S4C

Navigation

**Yn dilyn cyhoeddiad gan y Gymdeithas Bêl-droed bod gemau’r penwythnos wedi eu gohirio yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, ni fydd darllediadau gan Sgorio y penwythnos hwn.**

 

Y Seintiau Newydd a Met Caerdydd sy’n gosod y safon wrth i ni baratoi am benwythnos llawn o gemau yn y Cymru Premier JD. 

 

 

Nos Wener, 9 Medi 

Y Fflint (4ydd) v Aberystwyth (11eg) | Nos Wener – 19:45  

Ar ôl pum gêm oddi cartref yn olynol, bydd Y Fflint yn chwarae ar eu cae 4G newydd am y tro cyntaf yng Nghae-y-Castell nos Wener. 

 

Bellach mae naw allan o’r 12 tîm yn y gynghrair yn chwarae ar gaeau atriffisial, a bydd angen i’r Fflint ymgartrefu’n sydyn gan bod pedair o’u pum gêm gynghrair nesaf yn gemau cartref. 

 

Mae Aberystwyth wedi cael dechrau digon anodd i’r tymor gan golli eu pedair gêm ddiwethaf, ac roedd ildio pedair yn erbyn Y Bala nos Wener yn hynod siomedig, yn enwedig gan i gapten yr ymwelwyr Chris Venables gael ei hel o’r maes wedi llai na dau funud o’r gêm. 

 

Fe allai fod yn noson heriol arall i’r Gwyrdd a’r Duon gan bod Aberystwyth ar rediad o bum gêm heb ennill yn erbyn Y Fflint (colli 4, cyfartal 1) gan sgorio dim ond unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw. 

 

 

Dydd Sadwrn, 10 Medi 

Airbus UK (12fed) v Met Caerdydd (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Mae dechrau rhwystredig Airbus yn parhau wedi i dîm Steve O’Shaughnessy golli pob un o’u pum gêm ers esgyn yn ôl i Uwch Gynghrair Cymru. 

 

Mae Met Caerdydd ar y llaw arall wedi dechrau’r tymor ar dân gan ennill pedair allan o bump hyd yma gan gadw pedair llechen lân. 

 

Collodd Met Caerdydd o 1-0 oddi cartref yn erbyn Airbus yn eu gêm gyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru ‘nôl ym mis Awst 2016, ond ers hynny dyw’r myfyrwyr heb golli mewn pedair gêm yn erbyn bechgyn Brychdyn (ennill 2, cyfartal 2).  

 

 

Y Bala (7fed) v Pontypridd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Dangosodd Y Bala eu dygnwch nos Wener diwethaf gan guro Aberystwyth yn gyfforddus er chwarae’r gêm gyfan fwy neu lai gyda dyn yn brin. 

 

Pontypridd sydd â’r record ymosodol wannaf yn y gynghrair ar ôl sgorio dim ond ddwywaith yn eu pum gêm hyd yma, gyda’r ddwy gôl yn dod yn eu hunig fuddugoliaeth o’r tymor yn erbyn Aberystwyth. 

 

Mae hi bron yn flwyddyn ers i’r clybiau gyfarfod am y tro cyntaf erioed yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru ble enillodd Y Bala’n ddi-drafferth (Bala 5-0 Pont). 

 

Y Drenewydd (9fed) v Cei Connah (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Wedi dechrau digon araf i’w hymgyrch mae’r Drenewydd wedi dod o hyd i’w hesgidiau sgorio gan ennill dwy gêm yn olynol yn ystod yr wythnos ddiwethaf (vs Caernarfon a Hwlffordd). 

Mae Cei Connah wedi ennill eu tair gêm gartref heb ildio gôl, ond bydd Neil Gibson yn gobeithio gall y Nomadiaid gasglu eu pwynt cyntaf oddi cartref ar ôl colli yn erbyn y ddau uchaf, Met Caerdydd a’r Seintiau Newydd ym mis Awst. 

Bydd y ddau glwb yn disgwyl cystadlu yn yr hanner uchaf erbyn diwedd y tymor ond dyw’r Drenewydd ond wedi ennill un o’u 12 gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah (cyfartal 2, colli 9). 

 

 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 17:30 (S4C arlein) 

Y pencampwyr presennol yw’r unig dîm sydd heb golli yn y gynghrair y tymor yma, a dyw tîm Craig Harrison ond wedi ildio unwaith mewn pum gêm. 

 

Hwlffordd oedd ar frig y gynghrair wedi tair gêm, ond ar ôl colli o 3-2 ddwywaith yr wythnos diwethaf (vs Pen-y-bont a’r Drenewydd) mae’r Adar Gleision wedi syrthio i’r 8fed safle. 

 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 10 o’u 11 gêm ddiwethaf yn erbyn Hwlffordd, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 6-0 y tro diwethaf i’r timau gwrdd pan sgoriodd Declan McManus ei hatric gyntaf yn y gynghrair. 

 

 

 

Dydd Sul, 11 Medi 

Pen-y-bont (5ed) v Caernarfon (3ydd) | Dydd Sul – 14:30 

 

Mae Pen-y-bont a Chaernarfon yn hafal ar bwyntiau ar ôl ennill tair a cholli dwy o’u gemau cynghrair hyd yma. 

 

Y newyddion da i Ben-y-bont yw eu bod wedi ennill eu tair gêm gartref, a’r newyddion drwg i Gaernarfon yw eu bod wedi colli eu dwy gêm oddi cartref y tymor yma. 

 

Ond mae’r Cofis wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont ac hynny heb ildio gôl, felly bydd hogiau Huw Griffiths yn llawn hyder cyn teithio i Stadiwm Gwydr SDM ddydd Sul. 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?