S4C

Navigation

Bydd ail ran tymor y JD Cymru Premier yn dechrau’r penwythnos yma, ac yn dilyn apêl aflwyddiannus yn erbyn cyhuddiad o dorri rheolau’r gynghrair, mae Cei Connah wedi derbyn cosb o 18 pwynt gan golli eu lle yn y Chwech Uchaf. Mae’r pencampwyr felly wedi syrthio i’r 11eg safle ac mae Caernarfon, oedd yn 7fed, wedi dringo i’r Chwech Uchaf.

 

CHWECH UCHAF

Y Fflint (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45

Deg gêm ar ôl yn y tymor, a dim ond deg pwynt sydd ei angen ar Y Seintiau Newydd i sicrhau’r bencampwriaeth am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Ac er bod cewri Croesoswallt 21 pwynt yn glir o’r gweddill, bydd Anthony Limbrick yn siomedig o fod wedi ildio’n hwyr yn erbyn Met Caerdydd y penwythnos diwethaf gan ddod a’u rhediad o naw buddugoliaeth yn olynol i ben.

Enillodd Y Seintiau Newydd 10-0 a 0-6 yn erbyn Y Fflint y tymor diwethaf, ond mae’r gemau rhwng y ddau dîm wedi bod yn llawer agosach y tymor yma gyda’r criw o Groesoswallt yn crafu buddugoliaeth o 1-0 yn Neuadd y Parc, cyn rhannu’r pwyntiau ar Gae-y- Castell ym mis Hydref (1-1).

Mae’r Fflint yn dechrau ail ran y tymor un pwynt y tu ôl i Ben-y-bont yn y ras am yr ail safle, wrth i Neil Gibson anelu i arwain y clwb i Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅➖➖❌➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅➖

Y Drenewydd (3ydd) v Y Bala (5ed) | Nos Wener – 19:45

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r Bala a’r Drenewydd yn y ras am yr ail safle a thocyn i Ewrop.

Mae’r Bala wedi cyrraedd Ewrop saith gwaith ers 2013, tra bod Y Drenewydd wedi chwarae’n Ewrop mewn pedwar tymor ers eu hymddangosiad cyntaf yn 1996.

Ar ôl methu ac ennill yn eu pum gêm ddiwethaf bydd Y Drenewydd yn anelu am eu buddugoliaeth gyntaf yn 2022, tra bod yr hyder yn uchel yn Y Bala wedi cyfnod o wyth gêm heb golli.

Ar ben hynny, mae record Y Bala’n gryf yn erbyn y Robiniaid gan nad yw tîm Colin Caton wedi colli dim un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd (ennill 6, cyfartal 1).

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ➖❌➖͏͏➖❌
Y Bala: ➖✅✅➖➖

Pen-y-bont (2il) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Caernarfon wedi gorffen yn y Chwech Uchaf ym mhob tymor ers eu dyrchafiad yn ôl i’r gynghrair yn 2018, ac mae’r Cofis wedi llwyddo i wneud hynny eto eleni gan i Gei Connah golli pwyntiau am dorri rheolau’r gynghrair.

Roedd Caernarfon wedi gorffen rhan gynta’r tymor driphwynt y tu ôl i’r Bala (6ed), ond nawr mae gan y Caneris gyfle i frwydro am le’n Ewrop gyda gweddill clybiau’r Chwech Uchaf.

Pen-y-bont sy’n arwain y ras am yr ail safle ar ôl colli dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf, ac honno yn erbyn y ceffylau blaen (YSN 3-2 Pen).

Bydd hi’n dipyn o her i hogiau Huw Griffiths gan nad yw Pen-y-bont wedi colli dim un o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn Caernarfon (ennill 4, cyfartal 4).

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅͏͏➖✅➖➖
Caernarfon: ✅❌❌➖✅

CHWECH ISAF

Derwyddon Cefn (12fed) v Aberystwyth (8fed) | Nos Wener – 19:45

Ers ail-strwythuro’r gynghrair yn 2010/11 Derwyddon Cefn yw’r clwb cyntaf i gyrraedd yr hollt gyda llai na 10 o bwyntiau, a’r tîm cyntaf erioed i fethu ag ennill gêm yn rhan gynta’r tymor.

Ar ôl gorffen ar waelod y tabl llynedd roedd y Derwyddon yn lwcus i beidio syrthio o’r gynghrair gan bod neb o’r cynghreiriau is yn esgyn, ac yn dilyn rhediad trychinebus o 31 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth gan gasglu dim ond dau bwynt y tymor hwn, mae’n edrych yn anochel y bydd Hogiau’r Graig yn gadael y gynghrair eleni.

Mae Aberystwyth wedi mynd ar rediad o bedair gêm gynghrair heb golli ac mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi ennill eu saith gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon yn cynnwys tair buddugoliaeth y tymor hwn.

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌
Aberystwyth: ❌✅✅➖➖

Met Caerdydd (7fed) v Cei Connah (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl ennill y bencampwriaeth am y ddau dymor diwethaf mae Cei Connah yn wynebu her aruthrol i osgoi syrthio allan o’r uwch gynghrair eleni.

Gyda dim ond 10 gêm yn weddill mae Cei Connah chwe phwynt o dan diogelwch y 10fed safle ar ôl derbyn 18 pwynt o gosb am dorri rheolau’r gynghrair ynglŷn ag arwyddo chwaraewyr y tu allan i’r ffenestr drosglwyddo.

Bydd y frwydr i osgoi’r cwymp yn dechrau gyda gêm galed yn erbyn y myfyrwyr, sef y tîm aeth a Cei Connah i giciau o’r smotyn yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.

Mae’r dair gêm rhwng y timau’r tymor yma wedi gorffen yn gyfartal wedi 90 munud, ond y Nomadiaid oedd yn dathlu yn y pen draw fis diwethaf ar ôl curo’r myfyrwyr ar giciau o’r smotyn.

Mae Met Caerdydd ar rediad o wyth gêm gynghrair heb golli (ennill 2, cyfartal 6), a bydd y myfyrwyr yn awyddus i ddal gafael ar y 7fed safle er mwyn cystadlu am le yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ✅➖➖͏➖➖
Cei Connah: ❌➖❌✅✅

Y Barri (9fed) v Hwlffordd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl ennill dim ond un o’u naw gêm ddiwethaf mae’r Barri wedi methu a chyrraedd y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2017/18.

Gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r ddau glwb ar ddechrau ail ran y tymor, mae hon yn gêm anferth yn y frwydr i osgoi’r cwymp.

Daeth rhediad Hwlffordd o ddeg gêm heb ennill i ben brynhawn Sadwrn diwethaf yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Derwyddon Cefn, ond mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers y tro diwethaf i’r Adar Gleision ennill oddi cartref yn erbyn Y Barri.

Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌✅❌➖❌
Hwlffordd: ➖➖❌➖✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?