S4C

Navigation

Saith rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn nghynghrair y Cymru Premier JD ac mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn poethi. 

 

Wedi 22 rownd o gemau bydd y tabl yn hollti’n ddwy a bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop tra bydd y Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair. 

 

Ar gyfartaledd, mae 31 o bwyntiau wedi bod yn ddigon i sicrhau lle’n y Chwech Uchaf, ac mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah eisoes wedi pasio’r marc hwnnw. 

 

Y tu ôl i’r ddau uchaf mae ‘na chwe chlwb yn cystadlu am y pedwar safle nesaf gyda dim ond saith pwynt yn gwahanu’r timau rhwng y 3ydd a’r 8fed safle. 

 

 Dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr  

 Cei Connah (2il) v Aberystwyth (9fed) | Dydd Sadwrn – 13:00  

 

Wedi rhediad o 14 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 13, cyfartal 1), mae’n edrych fel bod Cei Connah wedi gwneud digon i sicrhau lle’n y Chwech Uchaf eleni, a cyn yr hollt bydd tîm Neil Gibson yn benderfynol o gau’r bwlch o saith pwynt sydd yn eu gwahanu nhw a’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd. 

 

Bydd angen i Aberystwyth godi eu pennau yn sydyn ar ôl dioddef eu colled drymaf erioed mewn dros 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru y penwythnos diwethaf (YSN 11-0 Aber). 

 

Dyw’r Gwyrdd a’r Duon heb ennill oddi cartref yn y gynghrair ers curo Airbus ar y penwythnos agoriadol (Air 1-2 Aber), gan golli pob un o’u chwe gêm oddi cartref yn y gynghrair ers hynny. 

 

Ond Aberystwyth yw’r tîm diwethaf i guro Cei Connah (Aber 2-1 Cei), felly bydd Anthony Williams yn gobeithio y gall ei garfan achosi sioc arall ddydd Sadwrn. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ✅➖✅✅✅
Aberystwyth: ❌✅❌✅
 

 Y Fflint (10fed) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sadwrn – 13:00 

 

Ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol, mae’r Fflint wedi stryffaglu gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 13 gêm gynghrair ers hynny, a’r ddwy yn erbyn Airbus UK sydd ar waelod y tabl. 

 

Mae’r Fflint wedi colli eu pum gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, yn cynnwys eu colled o 1-0 yn erbyn Y Bala nos Wener diwethaf, er gwaetha’r ffaith bod tîm Lee Fowler wedi chwarae dros awr o’r gêm gyda dyn yn ychwanegol yn dilyn cerdyn coch cynnar i Nathan Peate. 

Roedd ‘na gerdyn coch cynnar yn y gêm gyfatebol rhwng y ddau dîm yma hefyd, gydag amddiffynnwr Y Fflint, Anthony Stephens yn cael ei hel o’r maes yn yr hanner cyntaf cyn i Lewis Rees sgorio unig gôl y gêm i Met Caerdydd ar Gampws Cyncoed ym mis Medi (Met 1-0 Fflint). 

Ac er ennill ym Mhontypridd y penwythnos diwethaf, does gan Met Caerdydd ddim record wych oddi cartref (colli 5 o’u 7 gêm oddi cartref ddiwethaf yn y gynghrair), a dyw’r myfyrwyr heb ennill gêm gynghrair yng ngogledd Cymru ers dros flwyddyn (Cefn 1-3 Met).  

Enillodd Met Caerdydd ar Gae-y-Castell ym mis Tachwedd 2020 (Fflint 0-1 Met), ond ers hynny dyw bechgyn y brifddinas ond wedi ennill dwy o’u 18 gêm gynghrair yn y gogledd, a’r ddwy yn erbyn Derwyddon Cefn. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ❌❌❌❌✅
Met Caerdydd: ✅✅❌❌✅
 

 Dydd Sul, 11 Rhagfyr  

 Caernarfon (6ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sul – 14:30 

 

Ar ôl cyfnod anodd o bedair gêm heb ennill ym mhob cystadleuaeth (colli 3, cyfartal 1), mae Caernarfon wedi llithro i’r 6ed safle ac mewn perygl gwirioneddol o syrthio i hanner isaf y tabl am y tro cyntaf ers mis Awst. 

 

Bydd Y Seintiau Newydd yn hynod o hyderus yn dilyn eu buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Aberystwyth nos Wener (YSN 11-0 Aber), ac wedi dim ond 15 gêm mae’r tîm sydd ar frig y tabl wedi sgorio 52 o goliau, sydd ddwywaith y nifer o goliau sydd gan Gei Connah (2il). 

 

Mae cewri Craig Harrison yn dechrau’r penwythnos saith pwynt yn glir ar frig y tabl, ac mae’r pencampwyr bellach ar rediad o 21 gêm gynghrair heb golli (ennill 18, cyfartal 3). 

Mae’r Seintiau eisioes wedi curo Caernarfon ddwywaith yn barod y tymor hwn, a dyw’r Caneris heb ennill dim un o’u 10 gêm ddiwethaf yn erbyn y Seintiau (colli 9, cyfartal 1), ond bydd Huw Griffiths yn awyddus i newid y drefn a curo’r criw o Groesoswallt am y tro cyntaf yn ei yrfa fel rheolwr. 

 

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌➖❌✅❌ 

Y Seintiau Newydd: ✅➖✅✅✅
 

 

Pen-y-bont (4ydd) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sul – 14:30 

Mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah wedi torri’n glir ar frig y tabl, ond gan bod gorffen yn y 3ydd safle wedi bod yn ddigon i selio lle’n Ewrop ym mhob un o’r wyth tymor diwethaf, mae ‘na frwydr gyffrous arall yn datblygu yn yr hanner uchaf.  

 

Triphwynt yn unig sydd rhwng Y Bala, Pen-y-bont a Met Caerdydd, ac mae hynny’n profi pa mor gostus oedd y golled i Ben-y-bont yn Hwlffordd y penwythnos diwethaf (Hwl 2-1 Pen). 

 

Airbus yw’r unig dîm sydd eto i ennill gêm gynghrair y tymor yma ac mae Hogiau’r Maes Awyr yn dechrau’r penwythnos 17 pwynt tu ôl i ddiogelwch y 10fed safle. 

 

Ond roedd ‘na reswm prin i ddathlu yn ystod eu colled yn erbyn Cei Connah nos Wener wrth i eilydd ifanc Airbus, Kaiden Cooke ddod y chwaraewr ieuengaf i sgorio yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010. 

 

Does gan Pen-y-bont ond un buddugoliaeth yn eu pum gêm gynghrair ddiwethaf, ond bydd Rhys Griffiths yn ffyddiog o sicrhau’r triphwynt brynhawn Sul ar ôl ennill eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Airbus UK. 

 

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌➖✅➖❌ 

Airbus UK: ❌❌❌❌❌ 

 

 Pontypridd (11eg) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sul – 14:30 

Mae Pontypridd wedi llithro i safleoedd y cwymp ar ôl colli pump o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf, gyda’r unig fuddugoliaeth yn dod yn erbyn Airbus UK. 

 

Roedd hi’n fuddugoliaeth gwerthfawr i’r Bala yn erbyn Y Fflint nos Wener gyda criw Colin Caton yn codi i’r 3ydd safle gyda’u pedwaredd buddugoliaeth gartref a’u pedwaredd llechen lân gartref yn olynol. 

 

Mae dros flwyddyn wedi pasio ers i’r clybiau gyfarfod am y tro cyntaf erioed yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru ble enillodd Y Bala’n ddi-drafferth (Bala 5-0 Pont), a bydd y timau’n mynd benben yn y gwpan unwaith eto fis nesaf ym mhedwaredd rownd y gystadleuaeth. 

 

Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ❌❌❌✅❌
Y Bala: ✅❌✅➖✅ 

 

 Y Drenewydd (8fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sul – 14:30 (S4C arlein) 

 

Mae hon yn gaddo i fod yn gêm allweddol yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf gyda’r ddau glwb yn hafal yn y tabl, dau bwynt y tu ôl i Gaernarfon (6ed) sydd yn herio’r Seintiau Newydd y penwythnos yma. 

 

Mae’r ddau glwb wedi troi’r gornel ar ôl dechrau digon diflas i’r tymor, ac mae’r Drenewydd wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf, ac Hwlffordd hefyd wedi ennill tair yn olynol. 

 

Ers eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Seintiau Newydd ar y penwythnos agoriadol mae’r Drenewydd wedi llechu yn hanner isaf y tabl ac heb gadw llechen lân mewn 16 gêm ym mhob cystadleuaeth. 

 

Y Drenewydd oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ‘nôl ym Mis Medi gydag Aaron Williams yn sgorio ddwywaith yn yr ail hanner i gipio’r pwyntiau i dîm Chris Hughes (Hwl 2-3 Dre), a dyw’r Robiniaid ond wedi colli un o’u wyth gêm gartref ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ✅✅✅❌❌ 

Hwlffordd: ✅✅✅❌❌
 

 Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:05. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?