Mae hi’n 1af yn erbyn 2il yn y Cymru Premier JD nos Fawrth a bydd Y Seintiau Newydd yn gobeithio cymryd cam yn nes at y bencampwriaeth.
Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (2il) | Nos Fawrth – 19:45
Naw gêm ar ôl yn y tymor, a dim ond pum pwynt sydd ei angen ar Y Seintiau Newydd i sicrhau’r bencampwriaeth am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Mae cewri Croesoswallt 23 pwynt yn glir o’r gweddill, ac mae Anthony Limbrick yn targedu’r dwbl yn ei dymor llawn cyntaf wrth y llyw.
Dim ond mis yn ôl roedd ‘na amheuaeth os fyddai’r Bala’n gallu cyrraedd y Chwech Uchaf, ond bellach, wedi cyfnod o naw gêm heb golli, nhw sy’n arwain y ras am yr ail safle.
Tydi’r Seintiau heb golli dim un o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 5, cyfartal 3), a dyw tîm Colin Caton erioed wedi ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅➖✅
Y Bala: ✅✅➖➖✅
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar wefannau cymdeithasol Sgorio.