Deufis union ers i Hwlffordd gipio’r tocyn olaf i Ewrop, ac mae’r pedwar clwb fydd yn cynrychioli Cymru eleni yn barod am yr her sydd o’u blaenau yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr a Chyngres Europa.
Bydd pencampwyr Cymru, Y Seintiau Newydd yn wynebu pencampwyr Sweden, BK Häcken yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr nos Fercher (12/07), tra bydd Cei Connah yn hwylio i Wlad yr Iâ, Hwlffordd yn hedfan i Macedonia, a Phen-y-bont yn croesawu clwb o Andorra yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa nos Iau (13/07).
BK Häcken (Sweden) v Y Seintiau Newydd | Nos Fercher, 12 Gorffennaf – 18:00
(Hisingen Arena, Gothenburg – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2023/24)
Ar ôl codi tlws Uwch Gynghrair Cymru am y 15fed tro yn eu hanes, a gorffen 22 pwynt yn glir ar frig y tabl mae’r Seintiau Newydd yn paratoi am ymgyrch arall yn Ewrop.
Chwaraeodd cewri Croesoswallt yn Ewrop am y tro cyntaf yn 1996 gan gael gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Ruch Chorzow o Wlad Pŵyl gyda Aneurin Thomas yn sgorio i’r Seintiau.
Ond colli 0-5 oedd eu hanes yn yr ail gymal, a bu’n rhaid i’r Seintiau aros tan 2007 am eu buddugoliaeth gyntaf yn Ewrop, ac honno mewn gêm gartref yn erbyn Ventspils o Latfia (3-2).
Er hyn, colli ar reol oddi cartref oedd y canlyniad dros y ddau gymal, ond yn 2011 fe lwyddodd Y Seintiau Newydd i ennill rownd Ewropeaidd am y tro cyntaf drwy drechu Cliftonville o Ogledd Iwerddon (2-1 dros ddau gymal).
Ers 1996 mae’r Seintiau Newydd wedi chwarae 74 o gemau yn Ewrop gan ennill 17 o rheiny (23%), ac mewn 38 rownd Ewropeaidd mae’r clwb wedi camu ‘mlaen ar naw achlysur (24%).
Daeth eu rhediad gorau yn nhymor 2010/11 – er ennill dim ond un rownd y tymor hwnnw (vs Bohemians yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr), cyn colli vs Anderlecht, fe gafodd y Seintiau chwarae mewn gêm ail gyfle i gyrraedd Cynghrair Europa.
Ond ar ôl colli 5-2 dros ddau gymal yn erbyn CSKA Sofia mae’r Seintiau’n parhau i freuddwydio am gael cyrraedd rownd y grwpiau.
Yn sicr mae gan Y Seintiau fwy o brofiad yn Ewrop na’u gwrthwynebwyr eleni, BK Häcken, ond mae record Ewropeaidd y clwb o Gothenburg ychydig yn gryfach.
Mae BK Häcken wedi ennill chwech allan o’u 14 rownd blaenorol yn Ewrop (43%) yn cynnwys buddugoliaethau yn erbyn Dunfermline yn 2007, a Sparta Prague yn 2013.
Enillodd BK Häcken gynghrair Allsvenskan Sweden am y tro cyntaf erioed yn 2022, ac felly dyma fydd eu hymddangosiad cyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Bydd Y Seintiau Newydd yn gobeithio am well rhediad na llynedd ar ôl colli 2-1 dros ddau gymal yn erbyn Linfield (Gogledd Iwerddon) yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, cyn colli 2-0 dros ddau gymal yn erbyn Vikingur Reykjavik (Gwlad yr Iâ) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Haf 2021 oedd y tro diwethaf i BK Häcken chwarae’n Ewrop (colli 5-3 dros ddau gymal yn erbyn Aberdeen), a dyw’r ‘Getingarna’ (Cacwn) heb ennill rownd Ewropeaidd ers pum mlynedd (vs Liepaja o Latfia).
BK Häcken fydd y trydydd tîm o Sweden i herio’r Seintiau’n Ewrop wedi i Östers (2004) a Helsingborgs (2012) gael y gorau o griw Croesoswallt yn y gorffennol.
Mae’n gaddo i fod yn gêm galed i’r Seintiau Newydd yn erbyn carfan sydd â sawl cap rhyngwladol yn eu plith: Ola Kamara (17 cap, 7 gôl i Norwy), Evan Hovland (24 cap i Norwy), Samuel Gustafson (7 cap i Sweden).
Ar hyn o bryd mae dau o sêr y Seintiau, Declan McManus a Leo Smith yn hafal gyda Michael Wilde a Scott Quigley ar frig rhestr prif sgorwyr chwaraewyr Uwch Gynghrair Cymru yn Ewrop (6 gôl yr un), ac mi fyddan nhw’n sicr yn anelu i dorri’r record eleni.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc nos Fawrth, 18 Gorffennaf a bydd yr enillwyr yn wynebu unai Kí Klaksvík (Ynysoedd Ffaro) neu Ferencvárosi TC (Hwngari) yn yr ail rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gyngres Europa i herio Slovan Bratislava (Slofacia) neu Swift Hesper (Lwcsembwrg).
Pen-y-bont v Santa Coloma (Andorra) | Nos Iau, 13 Gorffennaf – 18:30
(Cae Bragdy, Pen-y-bont – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2023/24)
Mae Pen-y-bont yn paratoi am eu gêm gyntaf yn Ewrop ac hynny ar ôl gorffen yn eu safle uchaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru (3ydd).
Ffurfiwyd clwb Pen-y-bont yn 2013 pan unodd Bryntirion Athletic a Bridgend Town, a chymerodd hi dim ond tan 2019 i’r clwb esgyn i haen uchaf pêl-droed Cymru.
Ac wedi dim ond pedwar tymor yn yr uwch gynghrair mae tîm Rhys Griffiths wedi sicrhau mae nhw fydd y 31ain clwb o Gymru i chwarae’n Ewrop.
Mae gan eu gwrthwynebwyr, Santa Coloma cryn dipyn o brofiad yn Ewrop, a nhw yw’r clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes y Primera Divisio yn Andorra ar ôl ennill y bencampwriaeth ar 13 achlysur.
Er eu llwyddiant yn y gynghrair, dyw eu record Ewropeaidd heb fod cystal gyda Santa Coloma wedi ennill dim ond pump o’u 42 gêm yn Ewrop (12%) gan ennill dim ond tair o’u 23 rownd.
Gorffenodd Santa Coloma yn 3ydd yn Primera Divisio 2022/23 ac mae eu carfan yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol: Josep Gomes (75 cap i Andorra), Marc Rebes (57 cap, 3 gôl i Andorra), Jordi Alaez (53 cap, 3 gôl i Andorra), Maksim Valadzko (33 cap, 2 gôl i Belarws).
Does gan Ben-y-bont fawr o brofiad ar y llwyfan Ewropeaidd, ac felly bydd cyfraniad yr arwyddiad newydd Chris Venables yn allweddol i’r tîm, gan iddo chwarae 19 o gemau yn Ewrop a sgorio dwy gôl.
Bydd Venables yn dathlu ei benblwydd yn 38 yn hwyrach y mis hwn, ac mae ei symudiad o’r Bala i Ben-y-bont yn brawf bod y gŵr, sydd wedi ennill Esgid Aur Uwch Gynghrair Cymru ar bump achlysur, yn parhau i fod mor uchelgeisiol ac erioed.
Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn yr Estadi Nacional yn Andorra ar nos Iau, 20 Gorffennaf a bydd yr enillwyr yn wynebu unai FK Sutjeska (Montenegro) neu SS Cosmos (San Marino) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
KA Akureyri (Gwlad yr Iâ) v Cei Connah | Nos Iau, 13 Gorffennaf – 19:00
(Framvöllur Úlfarsárdal, Reykjavík – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2023/24)
Bydd Cei Connah, orffennodd yn 2il yn Uwch Gynghrair Cymru 2022/23 yn teithio i Wlad yr Iâ i wynebu, Knattspyrnufélag Akureyrar, orffennodd yn 2il yn Besta deild karla 2022.
Mae’r Nomadiad yn hen bennau ar gystadlu’n Ewrop bellach ar ôl chwarae 18 gêm (ennill 4) a chamu ‘mlaen ar ddau achlysur yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Stabaek yn 2016/17 a Kilmarnock yn 2019/20.
Mae KA wedi cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf ers 20 mlynedd ar ôl gorffen y tymor diwethaf yn eu safle uchaf ers 1989, pan enillon nhw bencampwriaeth Gwlad yr Iâ am yr unig dro yn eu hanes.
Gorffennodd KA’r tymor diwethaf uwchben Vikingur Reykjavik, sef y tîm yrrodd Y Seintiau Newydd allan o Ewrop haf diwethaf (2-0 dros ddau gymal), ac uwchben Stjarnan, sef y clwb enillodd 8-0 dros ddau gymal yn erbyn Bangor yn 2014.
Ond dyw Akureyri ond wedi chwarae tair rownd yn Ewrop, ac fe gollon nhw bob un o rheiny.
Mae gan reolwr Cei Connah, Neil Gibson atgofion melys o chwarae’n Ewrop ar ôl sgorio gôl dyngedfennol wrth i Brestatyn guro Liepajas Metalurgs o Latfia yn 2013.
A bydd y blaenwr profiadol, Michael Wilde yn gobeithio ychwanegu at ei gyfanswm o chwe gôl Ewropeaidd, sy’n cynnwys hatric i’r Seintiau Newydd yn erbyn B36 Torshavn o Ynysoedd Ffaro yn 2015.
Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chynnal ym mhrif ddinas Gwlad yr Iâ, Reykjavik, sydd bron i 250 o filltiroedd (5 awr o siwrnai) i ffwrdd o’u cae arferol yng ngogledd y wlad.
A bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc, Croesoswallt ar nos Iau, 20 Gorffennaf gyda’r enillwyr yn camu ‘mlaen i wynebu unai Dundalk (Iwerddon) neu Bruno’s Magpies (Gibraltar) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
KF Shkëndija (Gogledd Macedonia) v Hwlffordd | Nos Iau, 13 Gorffennaf – 19:00
(Toše Proeski Arena, Skopje – Cymal Cyntaf Rownd Ragbrofol Gyntaf Cyngres Europa 2023/24)
Wedi 19 mlynedd o aros mae Hwlffordd yn dychwelyd i Ewrop ar ôl ennill gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru 2022/23.
Er gorffen yn 7fed yn y tabl, fe lwyddodd yr Adar Gleision i drechu Met Caerdydd (4ydd) a’r Drenewydd (6ed) ar giciau o’r smotyn yn y gemau ail gyfle i hawlio’r tocyn olaf i Ewrop.
O’r pedwar tîm sy’n gwrthwynebu clybiau Cymru yn y rownd ragbrofol gyntaf eleni, KF Shkëndija yn sicr yw’r mwyaf profiadol yn Ewrop.
Mae Klubi i Futbollit Shkëndija wedi ennill pencampwriaeth Gogledd Macedonia ar bedwar achlysur gyda’r diweddaraf o rheiny yn 2020/21, ond roedd gorffen yn 3ydd yn ddigon i selio lle’n Ewrop y tymor diwethaf.
Mae KF Shkëndija wedi ennill 12 allan o’u 26 rownd blaenorol yn Ewrop (46%) yn cynnwys buddugoliaeth o 5-4 dros ddau gymal yn erbyn Y Seintiau Newydd yn 2018.
Roedd Shkëndija wedi ennill 5-0 yn y cymal cyntaf gartref yn erbyn y Seintiau (4 gôl i flaenwr North Macedonia, Besart Ibraimi), ond fe frwydrodd YSN yn ôl yn yr ail gymal yn Neuadd y Parc gyda Ben Cabango ymysg y sgorwyr ar y noson (4-0), ond roedd YSN un gôl yn brin dros y ddau gymal.
Mae’r clwb o Tetovo, sydd rhyw 30 milltir i’r gorllewin o’r brifddinas, Skopje, wedi cyrraedd gêm ail gyfle Cynghrair Europa deirgwaith, ond erioed wedi cyrraedd rownd y grwpiau.
Llynedd fe enillon nhw yn erbyn Ararat Yerevean o Armenia ac yn erbyn Valmiera o Latfia, cyn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn AIK o Sweden yn nhrydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Ac yn Skopje, yn y Toše Proeski Arena bydd y cymal cyntaf yn cael ei chynnal, sef stadiwm rhyngwladol y wlad ble gollodd Cymru 2-1 yn erbyn North Macedonia ddeng mlynedd yn ôl.
Bydd hi’n her a hanner i Hwlffordd, sydd wedi ffarwelio gyda’u prif sgoriwr (Jordan Davies) a pedwar o’u chwaraewyr canol cae dros yr haf (Jamie Veale, Henry Jones, Corey Shephard, Ioan Evans).
Yn eu hunig ymddangosiad blaenorol yn Ewrop, fe gollodd Hwlffordd 4-1 dros ddau gymal yn erbyn Fimleikafélag Hafnarfjarðar (Gwlad yr Iâ) gyda Tim Hicks yn sgorio unig gôl yr Adar Gleision yn y cymal cartref ar Barc Ninian, Caerdydd.
Bydd Hwlffordd yn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer yr ail gymal eleni, ond i Stadiwm Dinas Caerdydd y tro hwn ar nos Iau, 20 Gorffennaf a bydd yr enillwyr yn wynebu unai B36 Tórshavn (Ynysoedd Ffaro) neu Paide Linnameeskond (Estonia) yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.