Golwg sydyn ar y gemau canol wythnos yn Uwch Gynghrair Cymru.
Nos Fawrth, 1 Rhagfyr
Caernarfon v Y Bala | Nos Fawrth – 19:45
Ar ôl cerdyn coch cynnar i’r golwr Josh Tibbets brynhawn Sadwrn, colli oedd hanes Caernarfon yn erbyn Hwlffordd ar yr Oval (Cfon 1-4 Hwl).
Mae tîm Huw Griffiths wedi llithro i hanner isaf y tabl am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl casglu dim ond un pwynt o’u pum gêm ddiwethaf.
Bydd Y Bala’n llawn hyder yn dilyn rhediad o wyth gêm heb golli (ennill 6, cyfartal 2) – eu cyfnod gorau ers pedair blynedd, pan aeth y clwb ar rediad o 11 o gemau heb golli.
Mae’r Bala wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon gyda’r capten Chris Venables yn rhwydo pum gôl mewn tair gêm yn erbyn y Caneris.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌➖❌❌
Y Bala: ✅➖➖✅✅
Cei Connah v Y Fflint | Nos Fawrth – 19:45
Er colli dim ond un o’u 12 gêm y tymor hwn mae Cei Connah chwe phwynt y tu ôl i’r Seintiau ar frig y tabl, ond mae gan y Nomadiaid gêm wrth gefn.
Mae’r Fflint yn parhau i fod mewn perygl yn y ddau isaf ar ôl colli naw o’u 12 gêm gynghrair hyd yma.
Y gêm ddiwethaf rhwng y clybiau oedd yn rownd wyth olaf Cwpan y Gynghrair yn Hydref 2019 – Cei Connah yn ennill 4-1 a Connor Harwood yn agor y sgorio i’r Nomadiaid cyn iddo arwyddo i’r Fflint.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ➖❌✅✅✅
Y Fflint: ❌❌❌✅❌
Hwlffordd v Aberystwyth | Nos Fawrth – 19:45
Mae Hwlffordd wedi codi i’r hanner uchaf ar ôl buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Caernarfon ddydd Sadwrn.
Dyw Aberystwyth ond wedi ennill dwy gêm y tymor hwn, a rheiny yn erbyn y ddau glwb isaf, sef Y Fflint a Derwyddon Cefn.
Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y timau ers Hydref 2016 pan enillodd Hwlffordd 1-0 yn ail rownd Cwpan y Gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ➖❌➖❌✅
Aberystwyth: ✅❌➖➖❌
Met Caerdydd v Y Drenewydd | Nos Fawrth – 19:45
Roedd hi’n fuddugoliaeth fawr i’r myfyrwyr yn erbyn Y Fflint ddydd Sadwrn gyda’r triphwynt yn codi Met Caerdydd o’r 10fed i’r 7fed safle, dim ond un pwynt o dan yr hanner uchaf.
Fel Aberystwyth, dyw’r Drenewydd ond wedi curo’r ddau isaf y tymor hwn, ac mae’r Robiniaid wedi syrthio i’r 10fed safle, dim ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp.
Dyw’r Drenewydd erioed wedi ennill oddi cartref yng Nghampws Cyncoed, a’r tîm cartref sydd wedi ennill pob un o’r saith gêm ddiwethaf rhwng y clybiau yma (ers i Met ennill 0-1 ar Barc Latham yn Rhagfyr 2016).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌✅➖❌✅
Y Drenewydd: ➖❌✅➖❌
Nos Fercher, 2 Rhagfyr
Derwyddon Cefn v Y Seintiau Newydd | Nos Fercher – 19:45
Y Derwyddon sydd ar waelod y tabl, bedwar pwynt y tu ôl i weddill y pac, ond mae gan hogiau Bruno Lopes ddwy gêm wrth gefn felly does dim angen dechrau poeni’n ormodol ar hyn o bryd.
Y Seintiau yw’r unig glwb sy’n dal heb golli gêm y tymor yma, a tydyn nhw chwaith heb golli dim un o’u 20 gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon (ennill 18, cyfartal 2).
Mae tîm Scott Ruscoe wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon gan sgorio 22 o goliau (Greg Draper yn sgorio naw o’r goliau rheiny).
Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌✅❌❌➖
Y Seintiau Newydd: ✅➖✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau i’w gweld ar Mwy o Sgorio nos Fercher am 9:40.