S4C

Navigation

Caernarfon a Llansawel sy’n arwain y ffordd wedi’r dair gêm agoriadol yn nhymor y Cymru Premier JD, gyda’r Seintiau Newydd a Pen-y-bont yn dynn ar eu sodlau. 

Mae hanner timau’r gynghrair yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf, ond Llanelli yw’r unig glwb sydd heb hawlio pwynt. 

Un pwynt yn unig sydd gan Cei Connah a’r Fflint tua’r gwaelodion cyn darbi fawr Sir y Fflint brynhawn Llun. 

Hwn fydd y tymor olaf dan y drefn bresennol o gael 12 tîm yn y gynghrair, cyn i’r nifer o aelodau gynyddu i 16 o glybiau ar gyfer tymor 2026/27. Mae hynny’n golygu y bydd chwech o glybiau yn esgyn o’r ail haen ar ddiwedd y tymor hwn, a’r ddau isaf yn syrthio o’r uwch gynghrair. Bydd pedwar safle ar gael yn Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn, cyn i’r swm hwnnw syrthio yn ôl i lawr i dri ar gyfer y flwyddyn ganlynol.  

 

Dydd Llun, 25 Awst 

Bae Colwyn (8fed) v Y Seintiau Newydd (3ydd) | Dydd Llun – 14:30 

Dim ond dau bwynt sydd gan Fae Colwyn o’u tair gêm agoriadol, a dyw pethau’n dod dim haws i’r Gwylanod wrth iddyn nhw groesawu’r pencampwyr i Sir Conwy ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. 

Wedi cyfnod ychydig yn sigledig yn dilyn y gemau Ewropeaidd, mae’r seiliau’n gadarn unwaith yn rhagor yng Nghroesoswallt wedi i’r Seintiau guro Cei Connah a Pen-y-bont yn eu dwy gêm ddiwethaf. 

Bydd hi’n achlysur arbennig i Michael Wilde ddydd Llun wrth i reolwr Bae Colwyn groesawu ei gyn-glwb, Y Seintiau Newydd i Ffordd Llanelian. 

Enillodd Wilde 15 o dlysau yn ystod ei gyfnod fel blaenwr gyda’r Seintiau Newydd, a’r gŵr o Benbedw sydd yn ail ar restr prif sgorwyr holl hanes y clwb gyda 153 o goliau mewn 290 o gemau yn yr uwch gynghrair. 

Ond bydd hi’n dasg anferthol i’r Gwylanod sydd wedi colli eu pedair gêm flaenorol yn erbyn Y Seintiau Newydd, yn cynnwys colled o 4-1 yn Neuadd y Parc y tymor diwethaf ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru JD. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Bae Colwyn: ͏➖➖❌ 

Y Seintiau Newydd: ❌✅✅ 

  

Caernarfon (1af) v Y Bala (6ed) | Dydd Llun – 14:30  

Mae Caernarfon wedi cael dechrau campus i’r tymor gan sgorio 11 o goliau yn eu dwy gêm ddiwethaf gan drechu Llanelli (6-1) a’r Fflint (2-5). 

Sgoriodd y Caneris sawl gôl gofiadwy ar Gae y Castell nos Wener, ac mae’r hyder yn llifo yng ngwythiennau’r Cofis, sydd â charfan beryglus y tymor hwn. 

Er i rai amau y byddai’r Bala’n stryffaglu eleni wedi ymadawiad Colin Caton, mae Hogiau’r Llyn yn un o bedwar clwb sydd heb golli gêm hyd yma.  

Ond dyw’r Cofis heb golli dim un o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 3, cyfartal 5) yn cynnwys buddugoliaeth gampus o 5-0 ar yr Oval ym mis Mawrth ble sgoriodd Louis Lloyd hatric i’r Caneris. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ͏➖✅✅ 

Y Bala: ➖✅ 

 

Llansawel (2il) v Hwlffordd (9fed) | Dydd Llun – 14:30 

Nid llawer fyddai wedi darogan dechrau da Llansawel eleni, gyda’r Cochion yn hafal ar bwyntiau ar frig y tabl. 

Dangosodd dynion Andy Dyer eu cymeriad nos Wener wrth frwydro ‘nôl o fod 2-0 ar ei hôl hi yn erbyn Llanelli, gan ennill 2-4 yn y pen draw ar Barc Stebonheath, gyda’r blaenwr ifanc Ruben Davies yn rhwydo am y bedwaredd gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth. 

Bydd Hwlffordd yn hynod siomedig o fod wedi gorfod rhannu’r pwyntiau gyda Met Caerdydd nos Wener wedi i’r Adar Gleision fynd ar y blaen o 2-0 yn yr 20 munud agoriadol, ac felly mae tîm Tony Pennock yn dal i aros am eu triphwynt cyntaf y tymor hwn. 

Enillodd Hwlffordd eu dwy gêm yn erbyn Llansawel y tymor diwethaf yn cynnwys buddugoliaeth gyfforddus o 5-1 gartref ar Ddôl y Bont ym mis Ionawr. 

Mae degawd wedi mynd heibio ers i Lansawel ennill gêm gartref yn erbyn Hwlffordd gyda’r Adar Gleision yn ennill eu pedair gêm ar yr Hen Heol ers hynny. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Llansawel: ͏✅➖✅ 

Hwlffordd: ❌➖ 

 

Met Caerdydd (7fed) v Y Barri (5ed) | Dydd Llun – 14:30 

Bydd Ryan Jenkins yn ddigon bodlon gyda’r dair gêm gyfartal y mae Met Caerdydd wedi eu cael hyd yn hyn, ond bydd yn sicr yn awyddus i hawlio’r fuddugoliaeth gyntaf yn ddigon buan. 

Bydd hogiau’r Barri’n benwan ar ôl ildio wedi 94 munud i golli’r gêm yn erbyn Pen-y-bont nos Wener gan lithro oddi ar gopa’r gynghrair. 

Sgoriodd Ryan Reynolds yn y ddwy gêm yn erbyn Y Barri’r tymor diwethaf, ond y Dreigiau gafodd y gorau o bethau ar draws yr ymgyrch gyfan gan ennill 2-1 gartref ar ôl cael gêm gyfartal 1-1 ar Gampws Cyncoed ym mis Awst. 

Er hynny, dyw Met Caerdydd heb golli dim un o’u chwe gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 4, cyfartal 2). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏➖➖➖ 

Y Barri: ✅➖❌ 

 

Pen-y-bont (4ydd) v Llanelli (12fed) | Dydd Llun – 14:30 

Ar ôl methu dwy gêm gynta’r tymor oherwydd gwaharddiad, fe wnaeth Noah Daley dipyn o argraff yn ei ymddangosiad cyntaf i Ben-y-bont yn y gynghrair nos Wener, gan daro hatric arbennig i drechu’r Barri. 

Roedd hi’n driphwynt hollbwysig i dîm Rhys Griffiths i’w cadw o fewn pwynt i’r ceffylau blaen, Caernarfon a Llansawel. 

Mae’n stori dra gwahanol yn Llanelli gan fod hogiau Lee John yn parhau i aros am eu pwynt cyntaf ers eu dyrchafiad dros yr haf. 

Dyw Llanelli erioed wedi colli yn erbyn Pen-y-bont o’r blaen, gyda’r Cochion yn ennill pob un o’r dair gêm flaenorol rhwng y clybiau, yn cynnwys buddugoliaeth ar giciau o’r smotyn ar Barc Stebonheath ym mis Tachwedd 2023 yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ͏✅❌✅ 

Llanelli: ❌❌❌ 

 

 

Cei Connah (11eg) v Y Fflint (10fed) | Dydd Llun – 17:15 (Yn fyw arlein) 

Oherwydd y problemau diweddar gyda’r pibelli dŵr yn Sir y Fflint, dim ond dwy gêm y mae Cei Connah a’r Fflint wedi ei chwarae hyd yma, a pwynt yr un sydd gan y ddau glwb. 

Cafodd Cei Connah eu curo’n gyfforddus o 3-0 gan y Seintiau nos Wener, tra roedd hi’n glawio goliau godidog ar Gae y Castell wrth i’r Fflint ildio pump yn erbyn Caernarfon, ar ôl rhwydo dwy gôl o safon eu hunain (Ffl 2-5 Cfon). 

Er i Cei Connah ennill tair o’r bedair gornest rhwng y timau’r tymor diwethaf fe orffennodd y ddau glwb yn hafal ar bwyntiau yn yr 8fed a’r 9fed safle. 

Llwyddodd seren y Nomadiaid, Rhys Hughes i sgorio pump o goliau cynghrair yn erbyn Y Fflint y tymor diwethaf, gyda dwy o rheiny yn ennill gwobr Gôl y Mis. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ➖❌ 

Y Fflint: ➖❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?