S4C

Navigation

Wedi pum gêm gynghrair mae’r Seintiau Newydd a’r Bala wedi torri’n glir ar frig y tabl fel yr unig dimau sydd heb golli hyd yma, ond gyda’r ddau glwb yn brysur yn cystadlu yng Nghwpan Her yr Alban y penwythnos yma bydd gweddill y pac yn awyddus i neidio ar y cyfle i gau’r bwlch ar y copa. 

 

 

Nos Wener, 8 Medi 

 

Met Caerdydd v Pontypridd | Nos Wener – 19:45  

 

Mae Met Caerdydd a Pontypridd yn hafal ar bwyntiau yng nghanol y tabl ar ôl ennill dwy, colli un a chael dwy gêm gyfartal yn y gynghrair hyd yn hyn. 

 

Doedd Met Caerdydd heb ildio gôl yn eu pedair gêm agoriadol nes eu colled o 2-1 yn erbyn Y Drenewydd nos Wener diwethaf. 

 

Pontypridd yw’r unig dîm i ildio llai na Met Caerdydd eleni gyda George Ratcliffe yn ildio dim ond unwaith mewn pum gêm hyd yma, ac honno yn erbyn Y Seintiau Newydd. 

 

Mae Met Caerdydd wedi ennill eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Pontypridd ac heb golli yn erbyn y clwb o’r Rhondda ers 2007. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ✅➖✅➖❌ 

Pontypridd: ➖❌➖✅✅ 

 

 

Dydd Sadwrn, 9 Medi 

 

Aberystwyth v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Mae Aberystwyth wedi cael dechrau difrifol i’r tymor, heb ennill ac heb sgorio wedi’r bum gêm agoriadol. 

 

Dim syndod felly mae Aberystwyth sydd â’r record amddiffynnol waethaf yn y gynghrair ar ôl ildio 12 gôl, a hanner rheiny yn cael eu sgorio gan Y Seintiau Newydd nos Wener (YSN 6-0 Aber). 

 

Ac ar ôl dechrau cadarn gyda dwy fuddugoliaeth o’r bron mae pethau wedi arafu yng Nghaernarfon hefyd gyda’r Cofis bellach ar rediad o dair gêm heb ennill yn dilyn eu colled o 4-0 gartref yn erbyn Cei Connah nos Wener. 

 

Bydd Aberystwyth yn cymryd hyder o’r ffaith iddynt ennill eu tair gêm flaenorol yn erbyn Caernarfon, a dyw’r Cofis heb fod ar eu gorau wrth deithio’n bell gan ennill dim ond un o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf yn y de neu’r canolbarth (colli 7, cyfartal 2). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Aberystwyth: ❌❌➖❌❌ 

Caernarfon: ✅✅➖͏͏͏➖❌ 

 

 Hwlffordd v Y Drenewydd | Dydd Sadwrn – 14:30 

 

Bydd Hwlffordd a’r Drenewydd wedi teimlo’r rhyddhad y penwythnos diwethaf ar ôl sicrhau eu buddugoliaethau gyntaf y tymor hwn. 

 

Wedi tair gêm gyfartal mewn pedair gêm fe lwyddodd Hwlffordd i gipio’r triphwynt oddi cartref ym Mae Colwyn gyda Kai Whitmore yn disgleirio eto i’r Adar Gleision. 

 

Roedd Y Drenewydd wedi dechrau’n araf ac felly roedd hi’n ychydig o syndod pan enillon nhw o 2-1 yn erbyn Met Caerdydd nos Wener gan ddod y tîm cyntaf i guro amddiffyn y myfyrwyr eleni. 

 

Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y timau ers i Hwlffordd guro’r Drenewydd ar giciau o’r smotyn yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai gan selio eu lle’n Ewrop.  

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ➖❌➖➖✅ 

Y Drenewydd: ❌❌➖❌✅ 

 

Pen-y-bont v Bae Colwyn | Dydd Sadwrn – 14:30  

 

Mae Pen-y-bont wedi llithro lawr y tabl ar ôl rhediad o dair gêm heb fuddugoliaeth, yn cynnwys eu colled gyntaf y tymor yma yn erbyn Y Bala brynhawn Sadwrn. 

 

Bydd Bae Colwyn yn gwneud y daith i’r de am y trydydd tro’r tymor yma gyda’r Gwylanod yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf yn yr uwch gynghrair. 

 

Mae tîm Steve Evans yn hafal ar bwyntiau gydag Aberystwyth yn safleoedd y cwymp gyda dim ond un pwynt o’u pum gêm agoriadol, a bydd y ddau isaf yn cyfarfod mewn gêm allweddol y penwythnos nesaf. 

 

Dyw Pen-y-bont ond wedi colli un o’u 10 gêm gynghrair gartref yn 2023, ac honno yn erbyn YSN, felly fydd hi’n her i Fae Colwyn yn yr ornest gyntaf erioed rhwng y ddau glwb. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ✅✅➖➖❌ 

Bae Colwyn: ❌➖❌❌❌ 

 

Y Barri v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 14:30  

 

Fel Bae Colwyn, mae’r Barri wedi cael amser caled ers eu dyrchafiad ac mae Steve Jenkins yn dal i aros am ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr y Dreigiau. 

 

Y Barri yw’r unig dîm i gymryd pwynt oddi ar Y Seintiau Newydd y tymor yma, ond oni bai am hynny mae’r canlyniadau wedi bod yn siomedig i glwb Parc Jenner. 

 

Mae Cei Connah wedi camu i’r trydydd safle ar ôl curo Caernarfon yn gyfforddus (Cfon 0-4 Cei), ac mae hogiau Neil Gibson yn siwr o gystadlu tua’r brig eto eleni. 

 

Ond dyw Cei Connah ond wedi ennill un o’u pedair gêm flaenorol oddi cartref yn Y Barri gyda’r Nomadiaid yn gweld tri cerdyn coch yn y gemau rheiny. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ❌➖➖➖❌ 

Cei Connah: ❌✅❌✅✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Fawrth am 6:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?