Wyth gêm i fynd yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru ac mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah yn hafal ar bwyntiau yn y ras am y bencampwriaeth.
CHWECH UCHAF
Cei Connah (2il) v Y Barri (4ydd) | Dydd Sadwrn – 17:15
Roedd hi’n stori wrthgyferbyniol i’r ddau dîm yma nos Fawrth – Cei Connah yn sgorio chwe gôl yn y grasfa yn erbyn Caernarfon, a’r Barri’n ildio chwe gôl yn y chwalfa gan y Seintiau Newydd.
Bydd Cei Connah yn teithio i gartre’r Seintiau Newydd ddydd Sadwrn nesaf, a gyda’r ddau glwb yn hafal ar bwyntiau ar y copa, fe allai unrhyw fagliad cyn hynny brofi’n gostus tu hwnt.
Mae’r Barri bellach chwe phwynt y tu ôl i’r Bala yn y ras i gyrraedd Ewrop, a dyw tîm Gavin Chesterfield heb ennill dim un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn y Nomadiaid (colli 4, cyfartal 4).
Canlyniadau tymor yma: Y Barri 0-0 Cei Connah, Cei Connah 3-1 Y Barri
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅✅✅❌✅
Y Barri: ❌✅✅✅❌
Y Bala (3ydd) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 17:15
Yn dilyn rhediad rhagorol o wyth gêm heb golli mae pethau wedi suro unwaith yn rhagor yng Nghaernarfon gyda’r Cofis bellach wedi colli tair gêm yn olynol.
Cymerodd Y Bala gam mawr tuag at Ewrop ar ôl ennill ym Mhen-y-bont nos Fawrth, a bydd tîm Colin Caton yn awyddus i atgyfnerthu eu lle yn y tri uchaf y penwythnos hwn.
Ond mae’r Bala wedi colli tair o’u pedair gêm gartref ddiwethaf, yn cynnwys y golled yn erbyn Caernarfon fis diwethaf.
Canlyniadau tymor yma: Caernarfon 1-1 Y Bala, Y Bala 1-2 Caernarfon
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌❌✅❌✅
Caernarfon: ✅✅❌❌❌
Y Seintiau Newydd (1af) v Pen-y-bont (5ed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Mae Anthony Limbrick wedi cael y dechrau delfrydol i’w gyfnod fel rheolwr Y Seintiau Newydd gan ennill ei ddwy gêm hyd yma gan beidio ildio unwaith.
Mae cewri Croesoswallt wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf gyda Ryan Brobbel yn serennu i’r Seintiau ers dychwelyd o’i anaf gan sgorio wyth gôl mewn pedair gêm.
Dyw Pen-y-bont ond saith pwynt y tu ôl i’r Bala yn y ras am Ewrop, ond fydd hi’n her i dîm Rhys Griffiths ddydd Sadwrn gan bod Pen-y-bont wedi colli pob un o’u pum gêm flaenorol yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Canlyniadau tymor yma: Pen-y-bont 0-4 Y Seintiau Newydd, Y Seintiau Newydd 2-1 Pen-y-bont
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Pen-y-bont: ❌➖✅✅❌
CHWECH ISAF
Aberystwyth (9fed) v Y Fflint (10fed) | Nos Wener – 19:45
Gyda 11 pwynt yn gwahanu’r ddau dîm yma a’r 7fed safle, tybed ydi’r freuddwyd o gyrraedd y gemau ail gyfle allan o afael Aberystwyth a’r Fflint.
Ond bydd tîm Neil Gibson yn awchu i ddychwelyd i’r maes ar ôl rhwydo pum gôl yn erbyn y Derwyddon nos Fawrth i selio eu buddugoliaeth fwyaf y tymor hwn.
Canlyniadau tymor yma: Aberystwyth 3-1 Y Fflint, Y Fflint 3-0 Aberystwyth
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ✅➖✅❌❌
Y Fflint: ✅❌❌✅✅
Derwyddon Cefn (12fed) v Met Caerdydd (11eg) | Dydd Sadwrn – 17:15
Bydd y ddau glwb yma wedi anadlu ochenaid o ryddhad yr wythnos hon yn dilyn y datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru na fydd neb yn syrthio o’r uwch gynghrair y tymor hwn.
Dyw’r Derwyddon heb golli dim un o’u chwe gêm gartref ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr, a byddai buddugoliaeth i fechgyn y Graig yn eu codi oddi ar waelod y tabl.
Canlyniadau tymor yma: Derwyddon Cefn 1-1 Met Caerdydd, Met Caerdydd 0-0 Derwyddon Cefn
Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌➖❌✅❌
Met Caerdydd: ➖❌❌❌➖
Y Drenewydd (8fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15
Ar Barc Latham mae gêm fwya’r Chwech Isaf y penwythnos hwn wrth i Hwlffordd geisio agor bwlch o 11 pwynt uwchben gweddill y pac.
Y Drenewydd yw’r bygythiad mwyaf i obeithion Hwlffordd, ond mae llai na mis wedi mynd heibio ers i’r Adar Gleision ennill yn gyfforddus o 3-0 yng nghartre’r Robiniaid.
Canlyniadau tymor yma: Hwlffordd 2-2 Y Drenewydd, Y Drenewydd 0-3 Hwlffordd
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ❌❌❌✅➖
Hwlffordd: ❌✅❌❌✅
Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 17:30.