S4C

Navigation

Ar ôl baglu yng nghanol wythnos bydd Cei Connah a’r Seintiau Newydd yn cyfarfod eto ddydd Sadwrn am y tro ola’r tymor yma mewn gêm anferthol yn y frwydr am y bencampwriaeth. Mae Cei Connah yn dechrau’r penwythnos ddau bwynt uwchben eu gwrthwynebwyr, ond mae’r Seintiau’n gwybod bod eu tynged yn nwylo eu hunain. 

 

CHWECH UCHAF 

Caernarfon (6ed) v Pen-y-bont (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl colli chwe gêm yn olynol byddai dim llawer o bobl wedi darogan byddai Caernarfon yn synnu’r Seintiau nos Fawrth i sicrhau gêm ddi-sgôr yn Neuadd y Parc, ac hynny gyda dim ond naw dyn ar y cae erbyn y chwiban olaf. 

Rhoddodd y Seintiau’r bêl yn rhwyd y Cofis ddwywaith ond i’r tîm dyfarnu ddynodi nad oedd y goliau am gael eu caniatau, ac fe fethodd Greg Draper gic o’r smotyn wrth i rediad gwael Caernarfon ddod i ben. 

Er hynny, mae hi’n dair gêm bellach ers i Gaernarfon sgorio gôl, ac yn saith gêm ers eu buddugoliaeth ddiwethaf. 

Mae Pen-y-bont wedi codi bum pwynt yn glir o’r Barri yn y 4ydd safle, ac wrth edrych ar y canlyniadau diweddar mae’n debyg mae tîm Rhys Griffiths fydd y ffefrynnau i gyrraedd Ewrop trwy’r gemau ail gyfle. 

Canlyniadau tymor yma: Caernarfon 1-1 Pen-y-bont, Pen-y-bont 6-0 Caernarfon, Pen-y-bont 2-0 Caernarfon 

Record cynghrair diweddar:    

Caernarfon: ❌❌❌❌ 

Pen-y-bont: ❌❌➖✅ 

 

Y Barri (5ed) Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Wedi buddugoliaeth gampus gartref yn erbyn Cei Connah nos Fercher, mae’n bosib i’r Bala sicrhau’r trydydd safle ddydd Sadwrn. 

Os bydd y Bala’n ennill a Phen-y-bont yn methu a churo Caernarfon yna bydd criw Colin Caton yn selio eu lle yn Ewrop. 

Mae’r Barri wedi bod ar rediad gwael ers yr hollt ac ond wedi ennill un pwynt o’u pum gêm ddiwethaf. 

Canlyniadau tymor yma: Y Bala 4-0 Y Barri, Y Barri 6-2 Y Bala, Y Bala 1-0 Y Barri 

Record cynghrair diweddar:    

Y Barri: ❌❌͏➖❌ 

Y Bala✅✅❌✅ 

 

Cei Connah (1af) v Y Seintiau Newydd (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C) 

Mae’r fantais gan Gei Connah yn y ras am y bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth gyntaf y Nomadiaid oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd ers 25 o flynyddoedd ddydd Sadwrn diwethaf. 

Michael Wilde oedd yr arwr yn Neuadd y Parc, yn sgorio hatric yn yr hanner cyntaf yn erbyn ei gyn-glwb i yrru’r Nomadiaid i frig y tabl. 

Ond ar ôl i’r ddau glwb roi cymaint o ymdrech i’r gêm galed honno, roedd na sioc i’r ceffylau blaen yng nghanol wythnos wrth i’r Seintiau gael gêm ddi-sgôr yn erbyn Caernarfon cyn i Gei Connah golli oddi cartref ym Maes Tegid. 

Mae Cei Connah ddau bwynt uwchben eu gelynion o Groesoswallt, felly byddai pwynt yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy yn ganlyniad gwell i dîm Andy Morrison nac i hogiau Anthony Limbrick. 

Dyw’r Nomadiaid heb golli dim un o’u tair gêm gartref ddiwethaf yn erbyn y Seintiau, na chwaith wedi ildio yn y ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau ar Lannau Dyfrdwy. 

Canlyniadau tymor yma: Y Seintiau Newydd 1-0 Cei Connah, Cei Connah 2-0 Y Seintiau Newydd, Y Seintiau Newydd 1-4 Cei Connah 

Record cynghrair diweddar:    

Cei Connah: ✅✅✅✅ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅❌ 

 

CHWECH ISAF 

Derwyddon Cefn (12fed) v Y Drenewydd (7fed) | Nos Wener – 19:45 

Dechreuodd Y Drenewydd ail ran y tymor naw pwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y 7fed safle, ond ar ôl chwe gêm heb golli mae’r Robiniaid bellach driphwynt uwchben yr Adar Gleision yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle 

Mae’r Derwyddon wedi colli eu pum gêm ddiwethaf, a dyw hogiau’r Graig heb ennill dim un o’u 11 gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd (colli 5, cyfartal 6). 

Canlyniadau tymor yma: Y Drenewydd 4-1 Derwyddon Cefn, Derwyddon Cefn 2-4 Y Drenewydd, Y Drenewydd 5-0 Derwyddon Cefn 

Record cynghrair diweddar:    

Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌ 

Y Drenewydd: ➖✅✅✅ 

 

Met Caerdydd (10fed) Aberystwyth (9fed) | Nos Wener – 19:45 

Mae Aberystwyth a Met Caerdydd yn hafal ar bwyntiau gyda record unfath ar ôl ennill saith, colli 14 a chael saith gêm gyfartal yr un y tymor yma. 

Wedi 11 gêm heb ennill, mae’r myfyrwyr wedi troi’r gornel gan fynd ar rediad cryf o bum gêm heb golli. 

Canlyniadau tymor yma: Aberystwyth 2-3 Met Caerdydd, Met Caerdydd 1-1 Aberystwyth, Aberystwyth 1-1 Met Caerdydd  

Record cynghrair diweddar:    

Met Caerdydd: ➖✅✅➖ 

Aberystwyth: ❌❌✅➖ 

 

Y Fflint (11eg) Hwlffordd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl ennill tair gêm yn olynol wedi’r hollt mae’r Fflint wedi llithro’n y ras am y gemau ail gyfle gan fethu a sgorio yn eu tair gêm ddiwethaf. 

Ond mae Hwlffordd yn cael amser caled hefyd, heb ennill mewn pedair gêm ac heb sgorio yn eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint. 

Canlyniadau tymor yma: Y Fflint 0-2 Hwlffordd, Hwlffordd 0-3 Y Fflint, Hwlffordd 0-0 Y Fflint 

Record cynghrair diweddar:    

Y Fflint: ✅✅❌➖ 

Hwlffordd: ✅❌❌➖ 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 17:30.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?