Mae’n benwythnos tyngedfennol yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru gan bydd y ddau ar y copa, Y Seintiau Newydd a Chei Connah yn mynd benben yn Neuadd y Parc gyda’r clybiau yn hafal ar bwyntiau yn y ras am y bencampwriaeth.
CHWECH UCHAF
Pen-y-bont (5ed) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Caernarfon wedi colli pum gêm yn olynol am y tro cyntaf ers 2008, ac er bod y Cofis yn sicr o’u lle yn y gemau ail gyfle, bydd Huw Griffiths yn benderfynol o ddod a’r rhediad i ben er mwyn dechrau adeiladu momentwm cyn y gemau hollbwysig hynny fis nesaf.
Mae’n hynod debygol y bydd Pen-y-bont yn cystadlu yn y gemau ail gyfle hefyd, a bydd y gêm hon yn linell fesur i’r ddau glwb cyn y frwydr fawr i gyrraedd Ewrop.
Roedd hi’n brynhawn i’w anghofio i Gaernarfon ar eu hymweliad diwethaf â Phen-y-bont gyda’r Cofis yn colli’n drwm o 6-0 yn Stadiwm Gwydr SDM.
Canlyniadau tymor yma: Caernarfon 1-1 Pen-y-bont, Pen-y-bont 6-0 Caernarfon
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ✅✅❌❌➖
Caernarfon: ❌❌❌❌❌
Y Bala (3ydd) v Y Barri (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Bala wyth pwynt yn glir o’r Barri yn y ras am y trydydd safle a byddai buddugoliaeth i fechgyn Colin Caton brynhawn Sadwrn yn gam sylweddol tuag at sicrhau lle yn Ewrop.
Ond mae llai na mis wedi mynd heibio ers i’r Bala gael eu chwalu o 6-2 ar Barc Jenner, felly bydd rhaid i’r tîm cartref fod yn wyliadwrus ar Faes Tegid ddydd Sadwrn.
Dyw’r Barri heb ennill yn eu tair gêm ddiwethaf, ond fel Pen-y-bont a Chaernarfon, paratoi at y gemau ail gyfle yw blaenoriaeth y Dreigiau erbyn hyn.
Canlyniadau tymor yma: Y Bala 4-0 Y Barri, Y Barri 6-2 Y Bala
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅❌✅✅❌
Y Barri: ✅✅❌❌➖
Y Seintiau Newydd (1af) v Cei Connah (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15
Mae hi’n gaddo i fod yn dipyn o achlysur yng Nghroesoswallt ddydd Sadwrn pan bydd Anthony Limbrick yn mynd benben gydag Andy Morrison am y tro cyntaf.
Mae’r Seintiau ar rediad arbennig o saith buddugoliaeth yn olynol, ac heb ildio gôl yn eu pedair gêm ers penodi Anthony Limbrick yn brif hyfforddwr, tra bod Cei Connah wedi colli dim ond un o’u 18 gêm ddiwethaf.
Gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn gwahanu’r ddau ar y copa, ond er hynny bydd gan Y Seintiau Newydd fantais seicolegol gartref yn Neuadd y Parc.
Ers i Andy Morrison gael ei benodi’n rheolwr y Nomadiaid yn Nhachwedd 2015 mae’r timau wedi cwrdd 10 gwaith yn Neuadd y Parc – un gem ddi-sgôr yn Ionawr 2016 ac mae’r Seintiau wedi ennill y naw gêm wedi hynny.
Dyw Cei Connah heb guro’r Seintiau oddi cartref yn Uwch Gynghrair Cymru ers dros 25 mlynedd (Hydref 1995), a byddai Andy Morrison wrth ei fodd pe bae’n gallu dod a’r rhediad hwnnw i ben ddydd Sadwrn.
Canlyniadau tymor yma: Y Seintiau Newydd 1-0 Cei Connah, Cei Connah 2-0 Y Seintiau Newydd
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Cei Connah: ✅❌✅✅✅
CHWECH ISAF
Aberystwyth (9fed) v Met Caerdydd (10fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Aberystwyth a Met Caerdydd yn hafal ar bwyntiau gyda record unfath ar ôl ennill chwech, colli 14 a chael chwe gêm gyfartal yr un y tymor yma.
Wedi 11 gêm heb ennill, mae’r myfyrwyr wedi troi’r gornel gan ennill eu dwy gêm ddiwethaf gan sgorio chwe gôl nos Fawrth gartref yn erbyn Hwlffordd.
Canlyniadau tymor yma: Aberystwyth 2-3 Met Caerdydd, Met Caerdydd 1-1 Aberystwyth
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ✅❌❌❌✅
Met Caerdydd: ❌❌➖✅✅
Hwlffordd (7fed) v Y Fflint (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Hwlffordd yn parhau i fod ar frig y Chwech Isaf, ond ar ôl dau golled yn olynol gan ildio 11 o goliau dyw’r Adar Gleision bellach ond dau bwynt uwchben Y Drenewydd.
Mae Hwlffordd wedi colli pedair o’u pum gêm ddiwethaf, tra bo’r Fflint wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf.
Ond dyw Hwlffordd heb golli gartref ers cael eu trechu gan Y Fflint ‘nôl ym mis Tachwedd (ennill 5, cyfartal 1 ers hynny).
Canlyniadau tymor yma: Y Fflint 0-2 Hwlffordd, Hwlffordd 0-3 Y Fflint
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌❌✅❌❌
Y Fflint: ❌✅✅✅❌
Y Drenewydd (8fed) v Derwyddon Cefn (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Dechreuodd Y Derenewydd ail ran y tymor naw pwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y 7fed safle, ond ar ôl pedair gêm heb golli mae’r Robiniaid yn dynn ar sodlau’r Adar Gleision.
Mae tîm Chris Hughes wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon, ac heb golli gartref yn erbyn y clwb o Cefn Mawr ers 2008.
Dyw’r Derwyddon heb ennill dim un o’u 10 gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd (colli 4, cyfartal 6).
Canlyniadau tymor yma: Y Drenewydd 4-1 Derwyddon Cefn, Derwyddon Cefn 2-4 Y Drenewydd
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌✅➖✅✅
Derwyddon Cefn: ❌✅❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio ddydd Llun am 5:30.