S4C

Navigation

Yn dilyn cyffro ail rownd Cwpan Cymru JD y penwythnos diwethaf bydd y sylw’n troi yn ôl at y gynghrair y penwythnos hwn ac mae yna gemau allweddol o’n blaenau ni yn y Cymru Premier JD. 

 

Wedi 22 rownd o gemau bydd y gynghrair yn hollti’n ddwy, a nawr ein bod ni chwarter ffordd i mewn i’r tymor bydd y ras i gyrraedd yr hanner uchaf yn dechrau poethi, gan bod cyrraedd y Chwech Uchaf yn sicrhau lle’r clybiau yn y gynghrair am dymor arall, ac yn selio lle yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop. 

 

 

Nos Wener, 14 Hydref  

 Caernarfon (6ed) v Y Fflint (7fed) | Nos Wener – 19:45 

 

Mae Caernarfon a’r Fflint wedi sicrhau eu lle yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Mynydd Y Fflint a Chaersws y penwythnos diwethaf. 

 

Ond bydd yr her yn dipyn anoddach i’r clybiau yn y rownd nesaf gan i’r timau gael eu dethol oddi cartref yn erbyn y ddau glwb cryfaf yn y gystadleuaeth (Y Seintiau Newydd v Caernarfon / Y Bala v Y Fflint). 

 

Mae Caernarfon a’r Fflint yn hafal ar bwyntiau yng nghanol y tabl, ond mae gan y Cofis gêm wrth gefn yn dilyn eu hantur yng Nghwpan Her yr Alban. 

 

Mae gan Gaernarfon record gryf yn erbyn Y Fflint gyda’r Cofis wedi ennill chwech o’r saith gêm yn erbyn Y Fflint ers i’r Sidanwyr esgyn i’r uwch gynghrair, yn cynnwys buddugoliaeth y Caneris yn rownd derfynol y gemau ail gyfle y tymor diwethaf (Cfon 2-1 Fflint w.a.y). 

 

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌✅✅❌
Y Fflint: ➖❌➖➖❌

 

Pontypridd (9fed) v Y Drenewydd (11eg) | Nos Wener – 19:45  

 

Ar ôl dechrau digon anodd i’r tymor roedd Pontypridd a’r Drenewydd yn falch o gael troi eu sylw at y gwpan y penwythnos diwethaf, gyda buddugoliaethau yn erbyn Casgwent a Corries Caerdydd. 

 

Bydd y ddau dîm yn chwarae oddi cartref yn y rownd nesaf gyda’r Drenewydd yn wynebu taith i Aberystwyth a Phontypridd yn mentro i Rhuthun. 

 

Dau bwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb yn hanner isa’r tabl gyda’r ddau dîm wedi colli pump o’u naw gêm gynghrair hyd yma. 

 

Mae ‘na chwe blynedd ers i’r timau gyfarfod ddiwethaf ym mis Medi 2016 gyda’r Drenewydd yn ennill y gêm honno yng Nghwpan y Gynghrair (Pont 2-4 Dre). 

 

Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ✅➖❌✅❌
Y Drenewydd: ❌❌➖❌✅ 

 

 

Aberystwyth (10fed) v Hwlffordd (8fed) | Nos Wener – 20:00 (S4C arlein) 

 

Roedd ‘na siom i Hwlffordd yng Nghwpan Cymru wrth i dîm Tony Pennock golli 2-1 yn erbyn Adar Gleision Trethomas o’r drydedd haen. 

 

Llwyddodd Aberystwyth i osgoi croen banana gan ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn Pencoed Athletic o’r bedwaredd haen. 

 

Dau bwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb yn yr hanner isaf gyda Hwlffordd ac Aberystwyth wedi ennill dim ond tair o’u naw gêm gynghrair hyd yn hyn. 

 

Roedd Hwlffordd wedi mwynhau eu hymweliad diwethaf â Choedlan y Parc gan ennill 0-6 oddi cartref yn Aberystwyth ym mis Mawrth, ond fis yn ddiweddarach fe gollodd yr Adar Gleision gartref yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon (Hwl 0-1 Aber). 

 

Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌✅❌✅❌
Hwlffordd: ❌✅➖❌❌

 

Dydd Sadwrn, 15 Hydref  

  

Airbus UK (12fed) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Ar ôl methu ag ennill dim un o’u naw gêm gynghrair, ac ar ôl diswyddo eu rheolwr Steve O’Shaughnessy, roedd na siom pellach i Airbus yr wythnos ddiwethaf wrth i’r clwb dderbyn triphwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys yn eu gêm yn erbyn Caernarfon. 

 

Bellach mae bechgyn Brychdyn ar -2 o bwyntiau, 11 pwynt tu ôl i ddiogelwch y 10fed safle gyda mynydd i’w ddringo os am osgoi syrthio’n syth yn ôl i Gynghrair y Gogledd. 

 

Ond fe gafodd Airbus reswm i ddathlu ddydd Sadwrn wrth i Hogiau’r Maes Awyr ennill 3-0 oddi cartref yn erbyn Queens Park i gamu ‘mlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru i wynebu Trefelin. 

 

Bydd Pen-y-bont yn teithio i Gonwy ar gyfer y drydedd rownd ar ôl curo Rhisga a bydd tîm Rhys Griffiths yn llawn hyder brynhawn Sadwrn ar ôl ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Airbus UK. 

 

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌❌➖❌❌ 

Pen-y-bont: ➖➖✅✅❌ 

 

 

Cei Connah (2il) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Roedd ‘na embaras i Met Caerdydd brynhawn Sadwrn wrth i’r myfyrwyr golli 2-1 yn erbyn Pill o bedwaredd haen y pyramid pêl-droed. 

 

Cafodd Cei Connah ddim trafferth gan drechu Dinbych yn gyfforddus ar Barc Canol (Din 1-5 Cei) a gwobr y Nomadiaid yw gêm gartref yn erbyn Bae Colwyn yn y rownd nesaf. 

 

Yn ei gêm gynghrair gyntaf wrth y llyw i Met Caerdydd fe lwyddodd Ryan Jenkins i arwain y myfyrwyr i guro Cei Connah yn y gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes (Met 2-0 Cei). 

 

Cyn y fuddugoliaeth honno ar benwythnos agoriadol y tymor yma, doedd Met Caerdydd heb ennill dim un o’u 18 gêm gynghrair flaenorol yn erbyn Cei Connah (cyfartal 7, colli 11). 

 

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅❌✅
Met Caerdydd: ✅❌❌❌✅

Y Bala (3ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Bala a’r Seintiau ymlaen i drydedd rownd Cwpan Cymru – Y Bala’n curo Penarlâg yn gyfforddus, ond Y Seintiau braidd yn ffodus ar ôl ennill ar giciau o’r smotyn yn erbyn Y Waun. 

Dyma’r ddau dîm orffennodd uchaf yn y tabl y tymor diwethaf, ac mae’r ddau glwb ar rediad da gyda’r Bala wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth a’r Seintiau wedi ennill eu pum gêm gynghrair ddiwethaf. 

Dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 10 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 6, cyfartal 4), ond bydd angen i griw Colin Caton newid y drefn os am beidio colli gafael ar y ceffylau blaen. 

 

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅✅✅➖✅ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
 

 

 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:05. 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?