Mae record berffaith Met Caerdydd a’r Fflint wedi dod i ben, ac Hwlffordd a’r Seintiau Newydd sy’n hafal ar y copa bellach, sef yr unig glybiau sydd heb golli yn eu tair gêm gynghrair hyd yn hyn.
Nos Fawrth, 30 Awst
Airbus UK v Y Fflint | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Fflint wedi llithro i’r 6ed safle yn dilyn eu colled gyntaf o’r tymor oddi cartref ym Mhen-y-bont brynhawn Sadwrn (Pen 2-1 Ffl).
Ond Y Fflint fydd y ffefrynnau nos Fawrth gan bod Airbus yn parhau ar waelod y tabl ar ôl colli pob un o’u tair gêm agoriadol.
Dyw’r clybiau heb gyfarfod ers i’r Fflint drechu Airbus 2-1 yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG ym mis Medi 2019, ond hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y timau yn Uwch Gynghrair Cymru.
Cei Connah v Y Bala | Nos Fawrth – 19:45
Wedi dechrau digon simsan i’r tymor bydd Cei Connah a’r Bala yn anelu i ddringo i’r hanner uchaf nos Fawrth.
Collodd Cei Connah yn erbyn y pencampwyr nos Wener (YSN 2-1 Cei), ond roedd ‘na ddathlu ar Faes Tegid wrth i’r Bala sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor yn erbyn Y Drenewydd (Bala 3-0 Dre).
Mae’n bosib fydd gan y Nomadiaid fantais seicolegol gan bod Cei Connah wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Y Bala gan sgorio wyth o goliau (Bala 0-4 Cei, Bala 1-4 Cei).
Met Caerdydd v Pontypridd | Nos Fawrth – 19:45
Wedi dechrau rhagorol i’w deyrnasiaeth fel rheolwr newydd Met Caerdydd bydd Ryan Jenkins ddim wedi mwynhau’r daith hir yn ôl i’r brifddinas yn dilyn crasfa o 5-1 yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn.
Ond tra bod y myfyrwyr â’u pen yn eu plu roedd na barti ym Mhontypridd wrth i’r newydd ddyfodiaid ennill am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair ddydd Sadwrn (Pont 2-1 Aber).
Bydd y timau’n cwrdd am y tro cyntaf ers Rhagfyr 2019, a gôl Will Evans sicrhaodd y fuddugoliaeth i’r myfyrwyr yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru bryd hynny (Met 1-0 Pont).
Pen-y-bont v Hwlffordd | Nos Fawrth – 19:45
Bydd Pen-y-bont yn gobeithio parhau â’u record berffaith gartref yn Stadiwm Gwydr SDM yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Y Bala a’r Fflint y tymor yma.
Mae Hwlffordd wedi hedfan i frig y tabl ar ôl trechu Airbus o 3-0 ddydd Sadwrn ond dyw’r Adar Gleision heb ennill dim un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont (colli 6, cyfartal 2).
Pwynt yn unig sy’n gwahanu’r ddau dîm sydd yn anelu i dorri mewn i’r tri uchaf y tymor hwn.
Y Drenewydd v Caernarfon | Nos Fawrth – 19:45
Bydd Caernarfon yn llawn hyder ar ôl rhoi cweir i Met Caerdydd ddydd Sadwrn (Cfon 5-1 Met) gan sgorio pum gôl mewn gêm am y tro cyntaf ers Rhagfyr 2019 (5-0 v Airbus).
Mae’r Drenewydd ar y llaw arall wedi edrych ychydig yn fregus ar ddechrau’r tymor gan gasglu dim ond un pwynt hyd yma ac heb sgorio unwaith.
Ond bydd Chris Hughes yn cymeryd cysur o’r ffaith bod y Robiniaid wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf yn erbyn y Caneris gan gadw pum llechen lân yn olynol.
Aberystwyth v Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth – 20:00
Yn dilyn triphwynt da yn erbyn Airbus ar y penwythnos agoriadol mae Aber bellach wedi colli dwy gêm yn olynol gan ddisgyn i lawr y tabl.
Mae’r Seintiau yn un o’r ddau dîm sydd heb golli’n y gynghrair y tymor hwn, ac ar ôl wynebu’r Drenewydd, Pen-y-bont a Chei Connah hyd yma, bydd Craig Harrison yn ddigon bodlon gyda saith pwynt o’r gemau rheiny.
Dyw’r Seintiau Newydd ond wedi ennill un o’u pedair gêm ddiwethaf oddi cartref yn Aberystwyth (colli 2, cyfartal 1), ond roedd yr un fuddugoliaeth honno yn un swmpus ‘nôl ym mis Awst 2019 (Aber 1-10 YSN).