Mae hanner cynta’r tymor wedi dod i ben, mae’r gynghrair wedi ei hollti’n ddwy a bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn brwydro am y deg gêm nesaf i orffen yn y tri safle uchaf er mwyn sicrhau eu lle’n Ewrop. Bydd y pedwerydd tocyn i Ewrop yn mynd i enillwyr y gemau ail gyfle, a bydd clybiau’r Chwech Isaf yn cystadlu am y 7fed safle er mwyn cael eu cynnwys yn y gemau rheiny ar ddiwedd y tymor.
CHWECH UCHAF
Caernarfon (6ed) v Y Barri (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Gan bod Cwpan Cymru wedi ei diddymu unwaith eto’r tymor hwn, mi fydd y clwb sy’n gorffen yn 3ydd yn mynd i Ewrop eto eleni, ac felly bydd Caernarfon a’r Barri yn gwneud eu gorau glas i gau’r bwlch ar Y Bala yn ystod y deg gêm sy’n weddill.
Chwe phwynt sy’n gwahanu’r Barri a’r Bala ar ddechrau ail ran y tymor, tra bod 10 pwynt rhwng y Cofis a’r Bala, ond bydd tîm Huw Griffiths yn sicr yn mynd amdani.
Mae Caernarfon wedi ennill pump o’u chwe gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Barri, ond mae’r Barri wedi gorffen y tymor un safle uwchben y Cofis yn y Chwech Uchaf yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Canlyniadau tymor yma: Y Barri 3-1 Caernarfon, Caernarfon 2-0 Y Barri
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ➖✅✅✅❌
Y Barri: ❌✅❌✅✅
Cei Connah (1af) v Pen-y-bont (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Cei Connah yn dechrau ail ran y tymor driphwynt yn glir ar y copa, ond bydd y Nomadiaid yn sicr ddim yn gorffwys ar eu rhwyfau gan bod y clwb oedd ar y brig adeg yr hollt wedi methu mynd ymlaen i ennill y gynghrair yn y ddau dymor diwethaf.
Mae tîm Andy Morrison wedi ennill 12 o’u 13 gêm ddiwethaf, gan ollwng pwyntiau ond unwaith ers mis Tachwedd ac hynny mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Pen-y-bont.
Yn ddiweddar, mae’r gemau rhwng y ddau dîm yma wedi bod yn rhai tynn gyda dim ond un gôl wedi cael ei sgorio mewn tair gêm (Pen 0-0 Cei, Cei 1-0 Pen, Pen 0-0 Cei).
Canlyniadau tymor yma: Cei Connah 1-0 Pen-y-bont, Pen-y-bont 0-0 Cei Connah
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ✅➖✅✅✅
Pen-y-bont: ➖✅❌➖✅
Y Bala (3ydd) v Y Seintiau Newydd (2il) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Bydd rheolwr newydd y Seintiau, Anthony Limbrick yn cymryd yr awennau am y tro cyntaf ddydd Sadwrn wrth i’r Seintiau geisio cadw pwysau ar Cei Connah tua’r copa.
Bydd y gŵr o Awstralia, sydd â phrofiad o reoli’n y Gynghrair Genedlaethol gyda Woking, yn gobeithio gall ei glwb newydd barhau â’u rhediad rhagorol ar ôl i’r Seintiau sgorio 15 o goliau yn eu tair gêm ddiwethaf.
Dyw’r Seintiau Newydd ond wedi ennill un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Y Bala a bydd tîm Colin Caton yn benderfynol o ddal eu gafael ar eu lle yn y tri uchaf.
Canlyniadau tymor yma: Y Bala 1-1 Y Seintiau Newydd, Y Seintiau Newydd 0-0 Y Bala
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅❌❌❌✅
Y Seintiau Newydd: ➖❌✅✅✅
CHWECH ISAF
Aberystwyth (8fed) v Y Drenewydd (9fed) | Nos Wener – 19:45
Dyw Aberystwyth ond wedi colli un o’u chwe gêm ers ailddechrau’r tymor, gan godi o waelod y tabl i’r 8fed safle.
Dyw’r Drenewydd ond un pwynt y tu ôl i’w gelynion o’r canolbarth a bydd y ddau glwb yn anelu i ddal Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.
Mae’r Robiniaid wedi colli tair gêm yn olynol, yn cynnwys colled oddi cartref yn erbyn Aberystwyth fis diwethaf.
Canlyniadau tymor yma: Y Drenewydd 1-1 Aberystwyth, Aberystwyth 1-0 Y Drenewydd
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ✅❌✅➖✅
Y Drenewydd: ✅✅❌❌❌
Derwyddon Cefn (12fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Hwlffordd yn dechrau ail ran y tymor wyth pwynt yn glir o’r gweddill yn y ras am y 7fed safle, ond yn anffodus i’r Adar Gleision bydd y clwb ddim yn gymwys i gystadlu am le’n Ewrop gan nad oes gan y rheolwr y drwydded briodol.
Y Derwyddon sydd yn parhau ar waelod y tabl yn dilyn rhediad truenus o saith gêm heb fuddugoliaeth (colli 6, cyfartal 1).
Canlyniadau tymor yma: Hwlffordd 1-1 Derwyddon Cefn, Derwyddon Cefn 4-1 Hwlffordd
Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌❌➖❌
Hwlffordd: ❌✅❌✅❌
Y Fflint (11eg) v Met Caerdydd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Dyma ddau dîm sydd yn cael tymor siomedig – mae’r myfyrwyr ar rediad o naw gêm heb fuddugoliaeth tra bod Y Fflint wedi methu sgorio mewn pump o’u chwe gêm ddiwethaf.
Y Fflint yw’r unig glwb y llwyddodd Met Caerdydd i’w curo ddwywaith yn rhan gynta’r tymor, ond efallai mae adeiladu ar gyfer y tymor nesaf fydd y nod i’r ddau dîm yma am weddill y tymor.
Canlyniadau tymor yma: Met Caerdydd 2-1 Y Fflint, Y Fflint 0-1 Met Caerdydd
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌❌✅❌❌
Met Caerdydd: ❌❌➖❌❌
Bydd uchafbwyntiau holl gemau’r penwythnos i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 17:30.