Golwg sydyn ar gemau’r penwythnos yn Uwch Gynghrair Cymru.
Nos Wener, 20 Tachwedd
Aberystwyth G-G Y Bala | Nos Wener – 19:45
Gêm wedi ei gohirio.
Cei Connah v Derwyddon Cefn | Nos Wener – 19:45
Bydd y Derwyddon yn edrych ymlaen at eu gêm gyntaf ers pump wythnos gan obeithio dringo oddi ar waelod y tabl am y tro cyntaf ers mis Medi.
Mae Cei Connah wedi ennill saith o’u naw gêm ddiwethaf gyda’r unig golled yn ystod y rhediad hwnnw yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd (1-0).
Bydd Andy Morrison yn gorfod ymdopi heb ei gôl-geidwad Lewis Brass a’r cefnwr chwith Callum Roberts gan i’r ddau dderbyn cerdyn coch wedi’r ffrwgwd ar ddiwedd y gêm yn erbyn Caernarfon y penwythnos diwethaf.
Dyw’r Derwyddon heb ennill gêm gynghrair oddi cartref yn erbyn Cei Connah ers 12 blynedd (Tachwedd 2008).
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅➖❌✅
Derwyddon Cefn: ❌❌❌✅❌
Dydd Sadwrn, 21 Tachwedd
Hwlffordd v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl colli saith gêm yn olynol bydd Niall McGuinness yn benderfynol o ddod a’r rhediad sâl i ben yn Sir Benfro ddydd Sadwrn.
Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol gyda Jack Wilson a Danny Williams yn rhwydo’n hwyr i’r Adar Gleision ar Gae-y-Castell ym mis Hydref (Ffl 0-2 Hwl).
Dyw’r ddau glwb ond wedi llwyddo i ennill dwy gêm allan o 10 y tymor yma, ond mae’r Fflint yn îs yn y tabl gan mae nhw yw’r unig dîm sydd heb gael dim un gêm gyfartal hyd yn hyn.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌✅➖❌➖
Y Fflint: ❌❌❌❌❌
Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau’n dechrau’r penwythnos bum pwynt yn glir ar y copa, a nhw yw’r unig glwb sy’n dal heb golli gêm y tymor yma (ennill 9, cyfartal 2).
Hon fydd y bedwaredd gêm gartre’n olynol i’r myfyrwyr sydd wedi cael dechrau diflas i’r tymor gan ennill dim ond dwy o’u 10 gêm gynghrair hyd yma.
Roedd Met Caerdydd wedi mynd ar rediad o chwe gêm heb golli yn erbyn y Seintiau, ond daeth y rhediad i ben yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau nôl ym mis Medi (YSN 2-0 Met).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ❌❌❌✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅➖✅➖✅
Pen-y-bont G-G Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30
Gêm wedi ei gohirio gan bod chwaraewyr Pen-y-bont yn hunan-ynysu.
Y Barri v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 14:30 (S4C)
Ar ôl rhediad arbennig o bum buddugoliaeth yn olynol rhwng Medi a Hydref mae’r Barri wedi taro wal yn ddiweddar a heb ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf.
Mae’r Drenewydd yn un arall o’r clybiau sydd ond wedi ennill dwy o’u 10 gêm hyd yma, ond ar ôl curo’r Fflint ddydd Sadwrn diwethaf bydd Chris Hughes yn gobeithio gall y Robiniaid ddechrau dringo’r tabl yn yr wythnosau nesaf.
Dyw’r Drenewydd ond wedi colli un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri, a gallai buddugoliaeth brynhawn Sadwrn eu codi i’r Chwech Uchaf gan mae dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r pum clwb rhwng y 6ed a’r 10fed safle.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅➖❌➖❌
Y Drenewydd: ❌❌➖❌✅