Cei Connah i wynebu Pencampwyr Kosovo a taith i Lithuania i’r Seintiau Newydd yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
FK Kauno Žalgiris v Y Seintiau Newydd | Mawrth, 20 Gorffennaf am 5.00
Ail rownd ragbrofol Cyngres Europa
Ar ôl curo Glentoran 3-1 dros ddau gymal yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa, bydd Y Seintiau Newydd yn wynebu FK Kauno Žalgiris o Lithuania yn yr ail rownd.
Fe enillodd y tîm o Lithuania Europa FC o Gibraltar 2-0 i ennill eu lle yn yr ail rownd – y tro cyntaf i FK Kauno Žalgiris gyrraedd ail rownd ragbrofol mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.
Dyma’r trydydd tymor yn olynol i Žalgiris gyrraedd Ewrop – ond i’r clwb golli yn erbyn Apollon Limassol (0-6) a FK Bodø/Glimt (1-6) yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.
Ers i’r clwb sefydlu yn 2005, fe orffennodd FK Kauno Žalgiris yn eu safle uchaf erioed y tymor diwethaf, y 3ydd safle yn A Lyga Lithuania.
Sgoriodd Leo Smith ddwywaith – un yn y cymal cyntaf ac yn yr ail gymal – wrth i’r Seintiau guro Glentoran i hawlio eu lle yn yr ail rownd ragbrofol, gyda’r chwaraewr canol cae yn creu argraff mewn gemau Ewropeaidd gan sgorio pedair mewn pedair gêm ers ymuno â’r Seintiau Newydd haf diwethaf.
Os yw’r Seintiau yn llwyddiannus yn erbyn FK, bydd tîm Anthony Limbrick angen ennill dwy rownd (3ydd rownd ragbrofol a gêm ail gyfle) i gyrraedd rowndiau grŵp cystadleuaeth newydd Uefa, Cyngres Europa.
Bydd cymal cyntaf yr ail rownd ragbrofol yn cael ei chwarae ar nos Fercher, Gorffennaf 20fed am 5.00 yn Hikvision Arena, Marijampolė.
Gyda’r ail gymal yn cael ei gynnal ar Neuadd y Parc, Croesoswallt ar nos Iau, Gorffennaf 29ain am 6.15,
Prishtina v Cei Connah | Mawrth 20 Gorffennaf am 5.00
Ail rownd ragbrofol Cyngres Europa
Tor calon i Gei Connah wrth i dîm Andy Morrison ildio yn amser ychwanegol ar ôl 113 munud i golli eu rownd ragbrofol gyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr 2-3 yn erbyn Alashkert.
Er i Gei Connah golli wythnos diwethaf, bydd Pencampwyr Cymru yn derbyn ail gyfle yn Ewrop gan ddisgyn i ail rownd ragbrofol Cyngres Europa – lle fydd y Nomadiaid yn wynebu Prishtina, Pencampwyr Kosovo.
Mae Prishtina eisoes wedi chwarae tair rownd yn Ewrop y tymor hwn, gan guro Folgore (2-0) a Inter d’Escaldes (2-0) yn rownd gyn-ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Fel Cei Connah, colli oedd hanes Prishtina yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Ferencvárosi (1-6) dros ddau gymal.
Ar ôl methu’r ail gymal yn erbyn Alashkert, bydd capten Cei Connah, George Horan yn dychwelyd i’r garfan. Sgoriodd i unioni’r sgôr yn hwyr yn y cymal cyntaf ar ôl i Alashkert fynd ar y blaen 1-2 cyn yr egwyl yn y cymal cyntaf.
Bydd y cymal cyntaf rhwng Prishtina a Chei Connah yn cael ei chwarae ar nos Fawrth, Gorffennaf 20 yn Stadiumi Fadil Vokrri, Prishtina, gyda’r ail gymal yn cael ei gynnal ar Goedlan y Parc, Aberystwyth nos Iau, Gorffennaf 29.