S4C

Navigation

Dim ond llond llaw o gemau sy’n weddill yn rhan gynta’r tymor ac wrth i’r hollt yn y gynghrair agoshau mae na bosibilrwydd gwirioneddol y bydd y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn dod i ben nos Fawrth. 

 

Wedi 22 rownd o gemau bydd y tabl yn hollti’n ddwy a bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop tra bydd y Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair. 

 

Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah, Y Bala a Met Caerdydd eisoes wedi selio eu lle yn y Chwech Uchaf, ac fe all Y Drenewydd a Phen-y-bont hawlio’r ddau safle arall nos Fawrth. 

 

Nos Fawrth, 3 Ionawr 

 Caernarfon (8fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45 

 

Ar ôl cyfnod anodd o saith gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth (colli 6, cyfartal 1) mae’n debygol y bydd Caernarfon yn gorfod chwarae ail ran y tymor yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018. 

 

Roedd Caernarfon yn y 7fed safle ar yr hollt y tymor diwethaf, ond gan i Gei Connah golli pwyntiau am chwarae chwaraewr anghymwys fe gafodd y Cofis godi i’r Chwech Uchaf yn lle’r Nomadiaid. 

 

Mae gan y Caneris bedair gêm i’w chwarae cyn yr hollt eleni i geisio cau’r bwlch o saith pwynt sydd rhyngddyn nhw a Phen-y-bont (6ed), sef eu gwrthwynebwyr nesaf. 

 

Ond cyn hynny, bydd angen i Gaernarfon groesawu’r Seintiau i’r Oval – tîm sydd wedi sgorio 27 o goliau yn eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf (6.75 gôl y gêm). 

 

Dyw’r Seintiau Newydd yn dal heb golli gêm gynghrair y tymor yma, ac mae’r pencampwyr presennol bellach ar rediad o 24 gêm gynghrair heb golli (ennill 20, cyfartal 4). 

 

Mae’r Seintiau eisioes wedi curo Caernarfon ddwywaith yn barod y tymor hwn, a dyw’r Caneris heb ennill dim un o’u 10 gêm ddiwethaf yn erbyn cewri Croesoswallt (colli 9, cyfartal 1). 

 

Bydd Y Drenewydd â diddordeb mawr yng nghanlyniad y gêm hon, gan y byddai colled i Gaernarfon yn golygu bod y Robiniaid yn sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon: ❌❌❌❌➖ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅➖✅➖
 

 

 Pen-y-bont (6ed) v Airbus UK (12fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Pe bae Caernarfon yn colli yn erbyn Y Seintiau Newydd, yna byddai buddugoliaeth i Ben-y-bont yn erbyn Airbus yn cadarnhau eu lle yn y Chwech Uchaf am y trydydd tymor yn olynol. 

 

Ond dyw tîm Rhys Griffiths heb fod ar eu gorau yn ddiweddar, gan ennill dim ond un o’u pum gêm ddiwethaf. 

 

Er hynny, bydd Pen-y-bont yn ffyddiog o sicrhau’r triphwynt nos Fawrth ar ôl ennill eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Airbus UK. 

 

Bydd Airbus yn benderfynol o beidio cyrraedd yr hollt gyda llai na dim o bwyntiau, ac mae hogiau Jamie Reed mewn perygl o dorri’r record fel y clwb gwaethaf erioed yn hanes y gynghrair. 

Ar ôl derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn erbyn Caernarfon ym mis Medi mae Airbus yn parhau ar -2 o bwyntiau ar ôl colli 17 o’u 18 gêm gynghrair ers eu dyrchafiad. 

Ildiodd Airbus 15 o goliau mewn dwy gêm yn erbyn Y Seintiau Newydd yr wythnos diwethaf (YSN 7-0 Air, Air 0-8 YSN), ac felly mae gan Jamie Reed dipyn o waith o’i flaen i geisio codi pennau’r garfan ar gyfer gweddill y tymor. 

 

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ➖❌✅❌➖
Airbus UK:❌❌❌❌❌ 

 

 Pontypridd (11eg) v Y Bala (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae’r Chwech Uchaf allan o afael Pontypridd, ond brwydro i aros i fyny fydd y nod i dîm Andrew Stokes yn eu tymor cyntaf yn yr uwch gynghrair. 

 

Ar ôl colli pum gêm gynghrair yn olynol roedd cael cipio pedwar pwynt dros yr Ŵyl yn erbyn Hwlffordd yn fendith i fechgyn Ponty sydd bellach ond un pwynt y tu ôl i Aberystwyth a diogelwch y 10fed safle. 

 

Mae’r Bala wedi selio lle’n y Chwech Uchaf am y nawfed tymor yn olynol yn dilyn rhediad rhagorol o bum buddugoliaeth yn olynol ym mhob cystadleuaeth. 

 

Yn rhyfeddol, hon fydd y gyntaf o dair gêm fydd yn cael ei chwarae rhwng y clybiau o fewn 11 diwrnod gyda’r timau’n cyfarfod eto’n y gynghrair ddydd Sadwrn cyn mynd benben unwaith yn rhagor y penwythnos canlynol ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Pontypridd: ➖✅❌❌❌
Y Bala: ✅✅✅✅❌ 

 

 Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?