Ymhen wythnos bydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy ac am weddill y tymor bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am le’n Ewrop, tra bydd timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.
Mae’r Seintiau Newydd, Cei Connah, Y Bala, Y Drenewydd a Met Caerdydd eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr hanner uchaf, ond mae’n ras dri cheffyl rhwng Caernarfon, Pen-y-bont a Hwlffordd am yr un safle olaf.
Tua’r gwaelod mae yna bedwar clwb sydd mewn brwydr agos i osgoi’r cwymp a bydd dau o rheiny yn cyfarfod mewn gêm allweddol nos Wener.
Nos Wener, 5 Ionawr
Aberystwyth (11eg) v Bae Colwyn (10fed) | Nos Wener – 20:00
Dwy gêm i fynd tan yr hollt a dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Aberystwyth yn safleoedd y cwymp a Bae Colwyn sy’n ddiogel am y tro yn y 10fed safle.
Pontypridd yw’r unig glwb sy’n îs yn y tabl ac hynny oherwydd iddyn nhw dderbyn chwe phwynt o gosb, felly Aberystwyth a Bae Colwyn yw’r ddau glwb sydd â’r record waethaf ar y cae gyda’r ddau dîm wedi colli 14 o’u 20 gêm gynghrair hyd yma.
Does neb wedi ennill llai gemau nac Aberystwyth y tymor hwn (3/20), a neb wedi ildio mwy o goliau na Bae Colwyn (ildio 2.25 gôl y gêm) felly mae’n gaddo i fod yn ornest gystadleuol ger y gwaelod.
Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol ers ffurfio Uwch Gynghrair Cymru yn 1992 (gyda’r Drenewydd), tra bo Bae Colwyn yn cystadlu’n y gynghrair am y tro cyntaf eleni ac yn benderfynol o beidio syrthio’n syth yn ôl i Gynghrair y Gogledd.
Gorffennodd hi’n 3-1 i Fae Colwyn yn y gêm gyntaf erioed rhwng y clybiau ym mis Medi a bydd y Gwylanod yn gobeithio am ganlyniad tebyg i ddod a’u rhediad o bedair colled yn olynol yn y gynghrair i ben.
Dyw Aberystwyth heb ennill gêm gynghrair ers deufis gan golli chwech a chael un gêm gyfartal ers hynny, ac mae’r Gwyrdd a’r Duon yn parhau i aros am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair ar Goedlan y Parc ers curo Caernarfon ar benwythnos ola’r tymor diwethaf ym mis Ebrill.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Aberystwyth: Barr (c)
Bae Colwyn: Pont (c)
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏➖❌❌❌❌
Bae Colwyn: ❌❌❌❌✅
Dydd Sadwrn, 6 Ionawr
Y Barri (9fed) v Y Drenewydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Aros yn y gynghrair fydd y brif nod i’r Barri erbyn hyn gan eu bod bum pwynt uwchben y ddau isaf gyda 12 gêm ar ôl yn y tymor.
Methodd y Dreigiau a sgorio yn eu pedair gêm ym mis Rhagfyr, gan golli deirgwaith cyn cael gêm ddi-sgôr yn erbyn Met Caerdydd y penwythnos diwethaf.
Er colli eu dwy gêm ddiwethaf mae’r Drenewydd wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf gan i ganlyniadau eraill fynd o’u plaid.
Dyma’r wythfed tro mewn 11 mlynedd i’r Drenewydd hawlio eu lle yn yr hanner uchaf, ac ar ôl cyrraedd Ewrop deirgwaith yn y degawd diwethaf bydd y Robiniaid yn anelu i gyflawni hynny eto eleni.
Hydref 2019 oedd y tro diwethaf i’r Barri drechu’r Drenewydd a dyw hogiau Chris Hughes heb golli mewn saith gêm yn erbyn y Dreigiau (ennill 5, cyfartal 2) gyda prif sgoriwr y gynghrair Aaron Williams yn sgorio ddwywaith yn y fuddugoliaeth flaenorol ym mis Medi (Dre 2-0 Barr).
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Y Barri: Aber (oc)
Y Drenewydd: YSN (oc)
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ➖❌❌➖✅
Y Drenewydd: ❌❌✅✅➖
Y Seintiau Newydd (1af) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau rhediad o 29 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi ennill 21 yn olynol gan dorri 12 pwynt yn glir o Gei Connah ar frig y gynghrair gyda gêm wrth gefn.
Dyma rediad gorau’r clwb o Groesoswallt ers Awst 2016 i Chwefror 2017 (31 gêm heb golli), ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe dorron nhw record y byd gyda 27 buddugoliaeth yn olynol.
Er methu a sgorio yn eu dwy gêm gynghrair ddiwethaf mae Met Caerdydd wedi selio eu lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol a bydd bechgyn y brifddinas yn troi eu sylw bellach at geisio hawlio lle’n Ewrop am y tro cyntaf ers 2019.
Methodd Met Caerdydd a sgorio nos Fercher chwaith cyn colli ar giciau o’r smotyn yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn tîm dan 21 Abertawe.
Bydd yn rhaid i’r myfyrwyr fod yn wyliadwrus ddydd Sadwrn gan i’r Seintiau Newydd sgorio 25 gôl yn eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Met Caerdydd yn cynnwys crasfa o 5-1 ar Gampws Cyncoed yn gynharach y tymor hwn.
Dioddefodd Met Caerdydd eu colled drymaf erioed gartref ac oddi cartref yn y gynghrair yn erbyn Y Seintiau Newydd y tymor diwethaf (Met 0-7 YSN, YSN 7-1 Met).
Ond yn rhyfeddol tîm Ryan Jenkins oedd yr unig rai i guro cewri Croesoswallt hefyd, ac hynny o 3-2 ar Gampws Cyncoed ym mis Chwefror, sef unig golled y Seintiau yn eu 58 gêm gynghrair ddiwethaf.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Y Seintiau Newydd: Dre (c)
Met Caerdydd: Cfon (c)
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Met Caerdydd: ➖❌✅✅➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.