S4C

Navigation

Mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn parhau nos Fawrth gyda gemau darbi yn Sir y Fflint ac yn y brifddinas. 

 

Nos Fawrth, 25 Ionawr

Met Caerdydd (8fed) v Y Barri (9fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Ar Gampws Cyncoed bydd Met Caerdydd yn anelu i drechu’r Barri am y pedwerydd tro’r tymor hwn. 

Mae’r myfyrwyr eisoes wedi curo’r Dreigiau yng Nghwpan Cymru, mewn gêm gynghrair ac yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG y tymor yma. 

Di-sgôr oedd hi rhwng Met Caerdydd a’r Bala brynhawn Sadwrn, ond colli bu hanes Y Barri gartref yn erbyn Y Fflint (0-1). 

Ar ddechrau’r tymor byddai’r ddau glwb wedi targedu lle yn yr hanner uchaf, ac wrth i ni agoshau at yr hollt byddai colled i’r naill dîm neu’r llall fwy neu lai yn selio eu tynged yn y Chwech Isaf. 

Record cynghrair diweddar: 

Met Caerdydd: ❌❌✅➖͏ 

Y Barri: ➖✅❌❌❌ 

 

Y Fflint (3ydd) v Cei Connah (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Y Barri ddydd Sadwrn mae’n edrych yn bur debygol bod Y Fflint wedi gwneud digon i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf eleni. 

Bydd Craig Harrison yn gobeithio am ymateb gan ei garfan yn dilyn colled yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Wener (3-1) – canlyniad ddaeth a rhediad o 11 gêm heb golli i ben i’r Nomadiaid. 

Mae Cei Connah wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint gan gadw llechen lân yn y dair gêm ddiwethaf rhwng y timau. 

Record cynghrair diweddar: 

Y Fflint: ❌✅❌❌✅ 

Cei Connah: ➖✅➖✅❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?