Mewn llai na mis bydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy ac am weddill y tymor bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am le’n Ewrop, tra bydd timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.
Mae’r Seintiau Newydd a Chei Connah eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr hanner uchaf, ac fe all Y Drenewydd a Met Caerdydd ymuno â nhw os aiff canlyniadau o’u plaid ar ddydd San Steffan.
Fel arfer, mae 31 pwynt yn ddigon i hawlio lle yn y Chwech Uchaf, a byddai buddugoliaeth i’r Bala yn erbyn Bae Colwyn yn eu codi hwythau at y targed hwnnw.
Gyda tair gêm i fynd tan yr hollt, Caernarfon sy’n y 6ed safle, dim ond triphwynt uwchben Hwlffordd, a gyda’r Cofis yn teithio i gartre’r pencampwyr brynhawn Mawrth, bydd yr Adar Gleision yn gobeithio bachu ar y cyfle i ddod yn hafal ar bwyntiau gyda’r Caneris.
Dydd Mawrth, 26 Rhagfyr
Bae Colwyn (10fed) v Y Bala (5ed) | Dydd Mawrth – 14:30
Bydd Y Bala’n benderfynol o sicrhau buddugoliaeth ar Ffordd Llanelian er mwyn codi i 31 o bwyntiau, sef y swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf.
Mae’r Bala’n anelu i gyrraedd y Chwech Uchaf am y 10fed tymor yn olynol, tra bod Bae Colwyn yn brwydro am eu bywydau ger gwaelod y tabl, gyda dim ond triphwynt yn eu gwahanu nhw ag Aberystwyth yn yr 11eg safle.
Mae gemau allweddol o flaen Bae Colwyn cyn yr hollt gyda’r tîm angen wynebu Aberystwyth a Phontypridd, sef y ddau glwb arall sydd mewn trwbwl wrth droed y tabl.
Does neb wedi ildio mwy o goliau na Bae Colwyn y tymor hwn (2.2 gôl y gêm), ond mae’r Gwylanod wedi sgorio dipyn mwy na’r Bala sydd ond wedi rhwydo 17 gôl mewn 19 gêm gynghrair.
Mae’r Bala wedi cael mwy o gemau cyfartal nac unrhyw dîm arall yn y gynghrair (7), ac mae’r amddiffyn wedi bod yn gadarn ar Faes Tegid gan mae dim ond Y Seintiau Newydd sydd wedi ildio llai na criw Colin Caton (ildio 0.8 gôl y gêm).
Gorffennodd hi’n 2-1 i’r Bala yn y gêm gyfatebol ym mis Hydref, a bydd Colin Caton yn awyddus i gwblhau’r dwbl dros ei gyn-glwb ar ddydd San Steffan.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Bae Colwyn: Cfon (oc), Aber (oc), Pont (c)
Y Bala: Dre (c), Hwl (oc)
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ❌❌✅✅❌
Y Bala: ❌✅➖✅➖
Hwlffordd (7fed) v Y Barri (9fed) | Dydd Mawrth – 14:30
Mae Hwlffordd yn anelu i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers i’r gynghrair gael ei chwtogi i 12 tîm.
Dyw’r Adar Gleision heb orffen yn uwch na’r 7fed safle ers tymor 2004/05 pan lwyddon nhw i gyrraedd y 4ydd safle gyda dim ond Y Seintiau Newydd, Y Rhyl a Bangor yn gorffen uwch eu pennau y flwyddyn honno.
Cyn eu colled yn erbyn Y Seintiau Newydd ddydd Sadwrn roedd Hwlffordd wedi mynd ar rediad o bum gêm gynghrair heb golli gan gau’r bwlch ar Gaernarfon (6ed) i ddim ond tri o bwyntiau.
Mae’n debygol bod y 6ed safle yn rhy bell o afael Y Barri, ac mae angen i’r Dreigiau ddechrau tanio os am ddringo’n glir o’r ddau isaf.
Collodd Y Barri’n erbyn Bae Colwyn yng Nghwpan Cymru yn eu gêm ddiwethaf, ac hynny’n dilyn eu colled drymaf yn y gynghrair ers 20 mlynedd yn erbyn Cei Connah y penwythnos blaenorol (Cei 7-0 Barri).
Ricky Watts oedd yr arwr i Hwlffordd yn y gêm gyfatebol ym mis Awst, yn rhwydo ddwywaith yn y munudau olaf i gipio pwynt ar Barc Jenner (Barr 2-2 Hwl), a dyw’r Barri heb ennill ar Ddôl y Bont ers 12 mlynedd.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Hwlffordd: Aber (oc), Bala (c)
Y Barri: Met (c), Dre (c), Aber (oc)
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌✅➖✅✅
Y Barri: ❌➖✅❌✅
Met Caerdydd (4ydd) v Pen-y-bont (8fed) | Dydd Mawrth – 14:30
Gyda gêm wrth gefn mae’n ymddangos fel bod Met Caerdydd wedi gwneud digon i hawlio lle’n y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol, a byddai buddugoliaeth ar ddydd San Steffan yn cadarnhau hynny.
Mae myfyrwyr y brifddinas wedi ennill chwech o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf, ac ond wedi colli un gêm gartref yn y gynghrair y tymor hwn (vs YSN).
Mae Pen-y-bont ar y llaw arall yn cael tymor hynod siomedig, ac ar ôl gorffen yn 3ydd y tymor diwethaf a chyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, mae’n edrych yn anhebygol y bydd tîm Rhys Griffiths yn cyrraedd y Chwech Uchaf eleni.
Bydd angen i Ben-y-bont ennill eu tair gêm nesaf os am unrhyw obaith gwirioneddol o gystadlu am y 6ed safle, sydd am fod yn dasg mawr i’r clwb sydd ond wedi ennill un o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf, gan golli saith o rheiny.
Di-sgôr oedd hi’n yr ornest gyfatebol rhwng y ddau dîm ym mis Awst, ond dyw Pen-y-bont heb golli mewn pedair gêm yn erbyn Met Caerdydd (ennill 2, cyfartal 2).
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Met Caerdydd: Barr (oc), YSN (oc), Cfon (oc)
Pen-y-bont: Pont (c), Cei (c)
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ✅✅➖✅✅
Pen-y-bont: ❌❌➖❌➖
Pontypridd (12fed) v Aberystwyth (11eg) | Dydd Mawrth – 14:30
Er i’r Panel Cyflafareddu Annibynnol ganfod fod Pontypridd yn euog o dorri rheolau’r gynghrair ynglŷn â chytundebau, taliadau a chwarae chwaraewyr anghymwys, dim ond chwe phwynt o ddirwy mae’r clwb wedi ei dderbyn gyda 135 pwynt ychwanegol wedi ei ohirio tan ddiwedd 2024/25.
Gall Pontypridd ganolbwyntio ar eu hymdrechion ar y cae bellach, lle nad yw pethau’n mynd yn dda a dweud y lleiaf, gyda’r tîm wedi sicrhau dim ond un pwynt o’u wyth gêm ddiwethaf.
Mae’r gosb wedi gyrru Pontypridd i waelod y tabl, ond dim ond pedwar pwynt sy’n eu gwahanu nhw ag Aberystwyth yn safleoedd y cwymp.
Wyth gôl mae Pontypridd wedi ei sgorio mewn 19 gêm gynghrair (0.4 gôl y gêm), felly mae her fawr o flaen y rheolwr Andrew Stokes os am geisio cadw’r clwb rhag y cwymp.
Mae Aberystwyth hefyd mewn perygl o syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes gyda’r clwb wedi colli pum gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth.
Mae’r timau eisoes wedi cyfarfod ddwywaith ar Goedlan y Parc y tymor hwn gyda Pontypridd yn curo Aberystwyth o 1-0 yn y gynghrair ac yng Nghwpan Nathaniel MG.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Pontypridd: Pen (oc), Bae (oc)
Aberystwyth: Hwl (c), Bae (c), Barr (c)
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ❌❌❌❌➖
Aberystwyth: ❌❌❌❌✅
Y Drenewydd (3ydd) v Cei Connah (2il) | Dydd Mawrth – 14:30
Mae naw pwynt yn gwahanu’r Drenewydd a Hwlffordd (7fed), ond gall y Robiniaid ddim gorffwys ar eu rhwyfau eto gan bod gemau caled o’u blaenau cyn yr hollt.
Hon yw gêm gartref ola’r Drenewydd cyn yr hollt, gyda theithau i’r Bala, Y Barri a’r Seintiau Newydd ar y gweill, felly er eu bod yn edrych yn weddol gyfforddus bydd rhaid i hogiau Chris Hughes fod yn wyliadwrus rhag llithro tua canol y tabl.
Wyth pwynt uwch eu pennau mae Cei Connah, sydd mewn safle addawol i orffen yn ail eto eleni a sicrhau tocyn awtomatig i Ewrop.
Blaenwr Y Drenewydd, Aaron Williams sy’n parhau ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair gyda 15 gôl, ond mae Jordan Davies o Gei Connah yn dynn ar ei sodlau, wedi sgorio 14 gôl ac wedi creu tair gan gyfrannu at fwy o goliau na neb arall yn y gynghrair (17).
Sgoriodd Davies wedi dim ond un munud yn y gêm gyfatebol ym mis Awst gyda Cei Connah yn ennill o 3-1 ar Gae-y-Castell, a’r Nomadiaid fydd y ffefrynnau eto ddydd Mawrth ar ôl colli dim ond un o’u 17 gêm flaenorol yn erbyn Y Drenewydd (ennill 12, cyfartal 4).
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Y Drenewydd: Bala (oc), Barr (oc), YSN (oc)
Cei Connah: YSN (c), Pen (oc)
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ✅✅➖✅❌
Cei Connah: ✅✅✅❌❌
Y Seintiau Newydd (1af) v Caernarfon (6ed) | Dydd Mawrth – 14:30
Mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau rhediad o 27 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi ennill 19 yn olynol gan dorri naw pwynt yn glir ar frig y gynghrair gyda gêm wrth gefn.
Dyma rediad gorau’r clwb o Groesoswallt ers Awst 2016 i Chwefror 2017 (31 gêm heb golli), ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe dorron nhw record y byd gyda 27 buddugoliaeth yn olynol.
Caernarfon sy’n eistedd yn y 6ed safle hollbwysig, ond gall Hwlffordd (7fed) godi’n hafal â’r bwyntiau gyda’r Cofis cyn y ddwy gêm olaf cyn yr hollt.
Dyw Caernarfon ond wedi ennill un o’u chwe gêm ddiwethaf (cyfartal 1, colli 4), ac er bod tîm Richard Davies wedi treulio’r tymor cyfan yn yr hanner uchaf hyd yma, mae perygl i’r Cofis lithro i’r hanner isaf cyn y toriad.
Dyw’r Caneris heb ennill dim un o’u 12 gêm ddiwethaf yn erbyn cewri Croesoswallt gyda’r Seintiau’n fuddugol yn yr wyth gêm flaenorol rhwng y timau.
Gemau nesaf cyn yr hollt:
Y Seintiau Newydd: Cei (oc), Met (c), Dre (c)
Caernarfon: Bae (c), Met (oc)
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Caernarfon: ❌✅➖❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.