Wedi wyth gêm gynghrair mae tabl y Cymru Premier JD yn dechrau siapio i’w drefn cyfarwydd gyda’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont, Cei Connah a’r Bala yn hawlio’r pedwar safle uchaf.
Mae’r pencampwyr presennol, Y Seintiau Newydd wedi torri triphwynt yn glir ar gopa’r cynghrair gyda gêm wrth gefn, tra bod Airbus UK chwe phwynt y tu ôl gweddill y pac ar waelod y domen.
Nos Wener, 30 Medi
Airbus UK (12fed) v Y Bala (4ydd) | Nos Wener – 19:45 (S4C arlein)
Gyda dim ond un pwynt o’u wyth gêm agoriadol ac ar ôl colli gêm allweddol yn erbyn Aberystwyth nos Fawrth mae pethau’n edrych yn ddu ar Airbus ar waelod y tabl.
Wedi bron i bum mlynedd wrth y llyw ar y Maes Awyr fe gafodd Steve O’Shaughnessy ei ddiswyddo fel rheolwr Airbus y penwythnos diwethaf, a bydd yr is-reolwr, Mark Allen yn camu i’r bwlch tra bod y clwb yn chwilio am reolwr newydd.
Mawrth 2016 oedd y tro diwethaf i Airbus guro’r Bala, ac hynny o 3-0 yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru, ar eu ffordd i’r rownd derfynol am yr unig dro yn eu hanes.
Ers hynny, dyw’r Bala heb golli mewn pum gêm yn erbyn bechgyn Brychdyn (ennill 4, cyfartal 1) yn cynnwys eu buddugoliaeth o 1-0 y tro diwethaf i’r timau gyfarfod gyda Chris Venables yn sgorio unig gôl y gêm wedi 95 munud ym mis Tachwedd 2019.
Ar ôl ennill dim ond un o’u pedair gêm agoriadol eleni, mae’r Bala wedi dechrau dringo’r tabl yn dilyn rhediad o bum gem heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 4, cyfartal 1).
Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌➖❌❌❌
Y Bala: ✅✅➖✅❌
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Drenewydd (10fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Craig Harrison wedi setlo’n sydyn ers dychwelyd i Neuadd y Parc, a gyda’r Seintiau wedi sgorio 13 o goliau yn eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf mae’r pencampwyr yn edrych yn hynod beryglus eto eleni.
Dyw’r Drenewydd, ar y llaw arall, heb argyhoeddi hyd yma, ac ar ôl ennill dim ond dwy o’u wyth gêm agoriadol dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r Robiniaid a safleoedd y cwymp.
Ond Y Drenewydd yw’r unig glwb i gymryd pwynt oddi ar Y Seintiau Newydd y tymor yma, ac hynny wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn y pencampwyr ar y penwythnos agoriadol.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Y Drenewydd: ❌➖❌✅✅
Dydd Sadwrn, 1 Hydref
Cei Connah (3ydd) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth gan gadw tair llechen lân yn olynol, mae Cei Connah wedi camu i’r trydydd safle.
Wedi rhediad o bum gêm heb ennill daeth Hwlffordd a’u rhediad hesb i ben gyda buddugoliaeth gadarn gartref yn erbyn Met Caerdydd nos Fawrth (Hwl 1-0 Met).
Mae Cei Connah ar rediad o naw gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd (ennill 7, cyfartal 2), ac mae angen mynd ‘nôl i Awst 2003 ar gyfer eu colled ddiwethaf gartref yn erbyn yr Adar Gleision.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅❌✅✅
Hwlffordd: ✅➖❌❌❌
Met Caerdydd (6ed) v Aberystwyth (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae cyffro dechrau’r tymor wedi pylu yn y brifddinas gyda Met Caerdydd bellach ar rediad o dair colled yn olynol yn y gynghrair ac heb sgorio mewn pump awr o chwarae.
Roedd hi’n fuddugoliaeth fawr i Aberystwyth nos Fawrth wrth i dîm Anthony Williams drechu Airbus a dringo allan o’r ddau safle isaf (Aber 2-1 Air).
Mae Met Caerdydd eisoes wedi curo Aberystwyth ddwywaith y tymor yma ac hynny mewn gêm gynghrair ac yng Nghwpan Nathaniel MG, a dyw’r myfyrwyr ond wedi colli un o’u 12 gêm ddiwethaf yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon (ennill 8, cyfartal 3).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌❌❌✅✅
Aberystwyth: ✅❌✅❌❌
Pontypridd (11eg) v Caernarfon (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n bwynt da i Bontypridd oddi cartref ym Mhen-y-bont nos Fawrth (Pen 1-1 Pont), a bydd angen i dîm Andrew Stokes adeiladu ar hynny os am ddringo o’r ddau safle isaf.
Mae’r goliau wedi bod yn brin i’r newydd-ddyfodiaid sydd ond wedi sgorio pedair gôl mewn wyth gêm ers esgyn i’r uwch gynghrair.
Caernarfon oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ‘nôl ym mis Awst gyda Sion Bradley a Joe Faux yn sgorio dwy gôl mewn tri munud yn yr ail hanner i gipio’r pwyntiau.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ➖❌✅❌❌
Caernarfon: ❌✅✅❌✅
Y Fflint (8fed) v Pen-y-bont (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30
Wedi’r dryswch ynglyn â mesuriadau cae newydd Y Fflint cafwyd cadarnhad yr wythnos yma bod dim byd o’i le gyda’r arwyneb yng Nghae-y-Castell, ac felly fe geith tîm Lee Fowler chwarae gartref y penwythnos yma.
Cafodd Y Fflint ddechrau gwych i’r tymor gan ennill tair allan o bedair, ond bellach mae nhw wedi llithro i’r 8fed safle ar ôl pedair gêm gynghrair heb fuddugoliaeth.
Pen-y-bont enillodd y gêm gyfatebol yn gynharach yn y tymor gyda Rhys Griffiths yn penio’r gôl fuddugol yn Stadiwm Gwydr SDM (Pen 2-1 Ffl), ond mae’r Fflint wedi ennill eu tair gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌➖➖❌✅
Pen-y-bont: ➖✅✅❌✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.