S4C

Navigation

Torrodd y newyddion ddydd Mercher bod Cei Connah wedi cael eu cyhuddo o dorri rheolau’r Cymru Premier JD drwy chwarae chwaraewr anghymwys mewn chwe gêm gynghrair, a bydd y clwb yn derbyn 18 pwynt o gosb os na fydd eu hapêl yn erbyn y cyhuddiad yn llwyddiannus. 

Dim ond un chwaraewr y gall clwb ei arwyddo y tu allan i’r ffenestr drosglwyddo, a’r honiad yw bod y Nomadiaid wedi arwyddo Neal Eardley a Paulo Mendes yn y cyfnod hwnnw gan dorri’r rheolau.  

Mae Cei Connah yn 6ed yn y tabl ar hyn o bryd, ond byddai colli 18 pwynt yn golygu cwymp sylweddol i’r 11eg safle gan chwalu eu gobeithion o gyrraedd y Chwech Uchaf a sicrhau lle’n Ewrop trwy’r gynghrair.  

Bydd y mater yn cael ei gymodi yn annibynnol gyda dyddiad ar gyfer y gwrandawiad yn cael ei gadarnhau maes o law. 

Byddai’r gosb yn agor y drws i Gaernarfon a Met Caerdydd i geisio manteisio a chymeryd lle Cei Connah yn y Chwech Uchaf. 

Gyda dim ond dwy gêm i fynd tan yr hollt mae’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a’r Fflint eisoes wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, a bydd Y Drenewydd a’r Bala yn gobeithio croesi’r llinell y penwythnos hwn. 

 

Nos Wener, 11 Chwefror 

Cei Connah (6ed) v Y Fflint (3ydd) | Nos Wener – 19:45 

Oddi ar y cae, mae’n gyfnod pryderus i Gei Connah, ond ar y cae bydd y garfan yn llawn hyder ar ôl curo Met Caerdydd ar giciau o’r smotyn i ennill Cwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf. 

A pe bae Cei Connah yn ennill eu hapêl yn erbyn y cyhuddiad o dorri rheolau, fe all y Nomadiaid sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf y penwythnos yma os aiff canlyniadau eraill o’u plaid. 

Mae Cei Connah wedi gorffen yn yr hanner uchaf am chwe blynedd yn olynol, a dywedodd Craig Harrison y byddai ennill y gwpan yn golygu dim os na fedrith y clwb gyrraedd y Chwech Uchaf. 

Mae’r Fflint eisoes yn saff o’u lle yn yr hanner uchaf, ac mae bechgyn Neil Gibson yn gyfartal ar bwyntiau gyda Phen-y-bont yn y ras am yr ail safle a lle’n Ewrop. 

Gêm gyfartal 1-1 oedd hi rhwng y ddau dîm fis diwethaf gyda Connor Simpson yn sgorio’i gôl gyntaf i’r Nomadiaid cyn i Callum Bratley unioni’r sgôr wedi 95 munud i gipio pwynt i’r Fflint. 

Roedd Cei Connah wedi ennill pum gêm yn olynol yn erbyn Y Fflint cyn ildio’n hwyr ar Gae-y-Castell bythefnos yn ôl, a dyw’r Nomadiaid heb golli gêm ddarbi Sir y Fflint ers 2011.  

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ➖✅❌➖❌
Y Fflint: ❌❌✅➖➖ 

 

Derwyddon Cefn (12fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45 

10 diwrnod ers i’r clybiau gwrdd yn Neuadd y Parc bydd y tîm sydd ar waelod y tabl yn herio’r clwb ar y copa unwaith yn rhagor. 

Er i’r Derwyddon wneud yn rhyfeddol i gadw’r gêm yn ddi-sgôr tan yr egwyl, roedd newid tactegol a thri eilydd yn ddigon i agor y llifddorau yn yr ail hanner gyda’r Seintiau’n sgorio bum gwaith cyn i Nacho Torres rwydo gôl gysur i’r ymwelwyr (YSN 5-1 Cefn). 

Mae hogiau’r Graig 16 pwynt y tu ôl i weddill y pac yn dilyn rhediad o 29 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth gan gasglu dim ond dau bwynt y tymor hwn. 

Mae’r Seintiau, ar y llaw arall, 19 pwynt yn glir ar y brig ar ôl ennill eu saith gêm ddiwethaf, ac mae’n edrych fel mae mater o amser fydd hi tan bydd cewri Croesoswallt yn cael eu dwylo ar dlws y cynghrair am y tro cyntaf ers tair blynedd. 

Mae’r Seintiau wedi ennill eu wyth gêm ddiwethaf yn erbyn y Derwyddon, ac heb golli yn eu 23 gêm ddiwethaf yn erbyn criw Cefn Mawr (ennill 21, cyfartal 2). 

Record cynghrair diweddar: 
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌ 

 

Hwlffordd (11eg) v Aberystwyth (9fed) | Nos Wener – 19:45 

Roedd hi’n fuddugoliaeth anferthol i Aberystwyth yn eu gêm ddiwethaf wrth i’r Gwyrdd a’r Duon drechu Hwlffordd o 2-0 ar Goedlan y Parc gan agor bwlch o bum pwynt rhyngddyn nhw a’r Adar Gleision yn safleoedd y cwymp. 

Mae Hwlffordd bellach ar rediad o naw gêm heb fuddugoliaeth ac os na fedran nhw sicrhau triphwynt allweddol y penwythnos yma yna bydd hogiau’r de-ddwyrain yn wynebu brwydr go iawn i aros yn y gynghrair. 

Mae Aberystwyth wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf gan sgorio saith gôl, ac hynny ar ôl sgorio dim ond 14 gôl yn eu 18 gêm gynghrair flaenorol. 

Record cynghrair diweddar: 

Aberystwyth: ❌➖❌✅✅
Hwlffordd: ➖❌➖➖❌
 

Y Barri (10fed) v Pen-y-bont (2il) | Nos Wener – 19:45 

Mae Pen-y-bont wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol, a nawr y nod i dîm Rhys Griffiths bydd ceisio dal eu gafael ar yr 2il safle er mwyn cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn hanes y clwb. 

Mae’r Barri wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, ond mae’n edrych fel mae brwydr i osgoi’r cwymp fydd hi i fechgyn Gavin Chesterfield am weddill y tymor, gan mae dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu’r Dreigiau a’r ddau isaf. 

Mae hogiau Rhys Griffiths ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn Y Barri ac wedi ennill pedair o’r gemau rheiny heb ildio gôl, yn cynnwys eu buddugoliaeth gyfforddus o bedair i ddim y penwythnos diwethaf. 

Mae’r Barri wedi colli chwech o’u saith gêm ddiwethaf, tra bod Pen-y-bont ond wedi colli un o’u wyth gêm ddiwethaf, a’r golled honno yn dod mewn gêm agos oddi cartref yn erbyn y ceffylau blaen (YSN 3-2 Pen). 

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ✅❌✅͏͏➖✅
Y Barri: ❌❌❌✅❌ 

 

Dydd Sadwrn, 12 Chwefror 

Met Caerdydd (8fed) v Y Drenewydd (2il) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl dechrau arbennig i’r tymor dyw pethau heb fynd cystal i’r Drenewydd ers y toriad dros y Nadolig gyda’r Robiniaid yn cael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Hwlffordd cyn colli 1-0 yn erbyn Y Bala. 

Er hynny, dim ond pwynt sydd ei angen ar Y Drenewydd o’u tair gêm nesaf i sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf. 

Bydd Met Caerdydd yn benderfynol o roi siom ddydd Sul y tu ôl iddyn nhw ar ôl colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG. 

Mae gan Met Caerdydd a’r Drenewydd gêm wrth gefn ar y gweddill, i’w chwarae yn erbyn ei gilydd y penwythnos nesaf, a gyda’r myfyrwyr ar rediad o bum gêm gynghrair heb golli, tydyn nhw ddim allan o’r ras am y Chwech Uchaf eto. 

Dyw’r Drenewydd heb ennill oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd ers 1999 pan oedd y clwb yn chwarae dan enw Inter Caerdydd. 

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ✅➖͏➖✅➖ 

Y Drenewydd: ✅✅✅➖❌ 

 

Caernarfon (7fed) v Y Bala (5ed) | Dydd Sadwrn – 17:15 

Ar ôl curo’r Cofis o dair i ddim nos Wener diwethaf, mae’r Bala’n gwybod y byddai buddugoliaeth arall ddydd Sadwrn yn sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am yr wythfed tymor yn olynol. 

Mae Caernarfon wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, ond gyda dim ond dwy gêm i fynd tan yr hollt, mae’r Canerîs un pwynt yn brin o’r hanner uchaf. 

Wedi dweud hynny, byddai Caernarfon yn elwa ac yn codi i’r Chwech Uchaf os caiff Cei Connah eu profi’n euog o dorri rheolau’r gynghrair. 

Tydi’r Bala heb golli mewn pum gêm (pedair llechen lân) a bellach dim ond dau bwynt sy’n gwahanu tîm Colin Caton a Phen-y-bont (2il) yn y ras i gyrraedd Ewrop. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ➖✅➖✅✅
Caernarfon: ➖✅✅❌❌
 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?