S4C

Navigation

Dwy gêm i fynd yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru a dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Cei Connah a’r Seintiau Newydd yn y ras am y bencampwriaeth. Os aiff canlyniadau o blaid y Nomadiaid ddydd Sadwrn yna fe all criw Andy Morrison gael eu coroni yn bencampwyr am yr ail dymor yn olynol. 

 

CHWECH UCHAF 

Cei Connah (1af) v Caernarfon (6ed) Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C) 

Roedd hi’n fuddugoliaeth allweddol i Gei Connah yn Y Barri nos Fawrth, ond mae’n deg dweud bod hogiau Glannau Dyfrdwy wedi bod braidd yn lwcus yn ennill cic o’r smotyn ddadleuol i droi’r gêm ar ei phen. 

Roedd Y Barri wedi mynd ar y blaen yn haeddiannol cyn i’r dyfarnwr bwyntio at y smotyn wedi i Jamie Bird ennill y bêl yn y cwrt i’r Barri. 

Sgoriodd Callum Morris o’r smotyn, a munud yn ddiweddarach fe rwydodd Craig Curran yr ail i Gei Connah i gadw’r Nomadiaid ar frig y tabl. 

Wedi wyth gêm heb ennill roedd yna ddathlu ar yr Oval hefyd wrth i Gaernarfon guro’r Bala yn gyfforddus o dair gôl i ddim yng nghanol wythnos. 

Dyw’r Cofis ond wedi ennill un o’u 10 gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah, gyda’r Nomadiaid yn fuddugol yn y bum gêm ddiwethaf rhwng y timau. 

Canlyniadau tymor yma: Cei Connah 3-1 Caernarfon, Caernarfon 1-2 Cei Connah, Caernarfon 1-6 Cei Connah 

Record cynghrair diweddar:    

Cei Connah: ✅✅❌➖ 

Caernarfon: ❌❌➖➖ 

 

Y Bala (3ydd) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Bala wedi sicrhau’r trydydd safle gan selio eu lle’n Ewrop, ond ar ôl colli 3-0 yng Nghaernarfon nos Fawrth bydd Colin Caton yn awyddus bod ei dîm yn gorffen y tymor yn gryf er mwyn paratoi at y gemau Ewropeaidd. 

Mae’n edrych yn bur debygol y bydd Pen-y-bont yn gorffen yn 4ydd ac yn herio’r Drenewydd yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle. 

Dyw’r ystadegau benben ddim yn edrych yn rhy ffafriol i Ben-y-bont gan mae’r Bala sydd wedi ennill pob un o’r pum gêm gynghrair flaenorol rhwng y timau gan sgorio 22 o goliau (cyfartaledd o 4.4 gôl y gêm). 

Canlyniadau tymor yma: Pen-y-bont 1-5 Y Bala, Y Bala 4-1 Pen-y-bont, Pen-y-bont 2-3 Y Bala 

Record cynghrair diweddar:    

Y Bala❌✅✅✅ 

Pen-y-bont: ➖✅✅➖ 

 

Y Seintiau Newydd (2il) v Y Barri (5ed) Dydd Sadwrn – 14:30 

Bydd Y Barri’n hynod siomedig o’r modd y collon nhw eu gêm yn erbyn Cei Connah nos Fawrth, ond bydd y Seintiau Newydd hyd yn oed yn fwy rhwystredig gyda’r canlyniad.  

Enillodd y Seintiau o dair i ddim ym Mhen-y-bont a bydd Anthony Limbrick yn ceisio sicrhau bod ei dîm yn parhau i wneud popeth y gallen nhw i gadw’r pwysau ar y ceffylau blaen. 

Mae’r Barri wedi bod ar rediad gwael ers yr hollt ac ond wedi ennill un pwynt o’u saith gêm ddiwethaf, a dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Dreigiau (ennill 4, cyfartal 1). 

Canlyniadau tymor yma: Y Barri 0-3 Y Seintiau Newydd, Y Seintiau Newydd 2-1 Y Barri, Y Barri 0-6 Y Seintiau Newydd  

Record cynghrair diweddar:    

Y Seintiau Newydd: ✅❌➖➖ 

Y Barri: ➖❌❌❌ 

 

CHWECH ISAF 

Hwlffordd (9fed) v Y Drenewydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Daeth rhediad rhagorol Y Drenewydd i ben yng nghanol wythnos wrth iddyn nhw golli am y tro cyntaf ers yr hollt, ac hynny gartref yn erbyn Met Caerdydd. 

Er hynny, dyw tîm Chris Hughes ond angen dau bwynt o’u dwy gêm sy’n weddill i sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle. 

Dyw’r Drenewydd heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf oddi cartref yn Hwlffordd ers 2009 (ennill 4, cyfartal 1). 

Canlyniadau tymor yma: Hwlffordd 2-2 Y Drenewydd, Y Drenewydd 0-3 Hwlffordd, Y Drenewydd 5-1 Hwlffordd 

Record cynghrair diweddar:    

Hwlffordd: ❌➖❌❌ 

Y Drenewydd: ✅✅✅ 

 

Met Caerdydd (8fed) Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r myfyrwyr yn mwynhau cyfnod llwyddiannus ac ar rediad cryf o saith gêm heb golli, a dyw’r gemau ail gyfle ddim allan o’u gafael eto. 

Tydi pethau ddim yn mynd gystal i hogiau’r Graig sydd wedi ildio o leiaf pum gôl ym mhob un o’u pedair gêm ddiwethaf. 

Mae’r Derwyddon wedi colli saith gêm yn olynol, ac felly’n sicr o orffen ar waelod y tabl. 

Canlyniadau tymor yma: Derwyddon Cefn 1-1 Met Caerdydd, Met Caerdydd 0-0 Derwyddon Cefn, Derwyddon Cefn 1-2 Met Caerdydd 

Record cynghrair diweddar:    

Met Caerdydd: ✅➖✅✅ 

Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌ 

 

Y Fflint (10fed) Aberystwyth (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae’r Fflint ddau bwynt uwchben Aberystwyth, ac er na fydd neb yn syrthio o’r uwch gynghrair yr haf yma, bydd y ddau glwb yn benderfynol o beidio gorffen yn y ddau safle isaf er mwyn teimlo eu bod wedi haeddu eu lle’n y brif adran y tymor nesaf. 

Mae’r Fflint wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth heb ildio gôl, ac ar ôl rhwydo chwech yn erbyn y Derwyddon nos Fawrth bydd criw Neil Gibson yn llawn hyder cyn y gêm hon. 

Canlyniadau tymor yma: Aberystwyth 3-1 Y Fflint, Y Fflint 3-0 Aberystwyth, Aberystwyth 0-1 Y Fflint 

Record cynghrair diweddar:    

Y Fflint: ❌➖❌✅ 

Aberystwyth: ✅➖✅❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 17:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?