Mae’n benwythnos mawr yn yr uwch gynghrair wrth i’r ddau uchaf gyfarfod yn Neuadd y Parc – wedi i’r Seintiau Newydd golli ganol wythnos yn erbyn Llansawel!
Roedd gan y Seintiau gyfle i godi o fewn pwynt i’r ceffylau blaen, Pen-y-bont nos Fercher, ond fe gollodd y pencampwyr am y pedwerydd tro’n y gynghrair y tymor hwn.
Chwe rownd o gemau sydd i fynd tan yr hollt yn y gynghrair ac ar y funud mae sawl enw mawr yn eistedd yn yr hanner isaf ac yn gobeithio cipio lle yn y Chwech Uchaf ar gyfer ail ran y tymor.
Mae’r Bala, Cei Connah a’r Drenewydd yn glybiau sydd wedi cystadlu’n gyson yn yr hanner uchaf dros y degawd diwethaf ac mae’n syndod gweld y timau rheiny yn llechu yn yr hanner isaf.
Yn hanesyddol, 31 pwynt yw’r swm sydd ei angen i hawlio lle’n y Chwech Uchaf, ac mae Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd eisoes wedi pasio’r targed hwnnw, a dyw Hwlffordd ddim rhy bell ar eu holau.
Dim ond chwe phwynt sy’n gwahanu’r chwe clwb yng nghanol y tabl, ac felly mae’r gemau rhwng Y Drenewydd a Chei Connah, a’r ornest rhwng Caernarfon a’r Barri yn rhai hollbwysig yn y ras am y Chwech Uchaf.
A bydd dau o’r tri isaf yn cyfarfod ar Gae-y-Castell wrth i’r Fflint herio Llansawel yn frwydr i osgoi’r cwymp.
Nos Wener, 22 Tachwedd
Y Drenewydd (9fed) v Cei Connah (8fed) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)
Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhump o’r chwe tymor diwethaf, ac er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd yr ymgyrch hwnnw.
Ond tydi’r sefyllfa ddim yn edrych mor addawol eleni gan bod y Robiniaid m’ond wedi ennill un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf gan syrthio o’r trydydd i’r nawfed safle.
Callum McKenzie sydd wedi cymryd yr awennau dros dro ers i Scott Ruscoe gael ei ddiswyddo, ac yn ei unig gêm wrth y llyw hyd yma fe gollodd Y Drenewydd o 3-1 yn erbyn Aberystwyth.
Mae Cei Connah yn hafal ar bwyntiau gyda’r Drenewydd, ond tra bo’r hwyliau’n isel ar Barc Latham, mae’r canlyniadau wedi gwella i Gei Connah yn ddiweddar.
Enillodd y Nomadiaid o 2-1 yn Nhrefelin ddydd Sadwrn diwethaf i selio eu lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru, ac honno oedd eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref ers mis Awst.
Mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal, ond dyw’r Drenewydd heb ennill gartref yn erbyn Cei Connah ers wyth mlynedd gan golli chwe gwaith a chael pedair gêm gyfartal ar Barc Latham ers hynny.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏✅❌❌➖❌
Cei Connah: ͏➖✅❌✅❌
Dydd Sadwrn, 23 Tachwedd
Caernarfon (6ed) v Y Barri (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Un pwynt yn unig sy’n gwahanu’r ddau glwb yma, a byddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn gam enfawr at sicrhau lle yn y Chwech Uchaf.
Enillodd Caernarfon o 1-0 oddi cartref yn Llansawel bythefnos yn ôl gan ddod a rhediad o bum gêm heb ennill i ben.
Ond dyw’r Cofis heb fod yn tanio ar yr Oval eleni gyda charfan Richard Davies yn ennill dim ond dwy o’u wyth gêm gartref y tymor hwn.
Mae’r Barri yn mwynhau cyfnod campus ar ôl ennill pump o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf, a dim ond y ddau uchaf (Pen-y-bont ac YSN) sydd wedi llwyddo i guro tîm Steve Jenkins ers mis Awst.
Cyfartal 1-1 oedd hi’n y gêm gyfatebol ar Barc Jenner ym mis Medi ar ôl i Louis Lloyd a Sam Snaith sgorio yn y 10 munud agoriadol.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌➖❌✅
Y Barri: ✅✅✅❌✅
Hwlffordd (3ydd) v Y Bala (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 8 gôl mewn 16 gêm), ond dim ond y tri isaf sydd wedi sgorio llai na’r Adar Gleision (20 gôl).
Dim ond 28 gôl sydd wedi ei sgorio yn 16 gêm gynghrair Hwlffordd y tymor hwn (cyfartaledd o 1.75 gôl y gêm) sy’n profi pa mor dynn yw gemau’r Adar Gleision eleni.
Mae tîm Tony Pennock yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm gan nad yw’r Adar Gleision wedi gorffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle.
31 o bwyntiau ydi’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai triphwynt i Hwlffordd brynhawn Sadwrn yn eu codi dros y trothwy hwnnw.
Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ond mae Gwŷr Gwynedd mewn perygl o fethu’r nod eleni ar ôl rhediad o saith gêm gynghrair heb ennill ers eu buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Medi.
Enillodd y ddau dîm ar giciau o’r smotyn yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru y penwythnos diwethaf, a does neb wedi cael mwy o gemau cyfartal yn y gynghrair na’r Bala (9) a Hwlffordd (5) y tymor hwn, felly mae’n debygol o fod yn gêm agos ar Barc Waun Dew.
Enillodd Hwlffordd o 2-0 oddi cartref ar Faes Tegid yn gynharach yn y tymor, ond dyw’r Adar Gleision erioed wedi ennill gêm gartref yn erbyn Y Bala.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅➖✅➖✅❌
Y Bala: ➖➖➖➖➖
Met Caerdydd (4ydd) v Aberystwyth (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
O’r diwedd mae Aberystwyth wedi penodi rheolwr newydd yn dilyn ymadawiad Anthony Williams ar ddechrau mis Hydref.
Antonio Corbisiero sy’n dychwelyd i gymryd yr awennau ar Goedlan y Parc, dwy flynedd ers gadael y rôl fel rheolwr wedi un tymor wrth y llyw yn 2021/22 pan orffennodd y clwb yn 8fed, sef eu safle gorau yn y pum tymor diwethaf.
Hanner ffordd drwy’r tymor ac mae Aberystwyth un pwynt o dan diogelwch y 10fed safle, felly mae digon o amser i Corbisiero arwain y Gwyrdd a’r Duon o’r dyfnderoedd.
Wedi rhediad o gemau caled bydd Met Caerdydd yn gobeithio troi’r gornel ddydd Sadwrn ar ôl ennill dim ond un o’u pum gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.
Ond mae Met Caerdydd ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn Aberystwyth, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 2-1 ar Goedlan y Parc ym mis Medi (ennill 7, cyfartal 1).
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏❌➖✅❌➖
Aberystwyth: ͏❌✅❌❌✅
Y Fflint (11eg) v Llansawel (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd hi’n gêm allweddol yn y frwydr i osgoi’r cwymp rhwng Y Fflint a Llansawel, sef y ddau glwb esgynnodd i’r uwch gynghrair eleni, ac sy’n ysu i beidio syrthio’n syth yn ôl i’r ail haen.
Bydd Llansawel yn llawn hyder ar ôl curo’r Seintiau Newydd nos Fercher gan godi uwchben Y Fflint i ddiogelwch y 10fed safle.
Llansawel yw’r pedwerydd tîm i guro’r Seintiau’n y gynghrair y tymor hwn, ond mae’r tri clwb blaenorol i wneud hynny wedi methu ac ennill eu gêm ganlynol ar ôl trechu’r pencampwyr (Pen-y-bont – curo’r Seintiau yna colli vs Llansawel, Y Bala – curo’r Seintiau yna cyfartal vs Llansawel, Caernarfon – curo’r Seintiau yna colli vs Drenewydd).
Mae’r Fflint wedi colli eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf, ac ond wedi sicrhau pedwar pwynt o’r 24 posib yn eu wyth gêm gartref yn y Cymru Premier JD y tymor hwn.
Mae Llansawel wedi colli pump o’u chwe gêm oddi cartre’n y gynghrair, ond mae gan hogiau Andy Dyer gêm wrth gefn.
Gorffennodd hi’n 1-1 yn y gêm gyntaf erioed rhwng y clybiau ym mis Medi gyda Elliott Reeves a Kian Jenkins yn sgorio’r goliau yn yr ail hanner ar yr Hen Heol.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏➖❌❌❌❌
Llansawel: ❌❌✅❌✅
Y Seintiau Newydd (2il) v Pen-y-bont (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd y Seintiau yn gobeithio taro’n ôl yn erbyn Pen-y-bont wedi iddyn nhw golli ganol wythnos o 3-1 yn erbyn Llansawel, sydd ar waelod y gynghrair – y tro cynta ers 2011 i’r Seintiau golli yn erbyn tîm o waelod y gynghrair (Lido Afan).
Dyma’r tro cyntaf i’r Seintiau golli pedair gêm gynghrair mewn tymor ers 2019/20 pan orffennon nhw’n 2il y tu ôl i Gei Connah.
2018/19 oedd y tro diwethaf i glwb golli pedair gêm gynghrair mewn tymor a mynd ymlaen i ennill y bencampwriaeth, a’r Seintiau Newydd oedd rheiny.
Methodd Pen-y-bont a chyrraedd y Chwech Uchaf y tymor diwethaf, ond ar ôl dechrau rhagorol i’r ymgyrch yma mae tîm Rhys Griffiths yn cystadlu am y bencampwriaeth ar ôl colli dim ond un o’u 22 gêm gynghrair ddiwethaf (0-1 vs Llansawel).
Dyw Pen-y-bont heb golli yn eu 14 gêm gynghrair oddi cartref diwethaf (ennill 11, cyfartal 3), ers eu hymweliad diwethaf â Neuadd y Parc ym mis Rhagfyr 2023 (YSN 3-0 Pen).
Pen-y-bont oedd yn dathlu wedi’r gêm gyfatebol ym mis Medi ar ôl sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Y Seintiau Newydd diolch i beniad cynnar gan Clayton Green a pheniad hwyr gan Chris Venables yn Stadiwm Gwydr SDM (Pen 2-1 YSN)
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅❌
Pen-y-bont: ͏✅➖➖✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.