S4C

Navigation

Dim ond dwy rownd o gemau sy’n weddill yn rhan gynta’r tymor, ond bydd clybiau’r Chwech Uchaf eisoes wedi dechrau troi eu sylw at geisio hawlio lle’n Ewrop, tra bod y Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair. 

 

Nos Fawrth, 10 Ionawr 

Airbus UK (12fed) v Caernarfon (8fed) | Nos Fawrth – 19:45 

 

Bydd Airbus yn awyddus i beidio a chyrraedd yr hollt gyda llai na dim o bwyntiau, ac mae hogiau Jamie Reed mewn perygl o dorri’r record fel y clwb gwaethaf erioed yn hanes y gynghrair. 

Y tymor diwethaf fe orffennodd Derwyddon Cefn rhan gynta’r tymor gyda dim ond dau o bwyntiau, sef y cyfanswm isaf erioed ar yr hollt. 

Ond ar ôl derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn erbyn Caernarfon ym mis Medi mae Airbus yn parhau ar -2 o bwyntiau eleni ar ôl colli 19 o’u 20 gêm gynghrair ers eu dyrchafiad. 

Mae Caernarfon yn glwb arall sydd yng nghanol cyfnod cythryblus gyda’r Cofis wedi colli chwe gêm gynghrair yn olynol gan orfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018. 

Dyw Caernarfon ond wedi ennill un pwynt o 24 posib yn eu wyth gêm gynghrair ddiwethaf, sef eu rhediad salaf yn yr uwch gynghrair ers tymor 2006/07. 

Ond mae’r Caneris wedi ennill eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Airbus, ac felly bydd Huw Griffiths yn gobeithio bod y cyfnod siomedig ar fin dod i ben nos Fawrth. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Airbus UK:❌❌❌❌❌ 

Caernarfon: ❌❌❌❌❌ 

 

 Y Bala (3ydd) v Cei Connah (2il) | Nos Fawrth – 19:45 

I’r Chwech Uchaf ac mae hon yn gêm allweddol yn y frwydr i gyrraedd Ewrop gyda dim ond pedwar pwynt yn gwahanu’r Bala a Chei Connah yn y ras am yr 2il safle a thocyn awtomatig i Ewrop. 

 

Mae Cei Connah ar rediad anhygoel o 19 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 15, cyfartal 4), sef eu cyfnod hiraf erioed heb golli. 

 

Ond mae tair o’r gemau cyfartal rheiny wedi dod yn eu pedair gêm ddiwethaf, sy’n golygu bod Y Seintiau Newydd wedi mynd 11 pwynt yn glir ar y copa, a’r Bala wedi cau’r bwlch o’r cyfeiriad arall. 

 

Mae gan Y Bala record ryfeddol gartref y tymor yma gyda 10 buddugoliaeth a naw llechen lân yn eu 12 gêm ddiwethaf ar Faes Tegid ym mhob cystadleuaeth. 

 

Ond bydd hi’n dipyn o her yn erbyn Cei Connah gan fod y Nomadiaid wedi ennill eu tair gêm flaenorol yn erbyn Y Bala, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 1-0 ym mis Awst diolch i gôl ragorol Ryan Stratulis. 

 

Bydd y clybiau’n cyfarfod eto cyn diwedd y mis gan gystadlu am dlws cynta’r tymor yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ar 28 Ionawr. 

 

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅❌✅✅✅ 

Cei Connah: ➖➖✅➖✅
 

 

Y Fflint (9fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45 

Gyda dim ond triphwynt yn gwahanu’r pedwar clwb rhwng yr 8fed a’r 11eg safle, mae’r Fflint yn sicr ymysg y clybiau sy’n brwydro i osgoi’r cwymp eleni. 

 

Ond mae’r Sidanwyr ar rediad o bedair gêm gartref heb golli yn dilyn canlyniadau cadarnhaol yn erbyn Met Caerdydd (1-1), Caernarfon (2-1), Cei Connah (0-0) ac Aberystwyth (1-1). 

 

Dyw’r Seintiau Newydd yn dal heb golli gêm gynghrair y tymor yma, ac mae’r pencampwyr presennol bellach ar rediad o 26 gêm gynghrair heb golli (ennill 22, cyfartal 4). 

 

Mae cewri Croesoswallt wedi ennill y bencampwriaeth mwy nac unrhyw dîm arall (14), ond tybed a’i dyma fydd y tro cyntaf i’r clwb fynd drwy dymor cyfan heb golli. 

   

Mae gan Y Fflint record wael yn erbyn Y Seintiau Newydd ers eu dyrchafiad (cyfartal 1, colli 6) gan ddioddef colledion trwm o 6-2 a 7-0 yn eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn y pencampwyr. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ➖➖❌✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅➖
 

 

Aberystwyth (11eg) v Pen-y-bont (5ed) | Nos Fawrth – 20:00 

Wedi pum colled yn olynol, roedd yna ochenaid fach o ryddhad i Aberystwyth nos Wener wrth iddyn nhw sicrhau pwynt oddi cartref yn Y Fflint (1-1). 

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Anthony Williams yn benderfynol o beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r Gwyrdd a’r Duon i’r ail haen. 

Bydd Pen-y-bont yn llawn hyder yn dilyn eu buddugoliaeth o 5-1 yn erbyn Caernarfon brynhawn Sadwrn, ac ar ôl sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am y trydydd tymor yn olynol bydd tîm Rhys Griffiths yn anelu i orffen yn y tri safle uchaf eleni. 

Mae gorffen yn y 3ydd safle wedi bod yn ddigon i selio lle’n Ewrop ym mhob un o’r wyth tymor diwethaf, a gan mae dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu’r Bala (3ydd) a’r Drenewydd (6ed) mae’n mynd i fod yn gystadleuaeth gyffrous yn y Chwech Uchaf y tymor hwn. 

Byddai buddugoliaeth i Aberystwyth yn eu codi allan o’r ddau safle isaf, ond mae Pen-y-bont wedi ennill eu tair gêm flaenorol yn erbyn y clwb o Geredigion. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ➖❌❌❌❌
Pen-y-bont: ✅✅➖❌✅
 

 Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?