mawr dros yr haf ac fydd yn gobeithio codi gêr yn ail ran y tymor. 

Ers i Lee Fowler gymryd yr awennau i’r Fflint yn yr haf mae pob un aelod o’r garfan wedi gadael y clwb oni bai am Danny Harrison, ac felly roedd hi’n fuddugoliaeth allweddol i’r tîm yn erbyn Pontypridd ar benwythnos agoriadol y tymor (Pont 0-1 Ffl). 

 

Mae Andrew Stokes hefyd wedi adeiladu carfan o’r newydd ers cael ei benodi yn reolwr Pontypridd ym mis Mai ac mae eu canlyniadau dros gyfnod y Nadolig yn profi bod y chwaraewyr newydd yn dechrau darganfod eu traed yn yr uwch gynghrair. 

 

Ar ôl colli 1-8 gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd yn eu gêm ddiwethaf bydd Y Fflint yn ysu i orffen rhan gynta’r tymor ar nodyn cadarnhaol, tra bydd Pontypridd yn falch o gael wynebu gwrthwynebwyr gwahanol yn dilyn tair gêm yn olynol yn erbyn Y Bala. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ❌➖➖❌✅
Pontypridd: ❌✅➖✅❌
 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C) 

Roedd hi’n brynhawn Sadwrn llwyddiannus i’r Seintiau Newydd ac i’r Bala y penwythnos diwethaf wrth i’r ddau glwb guro gwrthwynebwyr o’r uwch gynghrair i sicrhau lle yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD (YSN 7-0 Y Drenewydd, Y Bala 2-1 Pontypridd). 

Bydd deiliad y cwpan, Y Seintiau Newydd yn teithio i unai Cwmbrân neu Penydarren yn y rownd nesaf, tra bydd Y Bala’n croesawu un o glybiau cryfaf Cynghrair y De, sef Llansawel. 

 

Ers y golled o 0-3 yn erbyn Dundee yng Nghwpan Her yr Alban ym mis Medi, dyw’r Seintiau Newydd heb golli mewn 18 o gemau ym mhob cystadleuaeth (ennill 16, cyfartal 2), yn cynnwys eu buddugoliaeth o 0-5 yn erbyn Y Bala ym mis Hydref. 

 

Cafodd Y Seintiau gêm ddi-sgôr ym Mhen-y-bont ym mis Tachwedd, ond ers hynny mae’r pencampwyr wedi bod yn rhwydo’n ddi-stop gan sgorio 46 gôl yn eu wyth gêm ddiwethaf (5.75 gôl y gêm). 

 

Dyw’r Seintiau ond angen chwe gôl arall i gyrraedd eu cyfanswm goliau ar ddiwedd y tymor diwethaf (86), ond bydd angen i dîm Craig Harrison rwydo 22 gôl mewn 11 gêm os am dorri record eu hunain o 101 o goliau mewn tymor (2016/17).  

 

Dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 11 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 7, cyfartal 4), ond bydd Colin Caton yn awyddus i osgoi cweir cyn i’w garfan baratoi am rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG y penwythnos nesaf. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Bala: ➖✅❌✅✅ 

 Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?