S4C

Navigation

Dim ond tair rownd o gemau sydd i’w chwarae tan yr hollt yn y gynghrair ac mae’n eithriadol o dynn yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf eleni. 

Dau bwynt sy’n gwahanu Y Barri (7fed) a Met Caerdydd (6ed) cyn i’r clybiau gyfarfod mewn gêm dyngedfennol amser cinio ddydd Gwener. 

Dyw Caernarfon (4ydd) na Bae Colwyn (5ed) ddim yn sicr o’u lle yn yr hanner uchaf chwaith, a bydd yr ornest rhwng y clybiau rheiny brynhawn Sadwrn yn un allweddol. 

Y Seintiau Newydd (1af) a Cei Connah (2il) yw’r unig ddau glwb sy’n ddiogel yn y Chwech Uchaf, tra mae Llanelli (12fed) yw’r unig dîm sy’n sicr o orffen yn y Chwech Isaf. 

 

Dydd Gwener, 26 Rhagfyr 

Y Barri (7fed) v Met Caerdydd (6ed) | Dydd Gwener – 12:00  

Mae’n gaddo i fod yn gêm gyffrous ar Barc Jenner rhwng dau dîm sy’n cystadlu am un o’r llefydd olaf yn y Chwech Uchaf eleni. 

Mae Met Caerdydd ddau bwynt uwchben eu gwrthwynebwyr, ond rhaid cofio fod gan Y Barri gêm wrth gefn, ac mae record ddiweddar y Dreigiau yn arbennig.  

Mae’r Barri ar rediad rhagorol o 11 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi ildio dim ond pedair gôl yn ystod y cyfnod hwnnw (wyth llechen lân). 

 

Gemau tan yr hollt:  

Y Barri: MET (c), LLS (oc), CEI (oc), LLI (c) 

Met Caerdydd: BARR (oc), HWL (c), PEN (oc) 

 

Mae anghysondeb wedi bod yn ychydig o broblem i Met Caerdydd yn ystod y misoedd diwethaf, gyda’r myfyrwyr yn gwneud yn wych i guro’r Seintiau Newydd ddwywaith, ond yn methu cyfle yn erbyn Y Bala a Llansawel a chael dwy gêm gyfartal. 

Bydd Met Caerdydd yn anelu i gyrraedd y Chwech Uchaf am y pedwerydd tymor yn olynol, tra bo’r Barri heb gyrraedd y nod ers 2020/21. 

Gorffennodd hi’n 1-1 yn y gêm gyfatebol yng Nghampws Cyncoed ym mis Awst, a dyw’r Barri heb golli yn eu pedair gornest ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr (ennill 1, cyfartal 3). ͏ 

 

Record cynghrair diweddar:   

Y Barri: ➖✅➖✅➖ 

Met Caerdydd: ͏❌✅➖✅➖ 

 

 

Hwlffordd (8fed) v Llanelli (12fed) | Dydd Gwener – 14:30 

Dyw’r freuddwyd o gyrraedd y Chwech Uchaf ddim ar ben i Hwlffordd gan mae dim ond chwe phwynt sydd rhyngddyn nhw a Met Caerdydd (6ed) cyn gemau San Steffan. 

Dyw’r Adar Gleision m’ond wedi colli un o’u pum gêm ddiwethaf gan godi o safleoedd y cwymp, ond er hynny, dim ond dau bwynt sydd rhwng Hwlffordd a Llansawel (11eg) yn dal i fod, felly mae’n agos iawn rhwng pedwar clwb ger y gwaelod. 

Yn anffodus i Lanelli, tydyn nhw ddim un o’r pedwar clwb rheiny, gan eu bod nhw’n bell ar ei hôl hi yn y 12fed safle, 10 pwynt y tu ôl i ddiogelwch y 10fed safle. 

 

Gemau tan yr hollt:  

Hwlffordd: LLI (c), MET (oc), LLS (c) 

Llanelli: HWL (oc), PEN (c), BARR (oc) 

 

Dyw Llanelli m’ond wedi cipio un pwynt o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf, ac ar ôl sgorio dim ond 11 gôl mewn 19 gêm tydi pethau ddim yn argoeli’n dda i dîm Lee John. 

Mae Llanelli’n sicr o orffen rhan gynta’r tymor ar waelod y tabl, ac ers ffurfio’r fformat presennol yn 2010, does dim un tîm erioed wedi llwyddo i ddringo allan o safleoedd y cwymp ar ôl dechrau ail ran y tymor ar waelod y gynghrair. 

Dyw Llanelli m’ond wedi ennill pedair gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn, ac mae dwy o’r buddugoliaethau rheiny wedi dod yn erbyn Hwlffordd – y gyntaf yn y gynghrair ym mis Medi (1-0), a’r ail yng Nghwpan Cymru ym mis Hydref (3-0), sef eu buddugoliaeth ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ➖✅❌✅➖ 

Llanelli: ❌❌➖❌❌ 

 

Pen-y-bont (3ydd) v Llansawel (11eg) | Dydd Gwener – 14:30 

Byddai triphwynt i Ben-y-bont ddydd Gwener yn ddigon i sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf am yr ail dymor yn olynol. 

Ond dyw pethau heb fynd o blaid y Gleision yn ddiweddar gyda’r clwb ar rediad o dair gêm heb ennill, a’r rheolwr Rhys Griffiths mewn helynt yn dilyn ei sylwadau sarhaus ynglŷn â’r dyfarnwr wedi’r golled yn erbyn Y Fflint yng Nghwpan Cymru. 

 

Gemau tan yr hollt:  

Pen-y-bont: LLS (c), LLI (oc), MET (c) ͏ 

Llansawel: PEN (oc), BARR (c), HWL (oc) ͏ 

 

Mae Llansawel yn treulio’r Nadolig yn safleoedd y cwymp, ond y cysur i’r Cochion yw bod yna dri clwb arall mewn perygl gyda dim ond dau bwynt yn gwahanu Hwlffordd, Y Bala, Y Fflint a Llansawel yn y frwydr i aros i fyny. 

Dyw Llansawel m’ond wedi ennill un o’u 10 gêm ddiwethaf (cyfartal 2, colli 7), a bydd angen record well na hynny yn eu gemau nesaf os am osgoi’r cwymp eleni. 

Mae’r clybiau eisoes wedi cyfarfod deirgwaith y tymor hwn ac mae’r record benben yn hafal – Llansawel yn ennill ar giciau o’r smotyn yng Nghwpan Nathaniel MG, gêm ddi-sgôr yn y gynghrair, cyn i Pen-y-bont daro pump ar yr Hen Heol yng Nghwpan Cymru. 

 

Record cynghrair diweddar:   

Pen-y-bont: ͏ ✅❌✅❌➖ 

Llansawel: ͏✅➖❌➖❌ 

 

Y Fflint (10fed) v Cei Connah (2il) | Dydd Gwener – 14:30 

Cei Connah yw’r ail dîm i sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf eleni, ac hynny yn dilyn rhediad ardderchog o 10 gêm gynghrair heb golli (ennill 8, cyfartal 2). 

Mae gan y Nomadiaid gêm wrth gefn i’w chwarae yn erbyn Y Barri hefyd, felly tybed os bydd carfan John Disney yn dechrau credu bod modd cau y bwlch o 10 pwynt sydd rhyngdyn nhw a’r ceffylau blaen, Y Seintiau Newydd. 

 

Gemau tan yr hollt:  

Y Fflint: CEI (c), BAE (oc), BALA (c)
Cei Connah: FFL (oc), YSN (c), BARR (c) CFON (oc) ͏ 

 

O ran Y Fflint, yn realistig mae’r Chwech Uchaf allan o’u gafael bellach, ac osgoi’r cwymp fydd y brif nod i’r clwb sydd heb ennill yn eu saith gêm gynghrair ddiwethaf. 

Ond mae gan y Sidanwyr gyfle i godi tlws a chyrraedd Ewrop eleni gan eu bod wedi sicrhau eu lle yn wyth olaf Cwpan Cymru ble byddan nhw’n wynebu Bae Trearddur o’r drydedd haen ym mis Ionawr. 

Mae Cei Connah wedi ennill pump o’u chwe gornest flaenorol yn erbyn eu cymdogion, yn cynnwys buddugoliaeth swmpus o 7-2 ar ddydd San Steffan y flwyddyn diwethaf. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Fflint: ➖❌➖➖➖ 

Cei Connah: ✅✅✅✅✅ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Bala (9fed) | Dydd Gwener – 14:30 

Mae’r Seintiau Newydd 10 pwynt yn glir ar frig tabl y Cymru Premier JD ac yn anelu i sicrhau dwbl domestig am y pumed tymor yn olynol. 

Jordan Williams yw prif sgoriwr y Seintiau eleni, a gyda 19 gôl gynghrair yn barod, mae Williams eisoes wedi rhwydo mwy nac y gwnaeth enillwyr yr Esgid Aur y tymor diwethaf (16 – James Crole, Louis Lloyd). 

Mae Williams hefyd wedi cyfrannu at 23 o goliau cynghrair (sgorio 19, creu 4), sy’n hafal â chyfanswm y prif gyfrannydd y tymor diwethaf, sef James Crole. 

Gyda 13 o gemau ar ôl i’w chwarae, os bydd y blaenwr yn gallu parhau i danio o flaen gôl yna fe all fod y chwaraewr cyntaf i daro 30 o goliau cynghrair ers i Rhys Griffiths wneud hynny yn 2009/10 pan oedd 18 o glybiau’n y gynghrair. 

 

Gemau tan yr hollt:  

Y Seintiau Newydd: BALA (c), CEI (oc), BAE (c) 

Y Bala: YSN (oc), CFON (c), FFL (oc) 

 

Mae’r Bala wedi llithro’n araf bach i lawr tua’r gwaelodion, a bellach dim ond dau bwynt sydd rhyngddyn nhw a Llansawel (11eg) yn safleoedd y cwymp. 

Dyw’r Bala heb chwarae ers tair wythnos, pan gollon nhw gartref o 2-0 yn y glaw trwm yn erbyn Hwlffordd, ac ar ôl ennill dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf (vs Llanelli) mae’n ymddangos mae yn y Chwech Isaf bydd tîm Steve Fisher yn cystadlu yn ail ran y tymor. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅ 

Y Bala: ✅❌❌➖❌ 

 

Dydd Sadwrn, 27 Rhagfyr

Caernarfon (4ydd) v Bae Colwyn (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30  

31 pwynt yw’r swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf, a byddai buddugoliaeth i Gaernarfon brynhawn Sadwrn yn eu codi dros y trothwy hwnnw. 

27 o bwyntiau sydd gan Fae Colwyn, ac mae nhw’n anelu i fod y clwb cyntaf i gyrraedd y Chwech Uchaf yn eu tymor cyntaf ar ôl sicrhau dyrchafiad ers i Gaernarfon wneud hynny yn 2018/19. 

 

Gemau tan yr hollt:  

Caernarfon: BAE (c), BALA (oc), CEI (c) ͏ 

Bae Colwyn: CFON (oc), FFL (c), YSN (oc) 

 

Yn ogystal â chystadlu am y Chwech Uchaf, bydd y ddau glwb yma’n cyfarfod mewn gêm anferthol yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru fis nesaf. 

Er y llwyddiant yn y cwpan, dyw Caernarfon heb fod ar eu gorau’n y gynghrair gan fethu ag ennill yn eu pedair gêm ddiwethaf a chael gemau cyfartal yn erbyn tri o dimau isaf y tabl (Hwlffordd, Llanelli, Y Fflint). 

Enillodd Caernarfon o 3-0 yn erbyn Bae Colwyn yn eu gêm gyntaf y tymor hwn yng Nghwpan Nathaniel MG, ond fe gafodd y Gwylanod ddial ym mis Hydref gan ennill o 1-0 yn y gynghrair diolch i gôl Louis Robles. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ͏✅➖➖❌➖ 

Bae Colwyn: ͏❌✅❌✅❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?