S4C

Navigation

Gan y bydd y ddau uchaf yn brysur yn cystadlu yng Nghwpan Her yr Alban, mae cyfle i’r clybiau eraill gau’r bwlch ar Y Seintiau Newydd a Chaernarfon ar frig y Cymru Premier JD y penwythnos yma. 

 

 

Nos Wener, 23 Medi 

 

Airbus UK (12fed) v Y Drenewydd (9fed) | Nos Wener – 19:45  

 

Mae dechrau difrifol Airbus yn parhau gyda’r newydd-ddyfodiaid wedi colli pob un o’u chwe gêm ers esgyn yn ôl i’r uwch gynghrair. 

 

Mae Airbus wedi codi i’r gynghrair eleni ar draul Derwyddon Cefn, clwb orffennodd y tymor diwethaf gyda dim ond naw pwynt ar ôl methu ag ennill gêm gynghrair tan fis Mawrth, a bydd Steve O’Shaughnessy yn awyddus bod ei dîm yn osgoi tynged tebyg y tymor hwn. 

 

Dyw pethau heb fynd yn esmwyth i’r Drenewydd chwaith gyda’r Robiniaid yn eistedd dim ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp yn dilyn eu colled gartref yn erbyn Pen-y-bont brynhawn Sadwrn (Dre 2-3 Pen). 

 

Enillodd Y Drenewydd o 7-0 ar y Maes Awyr ‘nôl ym mis Ebrill 2017, ond mae criw Chris Hughes wedi methu a sgorio yn eu dwy gêm yn erbyn Airbus UK ers y fuddugoliaeth swmpus honno. 

 

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌❌❌❌❌
Y Drenewydd: ❌✅✅❌❌

 

Pen-y-bont (3ydd) v Aberystwyth (11eg) | Nos Wener – 19:45  

 

Mae Pen-y-bont yn un o dri chlwb sy’n dechrau’r penwythnos bedwar pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd ar ôl ennill pedair a cholli dwy o’u gemau cynghrair hyd yma (hafal â Chaernarfon a Met Caerdydd). 

 

Aberystwyth achosodd y sioc fwyaf y penwythnos diwethaf drwy ddod a’u rhediad o bedair colled yn olynol i ben gyda buddugoliaeth o 2-1 gartref yn erbyn Cei Connah. 

 

Ond roedd ‘na siom i’r ddau dîm yma yng Nghwpan Nathaniel MG nos Fawrth gan i Ben-y-bont golli 1-2 gartref yn Rhydaman, ac Aberystwyth yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Met Caerdydd. 

 

Dyw Aberystwyth erioed wedi ennill oddi cartref yn erbyn Pen-y-bont, ac fe enillodd hogiau Rhys Griffiths eu dwy gêm gynghrair yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon y tymor diwethaf heb ildio gôl (Aber 0-3 Pen, Pen 4-0 Aber). 

 

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅❌✅✅❌
Aberystwyth: ✅❌❌❌❌
  

Dydd Sadwrn, 24 Medi  

 

 

Cei Connah (6ed) v Pontypridd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Teg dweud y byddai Cei Connah wedi gobeithio bod ychydig yn dynnach ar sodlau’r Seintiau Newydd wedi dim ond chwe gêm y tymor hwn. 

 

Er ennill eu tair gêm gartref heb ildio gôl mae’r Nomadiaid saith pwynt y tu ôl i’r pencampwyr ar ôl colli pob un o’u tair gêm oddi cartref (yn erbyn Met, YSN ac Aber). 

 

Ar ôl curo Airbus mewn gêm allweddol tua’r gwaelod y penwythnos diwethaf, byddai buddugoliaeth arall i Bontypridd yn eu codi’n hafal ar bwyntiau gyda Chei Connah. 

 

Dyw Pontypridd ond wedi sgorio tair gôl mewn chwe gêm hyd yma, a gyda Chei Connah wedi bod mor gadarn yn eu gemau cartref mae’n siwr mae’r Nomadiaid fydd y ffefrynnau yn y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau dîm yma. 

 

Enillodd Cei Connah 1-0 gartref yn erbyn Treffynnon yng Nghwpan Nathaniel MG nos Fawrth tra mae colli 2-0 oedd hanes Pontypridd yn erbyn Lido Afan o’r ail haen. 

 

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ❌✅✅❌✅
Pontypridd: ✅❌❌✅❌
 

 

 

Hwlffordd (8fed) v Y Fflint (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Mae Hwlffordd yn parhau i lithro’n raddol i lawr y tabl ar ôl colli eu trydedd gêm gynghrair yn olynol y penwythnos diwethaf (Cfon 2-1 Hwl), ac hynny cyn colli eto yn erbyn Ffynnon Taf yn y gwpan nos Fawrth. 

 

Roedd yr Adar Gleision ar gopa’r gynghrair wedi eu tair gêm agoriadol, ond bellach dim ond un pwynt sy’n gwahanu tîm Tony Pennock a safleoedd y cwymp. 

 

Camodd Y Fflint ymlaen i rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Rhuthun nos Fercher. 

 

Mae’r Fflint wedi ennill eu dwy gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, ond wedi methu a sgorio ar eu dau hymweliad diwethaf â Dôl-y-Bont. 

 

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌❌❌✅➖
Y Fflint: ➖❌✅❌✅
 

 

 

 

Y Bala (7fed) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Mae Met Caerdydd wedi ennill pedair o’u chwe gêm gynghrair heb ildio gôl, ond pan mae’r myfyrwyr yn colli mae nhw’n colli mewn steil. 

 

Dioddefodd y myfyrwyr eu colled drymaf erioed yn y gynghrair y penwythnos diwethaf gan ildio saith gwaith gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd (Met 0-7 YSN). 

 

Ychwanegwch hynny at y golled o 5-1 yn erbyn Caernarfon ym mis Awst ac mae tîm Ryan Jenkins wedi ildio 12 gôl mewn dim ond dwy gêm. 

 

Ond mae’r myfyrwyr yn parhau bedwar pwynt uwchben Y Bala sydd ond wedi ennill dwy o’u chwe gêm gynghrair y tymor yma ar ôl ildio’n hwyr yn erbyn Y Fflint y penwythnos diwethaf (Ffl 1-1 Bala). 

 

Bydd y ddau dîm yn cystadlu yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG wedi i’r Bala guro Caernarfon nos Fawrth a Met Caerdydd yn trechu Aberystwyth. 

 

Doedd dim posib gwahanu’r timau y tymor diwethaf gan i’r ddwy gêm orffen yn ddi-sgôr, ond bydd prif sgoriwr y Cymru Premier JD, Sam Jones yn ysu i ychwanegu at ei chwe gôl gynghrair i’r Met brynhawn Sadwrn. 

 

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ➖✅❌✅➖
Met Caerdydd: ❌✅✅❌✅
 

 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:00. 

 

 

 

Meilyr Williams

Author Meilyr Williams

More posts by Meilyr Williams
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?