S4C

Navigation

Ar ddydd San Steffan bydd chwe gêm ddarbi yn cael ei chwarae yn y Cymru Premier JD, cyn i’r clybiau gyfarfod eto yn y gemau cyfatebol cyn diwedd y flwyddyn. 

 

Mae’r hollt yn y gynghrair yn agoshau, ac mae’r pwysau i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf yn cynyddu. 

 

Wedi 22 rownd o gemau bydd y tabl yn hollti’n ddwy a bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop tra bydd y Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair. 

 

Ar gyfartaledd, mae 31 o bwyntiau wedi bod yn ddigon i sicrhau lle’n y Chwech Uchaf, ac mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah a Met Caerdydd eisoes wedi pasio’r marc hwnnw. 

 

Y tu ôl i’r tri uchaf mae ‘na bum clwb yn cystadlu am y tri safle nesaf gyda dim ond wyth pwynt yn gwahanu’r timau rhwng y 4ydd a’r 8fed safle. 

 

 Dydd Llun, 26 Rhagfyr  

 

Aberystwyth (10fed) v Y Drenewydd (6ed) | Dydd Llun – 14:30 

 

Yn narbi’r canolbarth bydd Aberystwyth yn anelu i gadw eu gobeithion o gyrraedd y Chwech Uchaf yn fyw yn erbyn Y Drenewydd, fydd yn targedu dim llai na chwe phwynt yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon dros gyfnod yr Ŵyl. 

 

Mae Aberystwyth wyth pwynt y tu ôl i’r Drenewydd (6ed), ond gyda gêm wrth gefn, dyw’r garfan o Geredigion yn sicr ddim allan o’r ras eto. 

 

Ond ar ôl colli pump o’u chwe gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth bydd angen i berfformiadau Aberystwyth wella’n sydyn os am ddringo o’r gwaelodion i gystadlu am le yn yr hanner uchaf. 

 

Aberystwyth sydd â’r record amddiffynnol salaf yn y gynghrair, ac mae Anthony Williams yn dal i aros am ei lechen lân gyntaf fel rheolwr yn y Cymru Premier JD. 

 

Daeth rhediad ardderchog Y Drenewydd o chwe buddugoliaeth yn olynol i ben nos Iau gyda cholled o 2-1 yn erbyn Met Caerdydd. 

 

Mae’r Drenewydd wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf ar Goedlan y Parc, gan gynnwys eu buddugoliaeth yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD fis diwethaf (Aber 1-3 Dre). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth:❌❌❌✅❌
Y Drenewydd:❌✅✅✅✅ 

 

 

 Caernarfon (8fed) v Y Bala (4ydd) | Dydd Llun – 14:30 

Ar ôl cyfnod anodd o bum gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth (colli 4, cyfartal 1) bydd Caernarfon yn ceisio troi’r gornel yn y gobaith o sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y pumed tymor yn olynol. 

 

Ond mae gemau caled ar y gweill i Gaernarfon gyda’r Cofis angen wynebu’r Bala ddwywaith, Y Seintiau Newydd a Phen-y-bont yn y pythefnos nesaf. 

 

Dyw’r Bala ond angen un pwynt o’u chwe gêm cyn yr hollt i gyrraedd y targed o 31 o bwyntiau, sydd fel arfer yn ddigon i selio lle yn y Chwech Uchaf. 

 

Mae tîm Colin Caton wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r wyth tymor diwethaf, ac ar ôl colli dim ond un o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth mae’r Bala mewn safle da i gyrraedd y nod unwaith yn rhagor. 

 

Hon fydd y chweched gêm rhwng y clybiau yn 2022 a dyw’r Bala heb golli dim un o’r bum gêm flaenorol (ennill 4, cyfartal 1). 

 

Record cynghrair diweddar: 

Caernarfon:❌❌➖❌✅ 

Y Bala: ✅✅❌✅➖ 

 

 Cei Connah (2il) v Y Fflint (9fed) | Dydd Llun – 14:30 

 

Roedd ‘na dorcalon i Gei Connah nos Wener wrth i’r Nomadiaid ildio wedi 95 munud yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Lannau Dyfrdwy, ac felly’n cael eu gorfodi i rannu’r pwyntiau gyda’r pencampwyr (Cei 1-1 YSN). 

 

Byddai buddugoliaeth wedi golygu bod tynged y Nomadiaid yn nwylo eu hunain, ond bellach bydd angen i Gei Connah ddibynnu ar glybiau eraill i gymryd pwyntiau oddi ar Y Seintiau Newydd os am gystadlu am y bencampwriaeth. 

 

Ond does dim amser i ddigio gyda’r gemau’n dod yn gyflym, a brynhawn Llun bydd Neil Gibson yn wynebu ei gyn-glwb am y tro cyntaf ers gadael Cae-y-Castell dros yr haf. 

 

Roedd Gibson wedi arwain Y Fflint i’r 5ed safle ac i rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf, ond ar ôl gostyngiad i’r gyllideb gadawodd Gibson y clwb ar ddiwedd y tymor ac fe aeth y garfan gyfan, fwy neu lai, trwy’r drws ar ei ôl.  

 

Mae Lee Fowler wedi adeiladu carfan newydd sbon yn Y Fflint, ac wedi cyfnod o ganlyniadau siomedig roedd ‘na reswm i ddathlu nos Wener wrth i’r Sidanwyr guro Caernarfon i gadw’r freuddwyd o gyrraedd y Chwech Uchaf yn fyw. 

 

Mae Cei Connah ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn Y Fflint (ennill 6, cyfartal 1) a dyw’r Sidanwyr heb guro’r Nomadiaid yn yr uwch gynghrair ers 1997. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ➖✅ ✅➖✅
Y Fflint: ✅➖❌❌❌
 

 

Pen-y-bont (5ed) v Met Caerdydd (3ydd) | Dydd Llun – 14:30 

Gyda chwe gêm i fynd tan yr hollt, mae angen triphwynt ar Ben-y-bont i gyrraedd y targed o 31 o bwyntiau, sydd fel arfer yn ddigon i selio lle’n y Chwech Uchaf. 

 

Wedi rhediad rhagorol o bum gêm gynghrair heb golli (ennill 4, cyfartal 1) mae Met Caerdydd wedi croesi’r trothwy o 31 o bwyntiau, a bydd y myfyrwyr yn llygadu lle’n Ewrop eleni. 

 

Dyw Met Caerdydd heb gyrraedd y Chwech Uchaf ers tymor 2017/18 felly byddai’n dipyn o gamp i Ryan Jenkins gyflawni hynny yn ei dymor cyntaf fel rheolwr ar Gampws Cyncoed. 

 

Mae Pen-y-bont yn anelu i gyrraedd y Chwech Uchaf am y trydydd tymor yn olynol, ac ar ôl ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd bydd tîm Rhys Griffiths yn teimlo’n hyderus ar ddydd San Steffan. 

 

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅❌➖✅➖ 

Met Caerdydd: ✅✅➖✅✅
 

 

Pontypridd (11eg) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Llun – 14:30 

 

Bydd Hwlffordd yn ysu i sicrhau chwe phwynt yn erbyn Pontypridd cyn diwedd y flwyddyn er mwyn ceisio hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf yng nghyfnod y 12-Disglair. 

 

Dim ond pedair gêm sy’n weddill gan yr Adar Gleision cyn yr hollt, a gyda’r ddwy olaf yn erbyn Y Seintiau Newydd a Chei Connah bydd ‘na bwyslais mawr ar sicrhau buddugoliaethau yn erbyn Pontypridd dros y dyddiau nesaf. 

 

Pontypridd sydd yn cadw cwmni i Airbus UK yn y ddau safle isaf ac hynny ar ôl colli saith o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf, gyda’r unig fuddugoliaeth yn dod yn erbyn Airbus. 

 

Mae Hwlffordd wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Pontypridd, ond hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y timau yn yr uwch gynghrair. 

 

Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ❌❌❌❌❌
Hwlffordd: ✅❌❌✅✅
 

 

 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Airbus UK (12fed) | Dydd Llun – 14:30 

Roedd gôl hwyr Gwion Dafydd yn ddigon i gipio pwynt allweddol i’r Seintiau Newydd yn erbyn Cei Connah nos Wener gan gadw criw Craig Harrison bedwar pwynt yn glir o’r Nomadiaid gyda gêm wrth gefn. 

 

Dyw’r Seintiau Newydd yn dal heb golli gêm gynghrair y tymor yma, ac mae’r pencampwyr presennol bellach ar rediad o 22 gêm gynghrair heb golli (ennill 18, cyfartal 4). 

 

Bydd Airbus yn benderfynol o beidio cyrraedd yr hollt gyda llai na dim o bwyntiau, ac mae hogiau Jamie Reed mewn perygl o dorri’r record fel y clwb gwaethaf erioed yn hanes y gynghrair. 

Ar ôl derbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn erbyn Caernarfon ym mis Medi mae Airbus yn parhau ar -2 o bwyntiau ar ôl colli 15 o’u 16 gêm gynghrair ers eu dyrchafiad. 

 

Dyma’r tro cyntaf i’r clybiau gyfarfod ers i’r Seintiau dorri’r record am y fuddugoliaeth fwyaf erioed oddi cartref yn Uwch Gynghrair Cymru gan daro 12 ar y Maes Awyr ‘nôl yn Nhachwedd 2019 (Air 0-12 YSN). 

 

Ebrill 2016 oedd y tro diwethaf i Airbus guro’r Seintiau, ond mae cewri Croesoswallt wedi ennill y chwe gêm ganlynol rhwng y timau gan sgorio 33 o goliau (5.5 gôl y gêm). 

 

Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ➖✅➖✅✅
Airbus UK:❌❌❌❌❌ 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?