10 rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn nghynghrair y Cymru Premier JD ac mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn dechrau poethi.
Wedi 22 rownd o gemau bydd y tabl yn hollti’n ddwy a bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop tra bydd y Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair.
Nos Wener, 4 Tachwedd
Y Bala (3ydd) v Aberystwyth (8fed) | Nos Wener – 19:45
Wedi 12 gêm mae’r Bala’n hafal ar bwyntiau gyda Chaernarfon a Phen-y-bont yn y 3ydd safle, 13 o bwyntiau y tu ôl i’r Seintiau Newydd, ac efallai bod y freuddwyd o gipio’r bencampwriaeth wedi llithro o’u gafael yn barod.
Er hynny, mae’r Bala mewn safle da i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y nawfed tymor yn olynol, tra bod Aberystwyth yn dechrau’r penwythnos driphwynt y tu ôl i Met Caerdydd yn y 6ed safle.
Dyw Aberystwyth heb lwyddo i gyrraedd y Chwech Uchaf ers tymor 2014/15, ond mae’r criw o Geredigion yn un o ddim ond dau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd).
Mae Aberystwyth wedi ennill eu pedair gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair o 2-1, ond dyw tîm Anthony Williams heb ennill oddi cartref yn y gynghrair ers curo Airbus ar y penwythnos agoriadol (Air 1-2 Aber).
Mae’r Bala wedi ennill saith o’u naw gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, gyda’r unig golled yn ystod y rhediad hwnnw yn dod yn erbyn y pencampwyr, Y Seintiau Newydd.
Dyw Aberystwyth heb gadw llechen lân yn y gynghrair eleni, ac mae’r Bala ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon (ennill 7, cyfartal 1).
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖✅❌✅✅
Aberystwyth: ✅ ❌✅❌✅
Dydd Sadwrn, 5 Tachwedd
Y Drenewydd (11eg) v Airbus UK (12fed) | Dydd Sadwrn – 12:30
Mae’r Drenewydd wedi llithro ‘nôl i safleoedd y cwymp i gadw cwmni i Airbus UK sydd yn bell y tu ôl i weddill y pac ar ôl casglu dim ond un pwynt o’u 12 gêm hyd yma, ond yna colli triphwynt am chwarae chwaraewr anghymwys.
Mae Airbus felly ar -2 o bwyntiau erbyn hyn, ond bydd tîm Jamie Reed yn obeithiol cyn mentro i Barc Latham gan mae’r Drenewydd yw’r unig glwb i ollwng pwyntiau yn erbyn Airbus yn y gynghrair y tymor yma.
Fe orffenodd hi’n 4-4 mewn gêm gyffrous rhwng y ddau glwb ar y Maes Awyr ym mis Medi, ble sgoriodd Airbus hanner eu goliau cynghrair y tymor yma (wyth gôl mewn 12 gêm).
Dyw’r Drenewydd ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf (colli 5, cyfartal 1), a dyw’r Robinaid chwaith ond wedi ennill un o’u saith gêm gartref ddiwethaf yn y gynghrair (colli 5, cyfartal 1).
Mae tîm Chris Hughes wedi sicrhau eu lle’n Ewrop yn y ddau dymor diwethaf, ac wedi gorffen yn y Chwech Uchaf yn y ddau dymor cyn hynny, ond er yr holl lwyddiant diweddar, osgoi’r cwymp bydd y prif darged i’r Drenewydd eleni – ond efallai bod y mynydd honno yn un rhy fawr i Airbus ei dringo erbyn hyn.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌❌✅❌❌
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Caernarfon (4ydd) v Pen-y-bont (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Caernarfon a Pen-y-bont yn hafal ar bwyntiau yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf a’r frwydr i sicrhau lle’n Ewrop.
Mae gorffen yn y 3ydd safle wedi bod yn ddigon i selio lle’n Ewrop ym mhob un o’r wyth tymor diwethaf, a gan mae dim ond y ddau uchaf yn y gynghrair sydd wedi llwyddo i guro Pen-y-bont y tymor yma (YSN a Cei Connah), dyw anelu am y tri uchaf ddim yn darged rhy uchelgeisiol i’r gleision.
Ar ôl gorfod dibynnu ar eu canlyniadau cartref i gasglu eu pwyntiau eleni (ennill 6 o’u 7 gêm ar yr Oval) roedd y Cofis yn falch o gael ennill oddi cartref am y tro cyntaf y tymor yma yn erbyn Met Caerdydd y penwythnos diwethaf (Met 0-3 Cfon).
Mae’r Cofis wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont ac hynny heb ildio gôl, felly bydd Huw Griffiths yn ysu i allu parhau â’r record hwnnw er mwyn cymryd cam yn nes at selio lle yn y Chwech Uchaf.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅❌✅✅❌
Pen-y-bont: ➖❌✅➖➖
Y Fflint (7fed) v Hwlffordd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl ennill eu dwy gêm agoriadol mae’r Fflint wedi stryffaglu gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 10 gêm gynghrair, a’r ddwy yn erbyn Airbus UK sydd ar waelod y tabl.
A gyda dim ond un buddugoliaeth yn eu 11 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth mae’r hwyliau’n isel yng nghamp Hwlffordd hefyd.
Mae Hwlffordd yn dechrau’r penwythnos yn hafal ar bwyntiau gyda’r Drenewydd (11eg) ar ôl ennill dim ond tair o’u 12 gêm gynghrair hyd yma.
Roedd yr Adar Gleision ar frig y gynghrair wedi’r dair gêm agoriadol, ond ers hynny mae Hwlffordd wedi colli saith o’u naw gêm gynghrair yn ogystal â cholli yn erbyn timau o’r adrannau îs yng Nghwpan Nathaniel MG ac yng Nghwpan Cymru.
Mae’r Fflint wedi ennill eu dwy gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, a gyda dim ond triphwynt yn gwahanu’r Sidanwyr a Met Caerdydd (6ed) byddai buddugoliaeth arall yn gallu codi tîm Lee Fowler i’r Chwech Uchaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌✅❌➖❌
Hwlffordd: ❌❌❌❌✅
Y Seintiau Newydd (1af) v Met Caerdydd (6ed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C arlein)
Mae’r Seintiau Newydd saith pwynt yn glir ar frig y tabl, ac mae’r pencampwyr bellach ar rediad o 18 gêm gynghrair heb golli (ennill 16, cyfartal 2).
Ers eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Drenewydd ar y penwythnos agoriadol mae’r Seintiau wedi ennill 11 gêm gynghrair yn olynol, a dyw’r clwb o Groesoswallt ond wedi colli un o’u 31 gêm ddiwethaf yn y Cymru Premier JD (YSN 0-1 Dre).
Yn ystod y rhediad hwnnw mae’r Seintiau wedi ennill 26 gêm, colli unwaith a chael pedair gêm gyfartal, gyda un o rheiny yn erbyn eu gwrthwynebwyr y penwythnos yma (Met 1-1 YSN – 26/02/22).
Does gan Met Caerdydd ddim record wych oddi cartref (colli 4 o’u 5 gêm oddi cartref ddiwethaf yn y gynghrair), a dyw’r myfyrwyr heb ennill gêm gynghrair yng ngogledd Cymru ers Rhagfyr 2021 (Cefn 1-3 Met).
Enillodd Met Caerdydd yn Neuadd y Parc ym mis Rhagfyr 2019 (YSN 1-2 Met), ond ers hynny dyw bechgyn y brifddinas ond wedi ennill tair o’u 20 gêm gynghrair yn y gogledd (Ffl 0-1 Met, Cefn 1-2 Met, Cefn 1-3 Met).
Mae’r Seintiau ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn Met Caerdydd (ennill 4, cyfartal 1) yn cynnwys eu buddugoliaeth swmpus ar Gampws Cyncoed yn gynharach y tymor hwn (Met 0-7 YSN).
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Met Caerdydd: ❌✅❌✅❌
Dydd Sul, 6 Tachwedd
Pontypridd (9fed) v Cei Connah (2il) | Dydd Sul – 14:00
Mae Cei Connah wedi torri’n glir yn yr ail safle ar ôl ennill naw gêm yn olynol gan ildio dim ond ddwywaith yn ystod y rhediad rhagorol hwnnw.
Dringodd Pontypridd i’r 9fed safle ar ôl trechu Airbus o bedair i ddim ym Mrychdyn brynhawn Sadwrn diwethaf gyda Ben Ahmun yn rhwydo hatric yn yr hanner cyntaf i’r ymwelwyr.
Mae tîm Andrew Stokes wedi profi eu bod yn sicr yn barod i ymladd i gadw eu lle yn yr uwch gynghrair, ond dyw Pontypridd heb ennill dwy gêm gynghrair yn olynol ers eu dyrchafiad.
Cei Connah enillodd y gêm gyfatebol gyda Michael Wilde yn rhwydo unig gôl y gêm yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ‘nôl ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ✅❌❌✅➖
Cei Connah: ✅✅✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:30.