Tair gêm i fynd yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru a dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Cei Connah a’r Seintiau Newydd yn y ras am y bencampwriaeth.
CHWECH UCHAF
Caernarfon (6ed) v Y Bala (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45
Wedi buddugoliaeth gyfforddus yn Y Barri ddydd Sadwrn mae’r Bala wedi sicrhau’r trydydd safle gan selio eu lle’n Ewrop.
Roedd hi’n brynhawn i’w gofio i’r capten Chris Venables, sgoriodd hatric ar Barc Jenner i gyrraedd y garreg filltir anhygoel o 200 o goliau cynghrair.
Venables yw prif sgoriwr y gynghrair eto eleni gyda 24 o goliau hyd yma, ac ar ôl sgorio wyth gôl yn ei chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y Cofis, bydd yr ymosodwr profiadol yn hyderus o ychwanegu at ei gyfanswm nos Fawrth.
Mae Caernarfon ar rediad o wyth gêm heb fuddugoliaeth, eu cyfnod salaf yn yr uwch gynghrair ers 2009.
Canlyniadau tymor yma: Caernarfon 1-1 Y Bala, Y Bala 1-2 Caernarfon, Y Bala 5-2 Caernarfon
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌❌➖➖
Y Bala: ✅❌✅✅✅
Pen-y-bont (4ydd) v Y Seintiau Newydd (2il) | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd wedi mynd ar rediad o dair gêm heb ennill am y tro cynta’r tymor hwn, a bydd angen dod a’r rhediad i ben nos Fawrth os am gadw’r pwysau ar Gei Connah yn y ras am y bencampwriaeth.
Dyw’r criw o Groesoswallt heb sgorio yn eu dwy gêm ddiwethaf, ond mae Anthony Limbrick yn gwybod bod dim ond angen i Gei Connah faglu unwaith i roi’r bencampwriaeth yn ôl yn nwylo’r Seintiau.
Fydd hi’n her i dîm Rhys Griffiths gan bod Pen-y-bont wedi colli pob un o’u chwe gêm flaenorol yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Canlyniadau tymor yma: Pen-y-bont 0-4 Y Seintiau Newydd, Y Seintiau Newydd 2-1 Pen-y-bont, Y Seintiau Newydd 1-0 Pen-y-bont
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌➖✅✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅❌➖➖
Y Barri (5ed) Cei Connah (1af) | Nos Fawrth – 19:45
Mae tynged Cei Connah yn nwylo eu hunain – ennill eu tair gêm nesaf a nhw fydd pencampwyr Cymru am yr ail dymor yn olynol.
A bydd hyder y Nomadiaid yn uchel gan nad yw tîm Andy Morrison wedi colli dim un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 5, cyfartal 4).
Mae’r Barri wedi bod ar rediad gwael ers yr hollt ac ond wedi ennill un pwynt o’u chwe gêm ddiwethaf.
Canlyniadau tymor yma: Y Barri 0-0 Cei Connah, Cei Connah 3-1 Y Barri, Cei Connah 1-0 Y Barri
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌➖❌❌❌
Cei Connah: ✅✅✅❌➖
CHWECH ISAF
Aberystwyth (10fed) v Hwlffordd (8fed) | Nos Fawrth – 19:45
Pum gêm heb ennill ac mae Hwlffordd wedi llithro o’r 7fed safle ac mewn perygl o syrthio’n îs i lawr y tabl cyn diwedd y tymor.
Er bod eu record yn weddol hafal, does dim un o’r 11 gêm ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal (Aberystwyth yn ennill 6, Hwlffordd yn ennill 5).
Canlyniadau tymor yma: Hwlffordd 2-0 Aberystwyth, Aberystwyth 2-1 Hwlffordd, Hwlffordd 1-0 Aberystwyth
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ❌✅➖✅❌
Hwlffordd: ❌❌➖❌❌
Derwyddon Cefn (12fed) v Y Fflint (11eg) | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Derwyddon wedi colli eu chwe gêm ddiwethaf, ac felly’n sicr o orffen ar waelod y tabl eleni.
Mae’r Fflint yn hafal ar bwyntiau gydag Aberystwyth, ac er na fydd neb yn syrthio o’r uwch gynghrair yr haf yma, bydd Neil Gibson yn benderfynol o beidio gorffen yn y ddau safle isaf er mwyn teimlo bod ei dîm wedi haeddu eu lle’n y brif adran y tymor nesaf.
Canlyniadau tymor yma: Derwyddon Cefn 1-2 Y Fflint, Y Fflint 1-2 Derwyddon Cefn, Y Fflint 5-0 Derwyddon Cefn
Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ❌❌❌❌❌
Y Fflint: ✅❌➖❌✅
Y Drenewydd (7fed) v Met Caerdydd (9fed) | Nos Fawrth – 19:45
Dechreuodd Y Drenewydd ail ran y tymor naw pwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y 7fed safle, ond ar ôl saith gêm heb golli fe all y Robiniaid sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle nos Fawrth.
Mae’r myfyrwyr hefyd yn mwynhau cyfnod llwyddiannus ac ar rediad cryf o chwe gêm heb golli.
Ond mae’r fantais seicolegol gan y Robiniaid, gan nad yw’r tîm sy’n chwarae oddi cartref wedi ennill dim un o’r 10 gêm ddiwethaf rhwng y clybiau yma (ers i Met ennill 0-1 ar Barc Latham yn Rhagfyr 2016).
Canlyniadau tymor yma: Met Caerdydd 2-1 Y Drenewydd, Y Drenewydd 4-1 Met Caerdydd, Met Caerdydd 2-2 Y Drenewydd
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅✅✅✅✅
Met Caerdydd: ✅✅➖✅✅