Hwlffordd (7fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Un gêm gynghrair sydd i’w chwarae cyn y Nadolig, sef gêm wrth gefn rhwng Hwlffordd a’r Seintiau Newydd wedi i’r ornest wreiddiol gael ei gohirio ar ddechrau mis Rhagfyr oherwydd y rhew.
Mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau rhediad o 26 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi ennill 18 yn olynol gan dorri chwe phwynt yn glir ar frig y gynghrair gyda dwy gêm wrth gefn.
Dyma rediad gorau’r clwb o Groesoswallt ers Awst 2016 i Chwefror 2017, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe dorron nhw record y byd gyda 27 buddugoliaeth yn olynol.
Fydd hi’n dipyn o her i Hwlffordd felly sy’n anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chyfyngu i 12 tîm.
Dyw Hwlffordd ond wedi colli un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf (vs Bala), ac fe enillodd yr Adar Gleision yng Nghaernarfon y penwythnos diwethaf i gau’r bwlch i ddim ond triphwynt rhyngddyn nhw a’r Cofis (6ed).
Er hynny, mae’r Seintiau wedi ennill eu pum gêm flaenorol yn erbyn Hwlffordd, yn cynnwys buddugoliaeth o 5-1 yn Neuadd y Parc ym mis Medi ble sgoriodd Ryan Brobbel hatric ar ôl dod ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Hwlffordd: Barr (c), Aber (oc), Bala (oc)
Y Seintiau Newydd: Cfon (c), Cei (oc), Met (c), Dre (c)
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅➖✅✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.