S4C

Navigation

Bydd Caernarfon a’r Fflint yn mynd benben nos Fawrth yn y ras i gyrraedd Ewrop, tra bod y frwydr i osgoi’r cwymp yn parhau yn y Chwech Isaf. 

 

CHWECH UCHAF

Caernarfon (6ed) v Y Fflint (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu Caernarfon a’r Fflint yn y ras am yr ail safle, ac ar ôl colled yr un i’r ddau dîm nos Wener, bydd y ddwy garfan yn gobeithio bownsio ‘nôl nos Fawrth. 

Roedd hi’n golled drom i Gaernarfon nos Wener (Cfon 0-4 Dre) a dyw’r Cofis heb ennill yn eu wyth gêm gartref ddiwethaf, gan gasglu dim ond dau o bwyntiau o’r gemau rheiny. 

Ond tydi’r Fflint heb fod yn tanio chwaith gyda’r golled o 3-2 yn erbyn Y Bala nos Wener yn ymestyn rhediad tîm Neil Gibson i chwe gêm heb fuddugoliaeth. 

Cafwyd dwy glasur rhwng y timau yma yn rhan gynta’r tymor gyda’r Fflint yn ennill 3-2 ar yr Oval ym mis Hydref diolch i gôl hwyr Michael Wilde wedi 89 munud, cyn i’r Cofis dalu’r pwyth yn ôl gan ennill 4-3 ar Gae-y-Castell ym mis Rhagfyr. 

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌➖✅✅❌
Y Fflint: ➖❌➖❌❌
 

 

CHWECH ISAF 

Aberystwyth (9fed) v Hwlffordd (8fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Ar ôl ennill tair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers 2010 mae Hwlffordd wedi dringo uwchben Aberystwyth i’r 8fed safle. 

Mae’r Gwyrdd a’r Duon ar rediad o bedair gêm heb fuddugoliaeth a bellach dim ond chwe phwynt sydd rhwng Aberystwyth a’r ddau isaf. 

Hwlffordd yw’r unig dîm o’r uwch gynghrair sydd heb sgorio yn erbyn Aberystwyth y tymor hwn (Hwl 0-0 Aber, Aber 2-0 Hwl) a dyw’r Adar Gleision heb ennill ar Goedlan y Parc ers chwe blynedd. 

Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ✅➖➖➖❌
Hwlffordd: ❌➖✅✅✅
 

 

Cei Connah (11eg) v Derwyddon Cefn (12fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Wedi pedair gêm heb golli dyw Cei Connah bellach ond driphwynt y tu ôl i’r Barri a diogelwch y 10fed safle. 

Ar ôl gorffen ar waelod y tabl llynedd roedd y Derwyddon yn lwcus i beidio syrthio o’r gynghrair gan bod neb o’r cynghreiriau is yn esgyn, ac yn dilyn rhediad gwarthus o 33 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth mae’n bosib y bydd tîm Andy Turner yn sicrhau eu lle yn y ddau isaf nos Fawrth. 

Fe enillodd Cei Connah eu dwy gêm yn erbyn y Derwyddon yn rhan gynta’r tymor (Cei 4-0 Cefn, Cefn 0-2 Cei), a dyw’r Nomadiaid heb golli gartref yn erbyn hogiau’r Graig ers Rhagfyr 2011. 

Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ❌✅✅➖✅
Derwyddon Cefn: ❌❌❌➖❌
 

 

Met Caerdydd (7fed) v Y Barri (10fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Ar Gampws Cyncoed bydd Met Caerdydd yn anelu i drechu’r Barri am y pumed tro’r tymor hwn.

Mae’r myfyrwyr eisoes wedi curo’r Dreigiau yng Nghwpan Cymru, mewn dwy gêm gynghrair ac yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG y tymor yma.  

Mae Met Caerdydd ar rediad o 10 gêm gynghrair heb golli, tra bo’r Barri wedi colli wyth o’u 10 gêm ddiwethaf ac mewn perygl gwirioneddol o lithro o’r ddau isaf. 

Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ➖➖͏➖➖͏
Y Barri: ❌➖❌❌❌

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?