S4C

Navigation

Yn dilyn canlyniadau’r gemau canol wythnos mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf wedi dod i ben yng nghynghrair y Cymru Premier JD gyda Phen-y-bont a’r Drenewydd yn sicrhau’r ddau safle olaf yn yr hanner uchaf. 

 

Mae tair rownd o gemau yn weddill yn rhan gynta’r tymor, ond bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn dechrau troi eu sylw at geisio hawlio lle’n Ewrop, tra bydd y Chwech Isaf yn brwydro i gael aros yn y gynghrair. 

 

Nos Wener, 6 Ionawr 

Y Fflint (9fed) v Aberystwyth (11eg) | Nos Wener – 19:45 

 

Mae’n gaddo i fod yn dipyn o frwydr i osgoi’r cwymp eleni gan ei bod hi’n eithriadol o dynn yn rhan isa’r tabl gyda dim ond chwe phwynt yn gwahanu Hwlffordd (7fed) ac Aberystwyth (11eg). 

 

Ar ben hynny, mae Hwlffordd wedi chwarae un gêm yn fwy na’r Fflint ac Aberystwyth, ac felly mae yna bum clwb â chyfle gwirioneddol o orffen yn y 7fed safle a sicrhau lle yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor. 

 

Dyw’r Fflint ond dau bwynt uwchben Aberystwyth, ond mae’r Sidanwyr ar rediad o dair gêm gartref heb golli yn dilyn canlyniadau cadarnhaol yn erbyn Met Caerdydd (1-1), Caernarfon (2-1) a Chei Connah (0-0).   

 

Ar ôl colli pum gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers dwy flynedd, mae Aberystwyth wedi cadarnhau eu lle yn yr hanner isaf am yr wythfed blwyddyn yn olynol. 

 

Dyw Aberystwyth heb gadw llechen lân yn y gynghrair y tymor yma, ond y Gwyrdd a’r Duon oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ‘nôl ym mis Hydref (Aber 2-1 Fflint). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ➖❌✅➖❌
Aberystwyth:❌❌❌❌❌
 

 

Dydd Sadwrn, 7 Ionawr 

 

Pen-y-bont (5ed) v Caernarfon (8fed) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C arlein) 

Ar ôl curo Airbus nos Fawrth mae Pen-y-bont wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am y trydydd tymor yn olynol, a bydd tîm Rhys Griffiths yn anelu am y 3ydd safle eleni. 

Mae gorffen yn y 3ydd safle wedi bod yn ddigon i selio lle’n Ewrop ym mhob un o’r wyth tymor diwethaf, a gan mae dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu’r Bala (3ydd) a’r Drenewydd (6ed) mae’n mynd i fod yn gystadleuaeth gyffrous yn y Chwech Uchaf y tymor hwn. 

Roedd Caernarfon a Phen-y-bont yn hafal ar bwyntiau yn yr hanner uchaf cyn i’r timau gyfarfod ar ddechrau mis Tachwedd, ond roedd y golled i’r Cofis o 0-2 ar yr Oval yn gychwyn ar gyfnod cythryblus i’r clwb sydd ond wedi ennill un pwynt o 21 posib ers hynny. 

Mi fydd Caernarfon yn chwarae ail ran y tymor yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ond roedd y Caneris fymryn yn ffodus o gael cyrraedd yr hanner uchaf y tymor diwethaf wrth elwa ar gamgymeriad Cei Connah a gollodd 18 o bwyntiau am dorri’r rheolau. 

Mae Pen-y-bont wedi cadw chwe llechen lân yn eu wyth gêm flaenorol, tra bod Caernarfon heb sgorio yn eu dwy gêm ddiwethaf. 

 

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅➖❌✅❌
Caernarfon: ❌❌❌❌❌ 

 

 Airbus UK (12fed) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd Airbus yn benderfynol o beidio cyrraedd yr hollt gyda llai na dim o bwyntiau, ac mae hogiau Jamie Reed mewn perygl o dorri’r record fel y clwb gwaethaf erioed yn hanes y gynghrair. 

Y tymor diwethaf fe orffennodd Derwyddon Cefn rhan gynta’r tymor gyda dim ond dau o bwyntiau, sef y cyfanswm isaf erioed ar yr hollt. 

Ond ar ôl derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn erbyn Caernarfon ym mis Medi mae Airbus yn parhau ar -2 o bwyntiau eleni ar ôl colli 18 o’u 19 gêm gynghrair ers eu dyrchafiad. 

 

Wedi rhediad rhagorol o saith gêm gynghrair heb golli (ennill 5, cyfartal 2), mae Met Caerdydd wedi hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2017/18. 

 

Er hynny dyw’r myfyrwyr heb ennill gêm gynghrair oddi cartref yng ngogledd Cymru ers dros flwyddyn gan ennill dim ond dwy o’u 19 gêm gynghrair ddiwethaf yn y gogledd (y ddwy yn erbyn Derwyddon Cefn). 

 

Yn Awst 2016 fe chwaraeodd Met Caerdydd eu gêm gyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru, ac honno oddi cartref yn erbyn Airbus, ac yn dechrau’r gêm i’r myfyrwyr y diwrnod hwnnw roedd Kyle McCarthy, Emlyn Lewis, Chris Baker a Eliot Evans sydd i gyd wedi mynd ymlaen i chware ym mhell dros 150 o gemau cynghrair yr un i’r clwb. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Airbus UK:❌❌❌❌❌ 

Met Caerdydd: ➖✅✅✅➖
 

Y Bala (3ydd) v Pontypridd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Bala wedi selio lle’n y Chwech Uchaf am y nawfed tymor yn olynol, ond fe gawson nhw sioc ym Mhontypridd nos Fawrth wrth i’r tîm oedd yn safleoedd y cwymp ddod â’u rhediad o bum buddugoliaeth yn olynol i ben. 

 

A bydd y clybiau’n cyfarfod am yr eildro o fewn pum diwrnod ddydd Sadwrn, cyn mynd benben unwaith yn rhagor y penwythnos nesaf ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD. 

 

Mae Pontypridd wedi mynd ar rediad o dair gêm heb golli am y tro cyntaf erioed yn y Cymru Premier JD gan godi o’r ddau safle isaf. 

 

Ond mae gan Y Bala record ryfeddol gartref y tymor yma gyda naw buddugoliaeth ac wyth llechen lân yn eu 11 gêm ddiwethaf ar Faes Tegid ym mhob cystadleuaeth. 

 

Ac wrth ystyried bod Pontypridd ond wedi ennill un o’u naw gêm gynghrair oddi cartref y tymor yma (vs Airbus) mi fydd hi’n daith anodd i Ponty yn erbyn criw Colin Caton fydd yn awyddus i dalu’r pwyth yn ôl. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ❌✅✅✅✅ 

Pontypridd: ✅➖✅❌❌
 

Y Drenewydd (6ed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Drenewydd wedi cadarnhau eu lle’n y Chwech Uchaf am y pedwerydd tro mewn pum tymor, tra bod Cei Connah yn ôl yn yr hanner uchaf yn dilyn y siom o orfod chwarae yn y Chwech Isaf llynedd ar ôl derbyn cosb o 18 pwynt am chwarae chwaraewr anghymwys. 

 

Mae Cei Connah ar rediad anhygoel o 18 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 15, cyfartal 3), sef eu cyfnod hiraf erioed heb golli. 

 

Ond mae dwy o’r gemau cyfartal rheiny wedi dod yn eu tair gêm ddiwethaf, sy’n golygu bod Y Seintiau Newydd wedi mynd naw pwynt yn glir ar y copa. 

 

Mae’r Drenewydd wedi ennill wyth o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ond dyw’r Robiniaid ond wedi ennill un o’u 13 gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah (cyfartal 2, colli 10). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ✅✅❌✅✅ 

Cei Connah: ➖✅➖✅✅
 

 Y Seintiau Newydd (1af) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Dyw’r Seintiau Newydd yn dal heb golli gêm gynghrair y tymor yma, ac mae’r pencampwyr presennol bellach ar rediad o 25 gêm gynghrair heb golli (ennill 21, cyfartal 4). 

 

Mae cewri Croesoswallt wedi ennill y bencampwriaeth mwy nac unrhyw dîm arall (14), ond tybed a’i dyma fydd y tro cyntaf i’r clwb fynd drwy dymor cyfan heb golli. 

 

Er methu a chyrraedd y Chwech Uchaf, Hwlffordd sy’n arwain y ras am y 7fed safle, a cipio lle yn y gemau ail gyfle fydd y nod i’r Adar Gleision eleni. 

 

Ond mae’r Seintiau wedi ennill 11 o’u 12 gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, ac ond wedi colli un o’u 23 gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision, felly fe allai fod yn brynhawn caled i Tony Pennock a’r tîm. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅➖✅
Hwlffordd: ➖❌ ✅❌❌
 

 Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?