S4C

Navigation

Saith gêm i fynd yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru ac ar ôl sicrhau eu lle yn Ewrop dros y penwythnos mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah yn parhau’n hafal ar bwyntiau yn y ras am y bencampwriaeth.

CHWECH UCHAF 

Caernarfon (6ed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45 

Y Seintiau Newydd sydd ar frig y tabl ar wahaniaeth goliau yn dilyn rhediad arbennig o chwe buddugoliaeth yn olynol, ac heb ildio gôl yn eu tair gêm ers penodi Anthony Limbrick yn brif hyfforddwr. 

Mae’r clwb o Groesoswallt wedi gwneud penodiad cyffrous arall yr wythnos hon wrth i Gary Brabin ymuno â’r clwb fel Cyfarwyddwr Pêl-droed. 

Bydd Caernarfon yn gobeithio dod â’u rhediad gwael i ben ar ôl colli pedair yn olynol am y tro cyntaf ers dwy flynedd, gan ildio 11 gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf. 

Sgoriodd y Seintiau bedair gwaith yn y ddwy gêm yn erbyn y Cofis yn rhan gynta’r tymor, a bydd Anthony Limbrick yn mynnu am fwy o goliau ar yr Oval nos Fawrth i gadw’r Seintiau ar gopa’r gynghrair. 

Canlyniadau tymor yma: Caernarfon 0-4 Y Seintiau Newydd, Y Seintiau Newydd 4-1 Caernarfon 

Record cynghrair diweddar:    

Caernarfon: ✅❌❌❌❌ 

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅ 

 

Cei Connah (2il) v Y Bala (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45 (Yn fyw arlein) 

Mae Cei Connah, fel y Seintiau Newydd, wedi sicrhau eu lle’n Ewrop unwaith yn rhagor eleni, a dyna ydi’r nod i’r Bala hefyd, sydd bellach naw pwynt uwchben Y Barri yn y ras am y trydydd safle. 

Dyw Cei Connah heb golli dim un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Bala (ennill 7, cyfartal 2), a dyw criw Colin Caton ond wedi ennill un o’u 19 gêm ddiwethaf yn erbyn tîm Andy Morrison. 

Bydd dau o brif sgorwyr y gynghrair yn mynd benben gyda Chris Venables yn gobeithio ymuno â Michael Wilde yn y ’Clwb 200’ wedi i gapten Y Bala sgorio ei 199fed gôl gynghrair ddydd Sadwrn. 

Canlyniadau tymor yma: Cei Connah 1-1 Y Bala, Y Bala 1-3 Cei Connah 

Record cynghrair diweddar:    

Cei Connah: ✅✅❌✅✅ 

Y Bala❌✅❌✅✅ 

 

Y Barri (4ydd) v Pen-y-bont (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Ar ôl colli eu dwy gêm ddiwethaf bydd Y Barri a Phen-y-bont yn awyddus am ymateb nos Fawrth. 

Dim ond pwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb ac yn dilyn canlyniadau’r penwythnos roedd y ddau reolwr yn cydnabod bod cyrraedd y 3ydd safle yn anhebygol bellach, ac mae’r gemau ail gyfle yw’r llwybr mwyaf realistig i gyrraedd Ewrop eleni. 

Dyw’r Barri heb sgorio yn eu dwy gêm ddiwethaf, na chwaith wedi sgorio yn eu dwy gêm yn erbyn Pen-y-bont yn rhan gynta’r tymor. 

Canlyniadau tymor yma: Y Barri 0-1 Pen-y-bont, Pen-y-bont 1-0 Y Barri 

Record cynghrair diweddar:    

Y Barri: ✅✅✅❌❌ 

Pen-y-bont: ➖✅✅❌❌ 

 

CHWECH ISAF 

Derwyddon Cefn (12fed) v Aberystwyth (10fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Ar ôl colli tair gêm yn olynol, bydd Aberystwyth yn gobeithio dod a’r rhediad sâl i ben yn erbyn Derwyddon Cefn, sef yr unig glwb i golli ddwywaith yn erbyn Aberystwyth yn rhan gynta’r tymor. 

Dyw’r Derwyddon ond wedi ennill un o’u chwe gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth ac mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi sgorio saith gôl yn erbyn y Derwyddon y tymor hwn, gan saith sgoriwr gwahanol. 

Canlyniadau tymor yma: Derwyddon Cefn 0-4 Aberystwyth, Aberystwyth 3-1 Derwyddon Cefn 

Record cynghrair diweddar:    

Derwyddon Cefn: ➖❌✅❌❌ 

Aberystwyth: ➖✅❌❌❌ 

 

Met Caerdydd (11eg) v Hwlffordd (7fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Wedi 11 gêm heb ennill, daeth cyfnod truenus y myfyrwyr i ben brynhawn Sadwrn gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn y Derwyddon. 

Cafodd Hwlffordd eu curo’n racs gan y Drenewydd dros y penwythnos, a dyw’r Adar Gleision heb ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf oddi cartref yn erbyn Met Caerdydd, ers Hydref 2011. 

Canlyniadau tymor yma: Met Caerdydd 0-0 Hwlffordd, Hwlffordd 1-0 Met Caerdydd 

Record cynghrair diweddar:    

Met Caerdydd: ❌❌❌➖✅ 

Hwlffordd: ✅❌❌✅❌ 

 

Y Fflint (9fed) v Y Drenewydd (8fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Cafodd Y Fflint y dechrau perffaith i’w tymor gan guro’r Drenewydd ar Gae-y-Castell yn eu gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru ers 22 blynedd. 

Ar ôl curo Hwlffordd ddydd Sadwrn dyw’r Drenewydd ond bum pwynt y tu ôl i’r 7fed safle a lle yn y gemau ail gyfle. 

Mae’r Fflint wedi ennill bob un o’u tair gêm ers yr hollt, ac os all bechgyn Neil Gibson barhau â’u perfformiadau cryf yna pwy sydd i ddweud nad ydi’r gemau ail gyfle allan o’u gafael nhw. 

Canlyniadau tymor yma: Y Fflint 1-0 Y Drenewydd, Y Drenewydd 3-2 Y Fflint 

Record cynghrair diweddar:    

Y Fflint: ❌❌✅✅✅ 

Y Drenewydd: ❌❌✅➖✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau canol wythnos i’w gweld ar Mwy o Sgorio nos Fercher am 21:30. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?