S4C

Navigation

Bydd dwy gêm yn cael ei chwarae yn y Cymru Premier JD nos Wener gyda’r Bala a Chaernarfon yn mynd benben yn ras am y Chwech Uchaf, tra bod Pen-y-bont yn gobeithio cadarnhau eu lle yn yr hanner uchaf. 

 

Nos Wener, 4 Chwefror 

Pen-y-bont (4ydd) v Y Barri (10fed) | Nos Wener – 19:45 

Gyda tair gêm i fynd tan yr hollt dim ond triphwynt sydd ei angen ar Ben-y-bont i sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol. 

Dyw Pen-y-bont ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf, a’r golled honno yn dod mewn gêm agos oddi cartref yn erbyn y ceffylau blaen (YSN 3-2 Pen). 

Cafodd Y Barri ganlyniad ardderchog oddi cartref yn erbyn Cei Connah y penwythnos diwethaf (Cei 2-3 Barri), sef eu buddugoliaeth gyntaf yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ers 19 mlynedd. 

Mae’r Barri wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, ac yn fathemategol, tydi tîm Gavin Chesterfield ddim allan o’r ras eleni, ond gan mae dim ond pedwar pwynt sy’n gwahanu’r Dreigiau ac Hwlffordd (11eg) mae’n debyg mae camu’n glir o’r gwaelodion yw’r unig nod i’r Barri ar hyn o bryd. 

Mae hogiau Rhys Griffiths ar rediad o bedair gêm heb golli yn erbyn Y Barri ac wedi ennill tair o’r gemau rheiny heb ildio gôl. 

Record cynghrair diweddar: 

Pen-y-bont: ✅✅❌✅͏͏
Y Barri: ❌❌❌❌✅ 

 

Y Bala (5ed) v Caernarfon (7fed) | Nos Wener – 19:45 

Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r Bala a Chaernarfon, a gyda’r clybiau’n cwrdd eto y penwythnos nesaf mae rhain yn gemau allweddol yn y frwydr i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

Mae’r Cofis wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, tra bod Y Bala wedi gorffen yn yr hanner uchaf am saith mlynedd yn olynol. 

Tydi’r Bala heb golli mewn pedair gêm (tair llechen lân) a byddai buddugoliaeth nos Wener yn eu gadael ond dau bwynt y tu i’r Fflint (2il) yn y ras i gyrraedd Ewrop. 

Dyw Caernarfon ond wedi colli un o’u pedair gêm ddiwethaf yn erbyn criw Colin Caton (ennill 2, cyfartal 1) a bydd Huw Griffiths yn teimlo rhyddhad o weld bod gwaharddiad Chris Venables yn parhau am y ddwy gêm nesaf gan i gapten Y Bala rwydo wyth gôl yn ei saith gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Bala: ❌➖✅➖✅
Caernarfon: ❌➖✅✅❌
 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?