S4C

Navigation

Ar ôl curo’r Seintiau Newydd yn eu gêm ddiwethaf bydd Aberystwyth yn anelu i ddringo allan o safleoedd y cwymp y penwythnos yma tra bydd Y Bala a Chei Connah yn ceisio dal eu gafael ar eu lle yn y Chwech Uchaf. 

Nos Wener, 19 Tachwedd

Met Caerdydd (10fed) v Aberystwyth (11eg) | Nos Wener – 19:45 

Roedd hi’n edrych yn ddu ar Aberystwyth yr wythnos diwethaf, ond mae’r fuddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Y Seintiau Newydd wedi rhoi gobaith i’r Gwyrdd a’r Duon, a byddai triphwynt arall y penwythnos yma yn eu codi allan o safleoedd y cwymp ac yn eu taflu’n syth i mewn i’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

Mae tair colled yn olynol yn erbyn Y Seintiau Newydd, Caernarfon a Phen-y-bont wedi gyrru Met Caerdydd o’r 5ed safle i lawr i’r 10fed safle ac yn brawf o pa mor sydyn gall y darlun newid yn y JD Cymru Premier. 

Mae Met Caerdydd eisoes wedi curo Aberystwyth yn y gynghrair ac yng Nghwpan Nathaniel MG y tymor hwn, a dyw’r myfyrwyr heb golli dim un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon (ennill 5, cyfartal 2). 

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ✅➖❌❌❌ 

Aberystwyth: ✅❌❌➖✅
 

Y Bala (6ed) v Y Fflint (2il) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r Bala wedi mynd ar rediad o chwe gêm gynghrair heb ennill am y tro cyntaf ers mis Ionawr 2019, ac mae Hogiau’r Llyn mewn perygl o lithro allan o’r Chwech Uchaf. 

Tra bod Y Bala heb ennill mewn chwech, dyw’r Fflint heb golli mewn chwech, ac mae carfan Neil Gibson yn dangos eu bod yn gystadleuwyr gwirioneddol i gyrraedd Ewrop y tymor yma. 

Mae tîm Colin Caton wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint, ond roedd angen gôl hwyr wedi 91 munud gan David Edwards i gipio’r triphwynt i’r Bala yn y gêm gyfatebol yn gynharach y tymor hwn (Fflint 1-2 Bala). 

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ❌➖❌❌➖ 

Y Fflint: ✅➖✅✅➖ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Drenewydd (3ydd) | Nos Wener – 19:45 

Mae’r Seintiau wedi gorfod stiwio am 10 diwrnod ar ôl dioddef eu colled cyntaf yn y gynghrair, ond bydd Anthony Limbrick yn disgwyl i’w dîm fownsio ‘nôl nos Wener. 

Roedd y Seintiau wedi mynd ar rediad o 17 gêm gynghrair heb golli cyn y canlyniad siomedig yn erbyn Aberystwyth nos Fawrth ddiwethaf (ennill 13, cyfartal 4). 

Er hynny, mae cewri Croesoswallt yn parhau i fod chwe phwynt yn glir ar frig y tabl ac mewn safle cryf i adennill y bencampwriaeth yn dilyn dau dymor di-dlws. 

Adeg yma llynedd roedd Y Drenewydd yn 10fed gyda 10 pwynt ar ôl ennill dim ond dwy o’u 13 gêm gynghrair. 

Ond mae’r Robiniaid yn hedfan eleni ac yn 3ydd yn y tabl gyda 23 o bwyntiau ar ôl colli dim ond un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf – ennill 5, cyfartal 1 (vs Bala), colli 1 (vs Hwlffordd). 

Bydd dau o brif sgorwyr y gynghrair yn mynd benben wrth i Declan McManus o’r Seintiau Newydd (12 gôl) ac Aaron Williams o’r Drenewydd (11 gôl) anelu i ychwanegu at eu cyfanswm yn y ras am yr Esgid Aur. 

Mae’r Seintiau wedi ennill eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Y Drenewydd, yn cynnwys eu gêm gynghrair gyntaf y tymor hwn ble sgoriodd McManus a Williams eu goliau cyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru (Dre 1-4 YSN). 

Record cynghrair diweddar: 

Y Seintiau Newydd: ✅➖✅✅❌ 

Y Drenewydd: ✅✅❌✅➖ 

 

Dydd Sadwrn, 20 Tachwedd 

Cei Connah (5ed) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’n edrych fel bod cyfnod cythryblus Cei Connah y tu ôl iddyn nhw gyda’r Nomadiaid bellach ar rediad o chwe gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 5, cyfartal 1 – sgorio 16, ildio 1). 

Mae Pen-y-bont hefyd wedi troi’r gornel ar ôl dechrau caled i’r tymor, ac mae tîm Rhys Griffiths wedi ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

Pen-y-bont oedd yr unig glwb i ennill oddi cartref yng Nglannau Dyfrdwy y tymor diwethaf, ac honno oedd colled cyntaf Cei Connah gartref yn y gynghrair ers dwy flynedd. 

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ❌➖✅✅✅ 

Pen-y-bont: ✅✅✅❌✅ 

 

Hwlffordd (9fed) v Caernarfon (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl colli pump o’u chwe gêm ddiwethaf mae Caernarfon wedi llithro i hanner isa’r tabl, ond bydd hogiau Huw Griffiths yn disgwyl dringo ‘nôl i’r Chwech Uchaf ddydd Sadwrn. 

Bydd Hwlffordd hefyd yn llygadu lle yn yr hanner uchaf gan eu bod ond driphwynt o dan y 6ed safle ar ddechrau’r penwythnos. 

Dyw Caernarfon heb ennill oddi cartref yn Hwlffordd ers 1998, ond mae wyth o’r 10 gêm rhwng y timau yn Nôl-y-Bont ers hynny wedi gorffen yn gyfartal. 

Record cynghrair diweddar: 

Hwlffordd: ❌✅✅❌➖ 

Caernarfon: ❌❌❌✅❌ 

 

Y Barri (8fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl sicrhau dim ond dau bwynt o’u 22 gêm gynghrair ddiwethaf, mae Derwyddon Cefn yn un clwb sydd yn weddol saff o beidio a chyrraedd y Chwech Uchaf eleni. 

Ond daeth un o’r pwyntiau hynny yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn y tîm sy’n ail yn y tabl, Y Fflint, a gyda 19 o gemau ar ôl i’w chwarae yn y tymor, dyw osgoi’r cwymp yn sicr ddim allan o afael y Derwyddon eto. 

Dyw’r Barri ond wedi ennill un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf, ond bydd Gavin Chesterfield yn ffyddiog o sicrhau buddugoliaeth brynhawn Sadwrn gan i’r Drieigiau ennill saith o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn y Derwyddon. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ❌➖✅➖➖ 

Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌➖ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?