S4C

Navigation

Mae ‘na restr llawn o gemau i’w chwarae nos Fawrth a gyda dim ond pum gêm ar ôl yn y tymor mae’r ras am Ewrop a’r frwydr i osgoi’r cwymp yn hynod o agos a chyffrous. 

 

CHWECH UCHAF

Pen-y-bont (4ydd) v Y Drenewydd (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae gobeithion Pen-y-bont o gyrraedd Ewrop wedi cymryd dipyn o ergyd ar ôl i dîm Rhys Griffiths golli 5-0 gartref yn erbyn Y Bala ddydd Sadwrn. 

Dyma’r tro cyntaf y tymor yma i Ben-y-bont golli dwy gêm gynghrair yn olynol, ac ar ôl dechrau ail ran y tymor yn yr ail safle, bellach mae Pen-y-bont chwe phwynt y tu ôl i’r Bala. 

Dyw Pen-y-bont ond wedi ennill un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf, sef eu gêm flaenorol yn erbyn Y Drenewydd bythefnos yn ôl (Dre 1-2 Pen). 

Mae’r Drenewydd wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf ac yn gobeithio dringo uwchben Y Bala i’r ail safle nos Fawrth. 

Mae’r timau wedi cyfarfod dair gwaith y tymor yma, ac mae wedi bod yn amhosib gwahanu’r ddau dîm hyd yn hyn (Pen-y-bont yn ennill un, Y Drenewydd yn ennill un, ac un gêm gyfartal). 

Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ❌➖✅❌❌
Y Drenewydd: ❌✅❌✅✅
 

 

Y Bala (2il) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae’r Bala wedi cyrraedd Ewrop saith gwaith ers 2013, a gyda phum gêm ar ôl yn y tymor mae criw Colin Caton ddau bwynt yn glir yn yr ail safle ac yn anelu am antur Ewropeaidd arall. 

Dyw’r Bala ond wedi colli un o’u 12 gêm gynghrair ddiwethaf, sef eu gêm flaenorol yn erbyn Y Seintiau Newydd (YSN 2-1 Bala). 

Mae’r Seintiau Newydd eisoes wedi sicrhau eu lle yn Ewrop ac yng Nghwpan Her yr Alban drwy ennill y bencampwriaeth, a bydd cewri Croesoswallt yn awyddus i orffen y tymor yn gryf cyn cystadlu yn rownd derfynol Cwpan Cymru. 

Dyw’r Seintiau Newydd ond wedi colli un o’u 19 gêm oddi cartref ddiwethaf yn y gynghrair, a dyw tîm Anthony Limbrick heb golli dim un o’u naw gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 6, cyfartal 3). 

Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅❌✅✅✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅➖❌✅
 

 

Y Fflint (5ed) v Caernarfon (6ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Bydd hon yn gêm dyngedfennol i’r ddau glwb gan y byddai colled i’r naill dîm neu’r llall yn gallu golygu bod y freuddwyd o gyrraedd Ewrop ar ben. 

Mae’r Cofis un pwynt y tu ôl i’r Fflint a naw pwynt y tu ôl i’r Bala, ac felly mae angen buddugoliaeth ar y ddau dîm os am unrhyw gyfle gwirioneddol o ddal y clybiau uwch eu pennau. 

Gyda dim ond un buddugoliaeth mewn naw gêm mae hogiau Neil Gibson wedi dechrau gwegian ar ôl perfformio mor gadarn yn rhan gynta’r tymor. 

Roedd yna elfen o lwc i Gaernarfon wrth iddyn nhw elwa o gamgymeriadau Cei Connah gan gipio eu lle yn y Chwech Uchaf, ond ar ôl colli tair o’u pedair gêm ddiwethaf mae’n bosib bod Ewrop un cam yn rhy bell i’r Caneris eleni. 

Ers dyrchafiad Y Fflint yn 2020 mae’r clybiau wedi cyfarfod ar bump achlysur gyda Caernarfon yn ennill pedair o’r gemau rheiny a’r Fflint yn ennill y llall. 

Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ❌❌❌✅❌
Caernarfon: ✅❌✅❌❌
 

 

CHWECH ISAF 

Derwyddon Cefn (12fed) v Cei Connah (10fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae Cei Connah ar rediad o saith gêm gynghrair heb golli, ond er hynny, gwahaniaeth goliau yn unig sy’n gwahanu’r Nomadiaid a’r Barri yn safleoedd y cwymp, felly dyw hi ddim yn amser i Craig Harrison ymlacio eto. 

Gyda dim ond chwe phwynt y tymor yma mae’r Derwyddon mewn perygl o dorri record eu hunain fel y tîm gwaethaf yn holl hanes Uwch Gynghrair Cymru. 

Lido Afan sydd â’r record waethaf ers ffurfio’r 12 Disglair (15 pwynt mewn 32 gêm yn 2013/14), ond y cyfanswm isaf erioed ydi naw pwynt ac hynny gan Bae Cemaes yn 1997/98 (38 gêm) a Derwyddon Cefn yn 2009/10 (34 gêm). 

Mae Cei Connah wedi ennill wyth o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Derwyddon Cefn, ac mae’r Nomadiaid wedi sgorio 11 gôl mewn tair gêm yn erbyn Hogiau’r Graig y tymor hwn gan gadw tair llechen lân. 

Record cynghrair diweddar:
Derwyddon Cefn: ➖❌❌✅❌
Cei Connah: ➖✅✅➖✅
 

 

Hwlffordd (8fed) v Aberystwyth (9fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae’n eithriadol o dynn yn y frwydr i osgoi’r cwymp gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu Aberystwyth, Cei Connah a’r Barri. 

Roedd y Gwyrdd a’r Duon yn hynod rwystredig yn dilyn eu colled yn erbyn Cei Connah nos Wener wedi penderfyniad dadleuol arweiniodd at unig gôl y gêm o’r smotyn i’r Nomadiaid. 

Dyw Hwlffordd yn sicr ddim yn ddiogel chwaith gan mae dim ond pum pwynt sydd rhyngddyn nhw a safleoedd y cwymp ac felly bydd Nicky Hayen yn ysu i agor y bwlch nos Fawrth. 

Yn y gêm ddiwethaf rhwng y timau fe sicrhaodd Hwlffordd eu buddugoliaeth fwyaf erioed yn yr uwch gynghrair gan ennill 0-6 ar Goedlan y Parc gyda cyn-flaenwr Aberystwyth, Touray Sisay yn sgorio hatric i’r Adar Gleision. 

Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅✅✅➖❌
Aberystwyth: ➖❌❌✅❌
 

 

Y Barri (11eg) v Met Caerdydd (7fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Roedd hi’n fuddugoliaeth anferthol i’r Barri ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw drechu’r Derwyddon i aros yn hafal ar bwyntiau gyda Chei Connah yn y 10fed safle. 

Fe ddychwelodd Y Barri i’r uwch gynghrair yn 2017, ac mae tîm Gavin Chesterfield wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop ddwywaith ers hynny, ond mae gan y Dreigiau fynydd i’w ddringo os am osgoi’r cwymp eleni. 

Ar ôl colli dim ond un o’u 13 gem gynghrair ddiwethaf mae Met Caerdydd wyth pwynt yn glir o’r ddau isaf, ac o bosib yr unig dîm o’r Chwech Uchaf sydd yn weddol saff o’u lle yn y gynghrair y tymor nesaf. 

Hon fydd y chweched gêm rhwng y ddau dîm y tymor hwn, a teg dweud mae’r myfyrwyr sydd wedi cael y gorau o bethau hyd yma (Met yn ennill 4, cyfartal 1). 

Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ❌❌➖❌✅
Met Caerdydd: ͏✅➖❌✅
 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?